Covid-19: 24 yn rhagor o farwolaethau
- Cyhoeddwyd
Mae 24 marwolaeth ychwanegol o ganlyniad i Covid-19 wedi cael eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â 1,473 achos newydd.
Mae'n cymryd cyfanswm y marwolaethau yng Nghymru i 2,638 a chyfanswm yr achosion i 83,961.
Mae'r achosion newydd yn cynnwys 217 yng Nghaerdydd, 180 yn Rhondda Cynon Taf, 132 yng Nghastell-nedd Port Talbot, 126 yng Nghaerffili, 116 yng Nghasnewydd, 100 yn Abertawe, 86 yn Nhorfaen ac 84 yn Sir Gaerfyrddin.
Blaenau Gwent sydd â'r ffigyrau uchaf dros yr wythnos diwethaf am bob 100,000 o'r boblogaeth, gyda 468.1 achos.
Mae gan Gastell-nedd Port Talbot 434 i bob 100,000, Torfaen â 382.1, Merthyr Tudful â 377.9, Abertawe a 355.5 a Rhondda Cynon Taf â 335.7.
O'r 24 marwolaeth newydd, roedd 10 yn ardal Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, chwech yng Nghwm Taf Morgannwg, tri yn Aneurin Bevan, dau yn Hywel Dda, dau yng Nghaerdydd a'r Fro, ac un yn ardal Betsi Cadwaladr.
Cafodd 14,212 prawf eu cwblhau ddydd Mercher.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2020