Castell Gwrych: Ceidwad y trysorau

  • Cyhoeddwyd
"Ar ôl trwsio nhw mae angen lliwio popeth yn y llun"Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych
Disgrifiad o’r llun,

"Ar ôl trwsio nhw mae angen lliwio popeth yn y llun"

Mae miliynau wedi bod yn dilyn yn eiddgar digwyddiadau yng Nghastell Gwrych dros yr wythnosau diwethaf wrth i gyfres deledu I'm a Celebrity...Get Me Out of Here gael ei ffilmio yno.

Mae tirwedd Cymru ac yn arbennig y castell wedi dod at sylw cynulleidfa eang fel canlyniad. Un sy'n gyfarwydd iawn gyda'r castell a'i hanes yw Rhŷn Williams, sy'n gweithio i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych.

Mae Rhŷn yn rhannu stori ailgreu hanes y castell ger Abergele gyda ni wrth i'r gyfres ddod i ben.

Ffynhonnell y llun, Rhŷn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Rhŷn Williams ger Castell Gwrych

Effaith y gyfres

"Oherwydd fod y castell rŵan mewn dwylo saff Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych, rydym yn obeithiol fydd y castell yn denu twristiaid dros y byd i ymweld â'r adeilad ymhlith ein golygfeydd hyfryd, pictiwrésg.

"Mae hyn yn golygu fydd arian newydd yn cyfrannu i'n economi a drwy hyn, fydd busnesau o gwmpas Abergele a dros gogledd Cymru yn elwa hefyd.

Gofalu am drysorau

"Dwi'n ymchwilio cynnwys y castell cyn iddo droi'n adfail, felly mae hynny'n golygu chwilio drwy archifau papurau newydd mewn gwahanol ieithoedd ar y we.

"Rydym hefyd yn gofyn i'r cyhoedd anfon unrhyw storïau neu lluniau i ni er mwyn dysgu mwy am hanes yr adeilad.

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych
Disgrifiad o’r llun,

Lliwio'r llun: Y grisiau tu fewn Castell Gwrych fel roedden nhw...

Ffynhonnell y llun, I'm a Celebrity...Get Me Out of Here
Disgrifiad o’r llun,

Yr un olygfa heddiw: dyma sydd i'w weld ar y rhaglen pan mae'r selebs yn dod i lawr y grisiau yng Nghastell Gwrych

Stori'r castell

"Drwy ddefnyddio'r wybodaeth, fedrwn ni bwytho amserlen y castell at ei gilydd a darganfod patrymau yn ffurfio: pwy adeiladodd y castell, pa diroedd neu adeiladau oedd yn perthyn i'r tir, pwy oedd yn gweithio yno, pwy wnaeth tresmasu ar eu tir ac ati.

"Drwy ddarllen trwy'r wybodaeth mae pethau difyr yn dod i fyny, er enghraifft, roedd y teulu Bamford-Hesketh yn cymysgu gyda llawer o enwogion ac mae yna adroddiad o'r teulu brenhinol yn mynd ar wyliau i ogledd cymru, ymweld â Iarlles Winifred a mynd am dro incognito ar drên i Gaernarfon ac wedyn mynd i weld Frederick George Wynn ym mhlas Glynllifon.

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych
Disgrifiad o’r llun,

Iarlles Winifred

Lluniau newydd o'r castell

"Ar adegau mae'r lluniau mewn cyflwr mor ddrwg, mae'n rhaid gweithio arnynt am oriau er mwyn cael gwared o doriadau neu staeniau, wedyn ar ôl trwsio nhw mae angen lliwio popeth yn y llun.

"Y rheswm rydym angen casglu, trwsio ac archifio'r erthyglau, lluniau a'r eitemau yw i lenwi'r ystafelloedd gyda'r cynnwys oedd yn bresennol cyn iddynt gael eu gwerthu, fandaleiddio, dwyn a'u dinistrio.

"Rydym yn deall mor fawr yw'r gorchwyl yma ac rydym hefyd yn deall na allwn ni gael hyd i'r rhan fwyaf o'r eitemau felly y cynllyn yw i ychwanegu atgynyrchiadau o be' fedrwn ni weld tu fewn y lluniau rydym wedi casglu. Rydym o hyd yn edrych allan am grefftwyr dawnus i wirfoddoli eu amser i gyfrannu tuag at ein gweledigaeth i adfer y castell.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflwynwyr y gyfres Ant a Dec yn trio'u gorau i ddefnyddio'r Gymraeg wrth gyflwyno

"Rydym hefyd yn awyddus iawn i helpu ein diwylliant drwy roi hwb i grefftwyr, celfyddwyr, cerddorion a llawer o gyfryngau eraill drwy gynnal arddangosfeydd a digwyddiadau. Mae'n glir pa lwybr rydym eisiau dilyn - un sydd yn cefnogi delweddau Cymreig."

Hefyd o ddiddordeb

Pynciau cysylltiedig