Ymchwil i bresenoldeb siarc prin ym moroedd Cymru

  • Cyhoeddwyd
MaelgiFfynhonnell y llun, Carlos Suarez, Oceanos de Fuego
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Maelgi â chorff fflat, gan fod hyd at 1.8m o ran hyd a 80 cilogram o ran pwysau

Beth ydy'r cysylltiad rhwng yr Ynysoedd Dedwydd a Phen Llŷn? Yr ateb ydy siarc arbennig sy'n hynod o brin drwy'r byd.

Mae'r Maelgi'n tyfu i ryw saith troedfedd, ac yn treulio'i fywyd ar waelod y môr yn cuddio yn y tywod yn barod i ysbeilio rhywbeth sy'n dod trosto.

Mae 'na boblogaeth gref ohonyn nhw yn yr Ynysoedd Dedwydd, ac am ryw reswm maen nhw ym Mae Ceredigion hefyd.

Rŵan mae ymchwil wedi dechrau i weld os ydyn nhw yn nyfroedd Cymru drwy'r flwyddyn.

Mae Jake Davies yn gweithio i Brosiect Maelgi Cymru, ac fel rhan o'i waith mae'n profi dŵr ar draeth Carreg y Defaid ger Llanbedrog.

Mae samplau'n cael eu cymryd yn gyson o ddeg safle gwahanol o amgylch Bae Ceredigion.

"'Dan ni'n cymryd sampl o'r dŵr er mwyn chwilio am DNA Maelgi," dywedodd.

"Pan 'dan ni'n cymryd dŵr, 'dan ni'n gobeithio ffeindio DNA oddi ar y Maelgi ei hun sef croen neu unrhyw fath o mucus.

"Ma' hwnna wedyn yn cael ei samplo, a 'dan ni'n gallu gweld ydi Maelgi wedi bod yma neu yn bresennol yma."

Disgrifiad o’r llun,

Jake Davies yn cymryd samplau yn y môr oddi ar draeth Carreg y Defaid

"Blwyddyn yma cawsom ni dair record ohonyn nhw," meddai Jake. "Ond 'dan ni wedi cael mwy o records dros y ddeng mlynedd d'wetha'... mae 'na records yn mynd yn ôl i 1812.

"So 'dan ni'n gwybod efo'r gwaith 'dan ni yn ei wneud bod nhw wedi bod yma am ganrifoedd, ond yn y 50 mlynedd d'wetha' mae'r boblogaeth wedi mynd i lawr drwy'r byd.

"Yn y deng mlynedd d'wetha' 'dan ni wedi cael mwy o records ohonyn nhw yma oddi ar arfordir Cymru. Y gobaith ydi ffeindio faint ydi maint y boblogaeth oddi ar arfordir Cymru."

Mae'r Maelgi'n cael ei warchod gan y gyfraith. Drwy gydweithio efo pysgotwyr a phartneriaid eraill y nod ydy darganfod pa mor gryf ydi'r boblogaeth oddi ar arfordir Cymru fel bod modd gwarchod y Maelgi ar gyfer y dyfodol fel rhan o dapestri lliwgar byd natur.

Pynciau cysylltiedig