Darganfod siarc prin, y Maelgi, oddi ar arfordir Cymru

  • Cyhoeddwyd
siarcodFfynhonnell y llun, Dai Jones a Charlie Bartlett
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y lluniau hyn o'r siarc prin oddi ar arfordir Cymru eu cymryd yn y 60au a'r 70au

Mae gwyddonwyr wedi dod o hyd i dystiolaeth fod un o'r mathau mwyaf prin o siarc yn byw oddi ar arfordir Cymru.

Yn ôl rhai llongau pysgota mae rhywogaeth y Maelgi (Angel Shark) i'w weld yn y moroedd, er bod dim prawf o le yn union maen nhw'n byw.

Roedd y Maelgi yn gyffredin ar draws Ewrop ar un adeg, ond mae bellach ar restr goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur o greaduriaid sydd mewn perygl difrifol.

Hyd yma, yr unig dystiolaeth gadarn o gynefin yr anifail yw oddi ar Ynysoedd Canarïa - mewn ffilm ohonyn nhw yn bwydo ar wely'r môr.

Fe all tystiolaeth o bresenoldeb y pysgodyn olygu fod Cymru yn gynefin pwysig i'r siarc prin.

Ffynhonnell y llun, Carlos Suarez, Oceanos de Fuego
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan y Maelgi gorff fflat a chroen llwyd sy'n tyfu at 1.8m o hyd

"Pe bai ni'n colli'r Maelgi, byddwn yn colli llinell bwysig o ran hanes esblygiad - hanes nad sy'n bosib ei gael gan fathau o siarcod eraill," meddai Joanna Barker, o Gymdeithas Sŵolegol Llundain.

Mae Ms Barker yn dweud fod tystiolaeth ysgrifenedig yn bodoli o bresenoldeb y siarc yn y dyfroedd o amgylch Cymru 100 o flynyddoedd yn ôl.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth mae hi wedi dechrau prosiect ar y cyd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru. , dolen allanol

Y Maelgi

  • Maen nhw'n treulio llawer o'u hamser yn hela pysgod ar wely'r môr;

  • Ar un adeg yn gyffredin yn nwyrain Môr Iwerydd a Môr y Canoldir;

  • Maen nhw dan fygythiad oherwydd llygredd a llongau pysgota.

Ffynhonnell y llun, Charlie Bartlett
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r siarc oddi ar arfordir Aberdyfi yn y 70au neu'r 80au

Yn dilyn apêl am wybodaeth oddi wrth gymunedau morwrol, daeth nifer o luniau diddorol i'r fei.

Mae'n amlwg fod hela a dal y pysgodyn wedi bod yn dipyn o uchafbwynt i bysgotwyr yn y 70au a'r 80au, cyn i'r rhywogaeth gael ei ddynodi yn un prin a'i warchod.

"Yn ddiweddar, mae'r siarc wedi ei weld oddi ar Bae Ceredigion, Môr Hafren ac i'r gogledd o Gaergybi," meddai Ms Barker.

Ffynhonnell y llun, Carlos Suarez, Oceanos de Fuego
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r siarc yn bwydo ar wely'r môr

Un o'r cwestiynau mae biolegwyr am ei ateb yw a yw'r rhywogaeth yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng Cymru ac Ynysoedd Canarïa, neu a oes poblogaeth unigryw yng Nghymru?

Dywed gwyddonwyr eu bod yn gobeithio dod o hyd i'r ateb drwy gymryd swabiau DNA o groen yr anifail.

Yn y cyfamser mae nifer o weithdai lleol wedi eu trefnu o amgylch arfordir Cymru i geisio casglu mwy o dystiolaeth, gan gynnwys lluniau ac atgofion gan bysgotwyr.

Fe fydd y gweithdai yn dechrau yn Nefyn, Gwynedd, ar 25 Ionawr, gyda'r sesiynau yn para rhwng 10:00 a 17:00.

25/26 Ionawr - Amgueddfa Forwrol Llŷn, Nefyn;

11/12 Chwefror - Amgueddfa Treftadaeth Aberdaugleddau;

15/16 Chwefror - Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe;

1/2 Mawrth - Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth;

4/5 Mawrth - Cadéts Môr, Caergybi.