'Cefnogaeth pobl leol yn hollbwysig y cyfnod yma'
- Cyhoeddwyd

Ar Sadwrn y Busnesau Bach busnesau yn Rhuthun yn dweud bod cefnogaeth pobl leol yn hollbwysig
Mae siopa'n lleol yn "bwysicach nag erioed" eleni, yn ôl ymgyrch i hybu busnesau bach.
Cynhelir Sadwrn y Busnesau Bach ar draws y DU heddiw (5 Rhagfyr) am yr wythfed tro.
Yn ôl y trefnwyr, mae pobl yn cefnogi eu siopau lleol yn fwy nawr nag yn y cyfnod cyn y pandemig.
Ond maen nhw'n annog pobl i barhau i wneud hynny am fisoedd i ddod, o ystyried yr amgylchiadau.
Prin yw'r siopau cadwyn yn nhref Rhuthun, sy'n gartref i sawl busnes bach.
Ffynnu yn y cyfnod clo
Mae Hana Dyer o gaffi'r Cabin wedi gweld ei busnes hi'n ffynnu yn ystod y cyfnodau clo.
"I ni mae o wedi helpu," meddai.
"Mae pobl yn trio suportio yn lleol - lot o bobl yn dod fewn ac yn aros yn Rhuthun. A dydy pobl leol ddim yn mynd yn bell iawn, so maen nhw'n dal i ddod mewn i'r siop."

Mae Nicky Varkevisser yn rheolwr 'bar gin na sy'n cael gwerthu gin' ar hyn o bryd
Yr ochr arall i'r sgwâr, mae bar gin lle mae Nicky Varkevisser yn rheolwr. Oherwydd y gwaharddiad presennol ar werthu alcohol, mae'r busnes wedi troi at werthu diodydd poeth yn hytrach na choctels.
"Coffi a chacennau yw'r arlwy rŵan - a bar gin sydd ddim yn cael gwerthu gin!" meddai.
"Dwi'n meddwl bod busnesau ar y cyfan yn ei chael hi'n anodd. Sadwrn diwethaf roedd 'na farchnad Nadolig ac roedd y dref yn brysur am unwaith. Ond fel arall mae hi'n farwaidd yma."
Angen siopa'n lleol am gyfnod hir
Mae ymgyrch Sadwrn y Busnesau Bach yn dweud bod cyfraniadau bach cwsmeriaid unigol i'w siopau lleol yn gallu creu "effaith enfawr" mewn cyfnod anodd.

Dywed Hana Dyer bod ei busnes hi wedi ffynnu yn y cyfnod clo
"Nawr, fwy nag erioed, mae hi'n allweddol inni dynnu sylw at fusnesau bach a'r cyfraniad pwysig maen nhw'n ei wneud i'n gwlad" meddai Michelle Ovens, cyfarwyddwr y fenter.
"Eleni, rydyn ni'n annog pobl i estyn eu cefnogaeth nid yn unig ar Sadwrn y Busnesau Bach ond yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf, a thu hwnt, a hynny ymhob ffordd ddiogel bosib."
Mae Neil Darvill o siop anifeiliaid anwes Just4Paws, hefyd ar sgwâr Rhuthun, yn gweld bod mwy o gwsmeriaid yn dod drwy ddrysau'r siop. Ond mae'n pwysleisio bod angen i hynny barhau - a bod heriau eraill yn wynebu'r stryd fawr.
"Yn ystod y cyfnodau clo, fe drodd llawer o bobl at siopa ar y we. Mae angen bod pobl yn dod allan eto ac yn gwario'u harian yma."
I Gwilym Evans, perchennog siop lyfrau a chrefftau Elfair, mae cefnogaeth pobl leol wedi bod yn hollbwysig dros y misoedd diwethaf - ac mae'n credu bod llygedyn o obaith y bydd cwsmeriaid yn fwy hyderus i ddod allan yn y misoedd nesaf.
"Mae sicrwydd wedi dod efo'r brechlyn Covid-19. Mae'n mynd i gymryd amser, ac mae angen gofal, ond 'dan ni yn credu y bydd 'na drefn erbyn yr haf nesaf a bydd tref fel Rhuthun yn gallu parhau i ffynnu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2020