Nick Capaldi i adael Cyngor Celfyddydau Cymru erbyn Haf 2021
- Cyhoeddwyd

Bydd prif weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru yn gadael y swydd erbyn Haf 2021.
Erbyn yr haf, fe fydd Nick Capaldi wedi bod yn y swydd am 13 o flynyddoedd.
Mae effaith Covid-19 wedi bod yn ddifrifol ar sector y celfyddydau, ond dywedodd Mr Capaldi ei fod yn "ffyddiog... y bydd y celfyddydau'n ffynnu unwaith eto" erbyn yr haf.
Ychwanegodd: "Felly, rwy'n teimlo mai nawr yw'r amser priodol i rywun newydd gymryd yr awenau a chyflwyno syniadau newydd er mwyn mynd i'r afael â'r heriau gwahanol sydd i ddod."
Dywedodd cadeirydd y cyngor, Phil George, bod Mr Capaldi wedi "chwarae rhan allweddol" yn ffyniant y celfyddydau, a "newid lle y celfyddydau yng nghymdeithas Cymru".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020