Atal cynllun gofal Tregaron wedi heriau ariannol

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford AS a swyddogion eraill yn lansiad Cylch CaronFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd lansiad swyddogol o gynllun Cylch Caron yn Nhregaron yn 2016 pan gafodd y darn o dir ei brynu gydag arian Llywodraeth Cymru

Mae cynllun i ddarparu meddygfa, gofal cymdeithasol a thai gofal ar un safle yng Ngheredigion wedi ei atal am y tro.

Cafodd safle yn Nhregaron ei brynu ar gyfer canolfan Cylch Caron yn 2016.

Y gobaith oedd cynnig ystod o wasanaethau fel meddygon teulu, fferyllfa, cyfleusterau nyrsio a gofal cymdeithasol o un safle.

Y bwriad oedd i'r ganolfan fod yn bartneriaeth rhwng Cyngor Ceredigion, y bwrdd iechyd a'r gymdeithas dai leol.

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd y cyngor nad yw'n bosib cyflwyno cynllun "sy'n ariannol hyfyw" o fewn y gyllideb sydd ar gael ar gyfer y prosiect.

Roedd hynny "er gwaethaf ymdrech sylweddol... i ystyried opsiynau eraill o ran maint a chynllunio", meddai'r cyngor.

Gofid mawr

Dywedodd cadeirydd bwrdd y cynllun ei fod yn "destun gofid mawr" ond hefyd yn "gam angenrheidiol" er mwyn ail-ystyried a cheisio canfod datrysiad.

Ychwanegodd Peter Skitt: "Bydd y cyngor a'r bwrdd iechyd yn gwneud asesiadau brys o unrhyw ddatrysiadau dros dro y gallai fod angen eu gweithredu wrth i ni adeiladu cynllun hirdymor." 

Dywedodd y cyngor bod yr holl bartneriaid yn "parhau i fod yn ymrwymedig iawn i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol lleol, ochr yn ochr â chartrefi fforddiadwy hygyrch o safon".

Bydd ffyrdd eraill o ddarparu'r gwasanaethau yn cael eu harchwilio, meddai'r datganiad.

Pynciau cysylltiedig