Galw ar ffermydd i wneud mwy i leihau nwyon tŷ gwydr
- Cyhoeddwyd
Rhaid i ffermydd Cymru wneud mwy i leihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr, ond maen nhw eisoes ymysg y mwyaf cynaliadwy yn y byd, medd adroddiad newydd.
Fe edrychodd yr adroddiad yn fanwl ar 20 o ffermydd defaid a gwartheg Cymreig, gan gynnwys ymchwilio i faint o garbon oedd yn cael ei storio ar eu tir.
Roedd gan ffermydd mynydd yn arbennig lai o effaith ar yr amgylchedd nag oedd i'w ddisgwyl.
Mae amaeth yn gyfrifol am oddeutu 12% o allyriadau Cymru, y rhan fwyaf yn fethan o'r anifeiliaid eu hunain.
Yn ôl y corff sy'n cynghori'r llywodraeth - y Pwyllgor Newid Hinsawdd (CCC) - mae hyn yn faes heriol i Gymru, oherwydd pwysigrwydd y diwydiant i gymunedau gwledig.
Dyna un o'r rhesymau pam eu bod nhw wedi awgrymu targedu cwymp o 95% mewn allyriadau erbyn 2050, nod sy'n llai uchelgeisiol na gweddill y DU.
Yn ystod yr wythnosau nesaf fe fydd drafft gyntaf Mesur Amaeth Cymreig yn cael ei ddatgelu, gyda gwobrwyo ffermwyr am ymdrechion i fynd i'r afael â newid hinsawdd wrth galon y drefn cymorthdaliadau yn y dyfodol.
Hanes un ffermwr mynydd
Ffermwr mynydd a darlithydd amaethyddol o Nant-y-moel, Pen-y-bont ar Ogwr, yw Katie-Rose Davies.
"Rydyn ni'n rhedeg tua 1,000 o ddefaid mynydd de Cymru, a 40 o fuchod sugno - mae fy nheulu wedi bod yma ers bron i 100 mlynedd," meddai.
"Rydym yn ffermio gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau cynaliadwy a thraddodiadol - mae llawer o bethau ry'n ni'n eu gwneud wedi'u selio ar geisio lleihau ein heffaith amgylcheddol mewn gwirionedd."
"Felly pori cymysg er enghraifft - gwartheg a defaid gyda'i gilydd - gwelwn fod hynny'n gwella'r Molinia neu laswellt mynydd sy'n creu amgylchedd gwell ar gyfer mawn sy'n storio carbon a hefyd yn creu cynefinoedd newydd ar gyfer rhywogaethau prin fel y Cwtiaid Aur sydd gennym yma ar y fferm."
"Mae'n bwysig iawn bod pobl yn deall y gwahaniaeth rhwng ffermio yma yng Nghymru a'r diwydiant yn fyd-eang - mae llawer o sôn wedi bod am leihau faint o gig coch rydych chi'n ei fwyta... ond dylai fod yn ymwneud â phrynu cig sydd wedi'i gynhyrchu'n gynaliadwy."
Mae'r adroddiad newydd gan Hybu Cig Cymru, ar y cyd ag ymchwilwyr o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Limerick, yn dweud y dylai ffermydd ganolbwyntio ar wella pa mor gynhyrchiol yw eu hanifeiliaid.
Byddai blaenoriaethu iechyd, lles a chapasiti bridio yn golygu eu bod yn cynhyrchu mwy o gig, yn gyflymach gyda llai o fewnbynnau ac allyriadau.
Fe allai gwella safon y pridd a faint o garbon sy'n cael ei atafaelu - hynny yw ei amsugno a'i storio - ar ffermydd gael "effaith bositif sylweddol ar allyriadau net", tra bod defnyddio tir ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy yn cael ei annog hefyd.
Ond tra bod y CCC wedi annog i 20% o dir fferm y DU gael ei drosglwyddo at ymdrechion i storio carbon, mae'r adroddiad yn dweud bod "cynnal cnewyllyn allweddol o gynhyrchiant da byw yn gymorth i gynaliadwyedd economaidd a diwylliannol Cymru".
Mae'n pwysleisio bod gan amaeth yng Nghymru ymysg y lefelau isaf o allyriadau nwyon tŷ gwydr o systemau tebyg ar draws y byd.
Y rheswm am hyn yw nad yw'r ffermydd yn rhai dwys a - diolch i hinsawdd Cymru - mae ganddyn nhw ddigonedd o laswellt a dŵr, sy'n golygu nad oes angen mewnforio cymaint o fwyd ar gyfer yr anifeiliaid.
Canfu fod gwartheg bîff yn gyfrifol am 11-16kg o allyriadau cyfwerth â CO2 y cilo ar gyfartaledd, o'i gymharu â chyfartaledd byd-eang o oddeutu 37kg o allyriadau cyfwerth â CO2 y cilo.
Dangosodd yr astudiaeth fod defaid ac ŵyn yn gysylltiedig â 10-13kg o allyriadau cyfwerth â CO2, sydd unwaith eto yn gosod Cymru ymhlith y ffigurau isaf o blith yr astudiaethau a gynhaliwyd mewn rhannau eraill o'r byd.
Dywedodd Dr Prysor Williams, uwch ddarlithydd mewn rheolaeth amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, bod y casgliadau'n cynnig "golwg werthfawr inni o'r hyn y mae ffermydd Cymru eisoes yn ei wneud yn dda o ran cynaliadwyedd, a lle y gellir gwneud gwelliannau pellach".
Yn ôl Gwyn Howells, prif weithredwr Hybu Cig Cymru mae'n rhaid i'r diwydiant "wneud yn well yn y dyfodol a rhaid i ni dderbyn a chydnabod y rhan sy'n rhaid i ni ei chwarae wrth leihau allyriadau erbyn 2050 fel sy'n cael ei grybwyll yng Nghytundeb Paris."
Dywedodd, serch hynny, y gallai ffermwyr Cymru werthu eu cig yn hyderus fel "cynnyrch cynaliadwy", tra'n "saernïo dulliau cynhyrchu" er mwyn lleihau'r effaith amgylcheddol ymhellach yn y dyfodol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd2 Mai 2019
- Cyhoeddwyd15 Mai 2018
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2018