Cwpan y Byd: Cymru i herio tîm gorau'r byd
- Cyhoeddwyd

Wrth i'r enwau ddod o'r het ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022, cafodd Cymru wybod y byddan nhw'n herio Gwlad Belg.
Y Belgiaid sydd ar frig rhestr detholion y byd ar hyn o bryd.
Cafodd Cymru eu gosod yn Grŵp E, sy'n golygu eu bod mewn grŵp o bum tîm yn hytrach na chwech.
Fe fydd gan Gymru gemau hefyd yn erbyn Y Weriniaeth Siec, Belarws ac Estonia.
Bydd enillwyr y 10 grŵp yn mynd ymlaen i rowndiau terfynol y gystadleuaeth.
Fe fydd y timau sy'n gorffen yn ail yn y grwpiau yn mynd i'r gemau ail gyfle ynghyd â'r ddau dîm gorau o Gynghrair y Cenhedloedd sydd ddim eisoes yn y gemau ail gyfle.
Os na fydd Cymru yn y ddau uchaf yng Ngrŵp E, mae posibilrwydd bod gorffen ar frig eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn rhoi lle iddyn nhw yn y gemau ail gyfle.
Fe fydd y gemau yn y rowndiau rhagbrofol yn dechrau ym mis Mawrth 2021.
Ian Gwyn Hughes yn ymateb i grŵp Cymru yng Nghwpan y Byd 2022
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2020