Trydedd don o Covid-19 yn 'bryder pendant'
- Cyhoeddwyd
Mae meddygon sy'n cynghori Llywodraeth Cymru'n dweud bod trydedd don o Coronavirus yn "bryder pendant iawn, iawn".
Dywedodd Dr Gill Richardson, cadeirydd bwrdd rhaglen brechlyn Covid-19 Llywodraeth Cymru ei bod yn teimlo'n "falch ac yn gyffrous" ynglŷn â datblygiad y brechlyn, ond bod trydedd ton yn bosibilrwydd go gryf mewn rhai ardaloedd yng Nghymru yn barod.
Ddydd Llun dywedodd cyfarwyddwyr Bwrdd Iechyd Bae Abertawe y gall achosion coronafeirws gyrraedd lefelau trychinebus yn siroedd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot oni bai bod pobl yn dilyn y rheolau pellter cymdeithasol dros gyfnod y Nadolig.
Ddydd Mawrth, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru bod 780 o achosion newydd o coronafeirws wedi'u cadarnhau yng Nghymru dros y 24 awr diwethaf, a bod 31 yn rhagor o farwolaethau wedi eu cofnodi dros yr un cyfnod.
O'r achosion newydd roedd 93 yn Abertawe, 89 yn Rhondda Cynon Taf ac 82 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Roedd 65 yng Nghastell-nedd Port Talbot a 64 yng Nghaerffili.
Mae'r Gweinidog Iechyd hefyd wedi awgrymu bod "dewisiadau anodd i'w gwneud" ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd ar ôl y Nadolig.
Fore Mawrth cafodd y brechlynnau cyntaf yn erbyn Covid-19 eu rhoi i bobl mewn canolfannau arbennig.
"Rwy'n teimlo mor gyffrous ac mor falch iawn o'r holl bobl yng Nghymru a gymrodd ran yn y treialon brechlyn, ac mae'r staff i gyd wedi tynnu at ei gilydd yn anhygoel i'n cael ni i'r pwynt hwn lle gallwn ddechrau brechu heddiw," meddai Dr Richardson.
Pan ofynnwyd iddi am ei phryderon ynghylch nifer yr achosion yn cynyddu yng Nghymru - cafodd 2,000 o achosion Covid eu cofnodi mewn un diwrnod am y tro cyntaf ddoe, gyda chyfraddau mewn rhai ardaloedd ymhlith uchaf y DU - fe bwysleisiodd Dr Richardson fod angen i bobl barhau i gadw at y canllawiau.
"Rydyn ni i gyd yn bryderus, wrth i ni weld achosion yn codi rydyn ni'n gwybod mai'r peth nesaf fydd yn digwydd fydd derbyniadau i'r ysbyty ac yna derbyniadau ITU (Uned Gofal Dwys), ac, wrth gwrs, yn anffodus iawn, marwolaethau, felly mae'n apêl... er bod y brechlyn yn newyddion anhygoel o dda, mae angen i ni barhau i gadw at reolau pellter cymdeithasol - dwylo, gofod, wyneb."
Ychwanegodd bob angen i bawb fod yn ofalus, yn enwedig wrth i ni nesau at y Nadolig, o ran cymysgu gyda phobl eraill dan do.
"Trydedd don o coronafeirws yw ein pryder, ein hofn ni yn bendant iawn, ac yn anffodus, mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, mae'n edrych felly.
"Po fwyaf y gall pobl ei wneud i fynd yn ôl at yr hyn yr oeddem yn ei wneud yn y cychwyn cyntaf, cadw cymaint o bellter cymdeithasol, cadw hylendid dwylo, sicrhau eich bod yn gwisgo mwgwd eich wyneb, hyd yn oed os yw yn yr awyr agored, oherwydd os ydych chi mewn a marchnad orlawn neu ganolfan siopa, dyma'r ardaloedd a'r amodau lle gall ledaenu.
"Yn benodol, bydd dan do a chymysgu dan do, teuluoedd nad ydyn nhw yn eich swigen, yn y cyfnod cyn y Nadolig yn golygu y bydd heintiau'n esgyn."
Cyfyngiadau wedi'r Nadolig?
Yn y cyfamser dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod gan weinidogion Cymru "ddewisiadau anodd i'w gwneud".
Wrth siarad am y niferoedd cynyddol o coronafeirws yng Nghymru, awgrymodd Mr Gething, fod aelodau'r cyhoedd wedi methu â newid eu hymddygiad.
Dywedodd wrth raglen Today ar BBC Radio 4: "Er gwaethaf yr holl negeseuon ac anogaeth i fwy o bobl wneud y peth iawn, nid ydym wedi gweld y newid sylweddol a pharhaus yn ein patrwm ymddygiad."
Dywedodd Mr Gething ei fod yn "bosibl" ond yn annhebygol y gellid newid llacio cyfyngiadau Covid dros y Nadolig.
"Dw i ddim yn credu y byddwn ni'n gallu tarfu ar gytundeb y Nadolig."
Dywedodd pe bai'r rheolau'n cael eu gwneud yn llymach dros gyfnod yr ŵyl "bydd llawer o bobl yn llunio eu rheolau eu hunain a bydd hynny'n cyflwyno llawer mwy o anhawster ac yn cyflwyno llawer mwy o niwed i fwy o bobl mewn gwirionedd."
Fe ailadroddodd neges Llywodraeth Cymru o ofyn i bobl feddwl am yr hyn y dylent ei wneud, yn hytrach na'r hyn y gallant ei wneud o dan y rheolau.
Ond fe awgrymodd y gallai cyfyngiadau newydd fod ar y ffordd ar ôl y Nadolig.
"Mae gennym ni ddewisiadau anodd i'w gwneud dros yr ychydig ddyddiau nesaf ynglŷn â'r hyn y bydd angen i ni ei wneud ar ôl cyfnod y Nadolig."
Pan ofynnwyd iddo a ddylai ymweliad brenhinol arfaethedig Dug a Duges Caergrawnt fynd yn ei flaen yng Nghymru, ni alwodd Mr Gething iddo gael ei atal ond dywedodd: "Byddai'n well gen i nad oedd unrhyw un yn cael ymweliadau diangen.
"Ond nid yw eu hymweliad yn esgus i bobl ddweud eu bod wedi drysu ynghylch yr hyn y gofynnir iddynt ei wneud."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2020