Y Nadolig mewn pump gair
- Cyhoeddwyd
Mae na rai pethau sydd bob amser yn cael eu cysylltu gyda'r Nadolig; y bwyd, yr addurniadau ac wrth gwrs y dyn yn y siwt goch. Ond ydych chi erioed wedi meddwl beth yw tarddiad rhai o'r geiriau am y pethau hyn?
Ai gair Cymraeg yw 'moron', er enghraifft, ac ai cyfieithiad yn unig o 'Santa Claus' ydi 'Siôn Corn'?
Yr Athro Ann Parry Owen, Golygydd Hŷn gyda Geiriadur Prifysgol Cymru, sy'n tyrchu i hanes rhai o eiriau cyfarwydd yr ŵyl.
Celyn
Mae'n hen draddodiad i addurno'r cartref â chelyn ac arno aeron coch adeg y Nadolig. Nid yw'n syndod, efallai, mai 'pigog' yw ystyr sylfaenol 'celyn', ac mae'n amlwg mai'r un gair yn ei hanfod yw 'cuileann' mewn Gwyddeleg a 'kelenn' mewn Llydaweg.
Ond tybed a wyddech chi fod y gair Saesneg 'holly' (gynt 'hollin') hefyd yn perthyn iddo? Dangosodd Jacob Grimm (un o'r brodyr Grimm a gysylltwn â hanesion Sinderela a Hugan Fach Goch), fod 'c' wreiddiol yn aml yn troi'n 'h' yn Saesneg - ac fel y mae 'celyn' a 'holly' ('hollin') yn perthyn i'w gilydd, mae 'cant' a 'hundred' a 'cŵn' a 'hounds' hefyd yn perthyn i'w gilydd. Dyma enghraifft o 'Reol Grimm' yn ôl yr ieithegwyr.
Cyflaith
Mae gwneud cyflaith, neu daffi triag, yn un o'r traddodiadau teuluol y byddaf yn eu cysylltu â'r wythnosau sy'n arwain at y Nadolig. Sylwedd neu gymysgedd 'llaith' yw ystyr sylfaenol 'cyflaith', a defnyddid y gair yn arbennig ers talwm am gymysgedd llesol.
Roedd fy nain (o Gapel Garmon) yn gwbl grediniol bod ei chyflaith hi'n amddiffyn rhag pob annwyd a pheswch yn nhymor y gaeaf - doedd hi'n poeni dim am ei effaith ar ein dannedd!
Ar ôl berwi'r cymysgedd o fenyn, siwgr brown a thriagl, ei 'brofi' drwy ollwng llond llwyaid ohono i gwpanaid o ddŵr oer, byddai fy nain yn ei roi i galedu mewn tuniau pwrpasol, cyn ei dorri'n dalpiau bychain a'u lapio'n unigol mewn sgwariau bach o bapur gwrthsaim.
Mewn rhai ardaloedd, yn lle ei roi mewn tuniau, byddai'r cyflaith yn cael ei dywallt ar lechfaen (fel carreg aelwyd), ac yna'i foldio a'i dynnu nes y byddai'n ffurfio rhaffau coch euraid.
Ysgewyll Brwsel
'Blagur' neu 'egin' yw ystyr ysgewyll, hen air a gâi ei ddefnyddio hefyd am flagur ar goed neu am y brigau mân sy'n tyfu ar lwyni yn yr haf: yn union fel y gair Saesneg 'sprout'.
Cafodd y llysieuyn, sy'n perthyn i deulu'r bresych, ei ddatblygu yng Ngwlad Belg yn yr 16eg ganrif, a dyna sy'n esbonio'r cyswllt â Brwsel.
Caru neu gasáu - mae'n fater o'r naill neu'r llall pan ddaw hi i ysgewyll Brwsel, ac mae gwyddonwyr bellach yn credu mai ein DNA sy'n gyfrifol am hynny. Ond mae'n rhaid cael o leiaf un sbrowten ar blât cinio Nadolig (hyd yn oed os na chaiff ei bwyta!).
Moron
Os 'blagur' oedd ystyr ysgewyll, yna 'gwreiddiau' yw ystyr moron. Daeth y gair yn wreiddiol o hen air Saesneg 'moren', sy'n perthyn i'r Almaeneg Möhren 'moron'. Nid yw'r foronen, felly, yn ddim Cymreiciach na'r garotsen! Ceid moron gwyllt, neu foron y maes fel y'u gelwid, mewn amrywiaeth o liwiau: melyn, porffor, gwyn ac oren.
Ond yn yr Iseldiroedd yn yr 16eg ganrif, datblygwyd y foronen oren yn arbennig ar gyfer y farchnad fwyd. Anodd gwybod a oes unrhyw wirionedd yn yr hanes mai er mwyn anrhydeddu'r Tywysog Willem van Oranje o'r Iseldiroedd y bu hynny, ond yn sicr dyma lysieuyn arall cwbl angenrheidiol ar gyfer y plât cinio Nadolig - ac un y mae'r croeso iddo, ar y cyfan, yn dipyn cynhesach nag i'r ysgewyll Brwsel!
Siôn Corn
Mae'r enw Cymraeg Siôn Corn yn enw unigryw ar y dyn caredig hwn sy'n gadael anrhegion i blant bob Nadolig - yn wahanol i'r enw rhyngwladol Santa Clôs, sy'n cyfateb i 'Sinterklaas' yr Iseldiroedd, enw sy'n seiliedig ar enw'r sant Nikolaus, nawddsant plant.
...mae'n sicr mai'r hyn a wnaeth yr enw Siôn Corn yn boblogaidd yn y Gymraeg oedd cyhoeddi argraffiad cyntaf Llyfr Mawr y Plant yn Nadolig 1931
Mae'n debyg mai fel ysbryd caredig a drigai mewn corn simnai y cychwynnodd y Siôn Corn Cymraeg ei fywyd - dyna sut y disgrifiodd J. Glyn Davies ef yn Cerddi Huw Puw (1922): un a ofalai fod plant yn mynd i'w gwelyau yn gynnar, ac a wnâi anrhegion iddynt adeg y Nadolig.
Ond mae'n sicr mai'r hyn a wnaeth yr enw Siôn Corn yn boblogaidd yn y Gymraeg oedd cyhoeddi argraffiad cyntaf Llyfr Mawr y Plant yn Nadolig 1931, ac ynddo Lythyr Siôn Corn yn ogystal â llun o'r dyn ei hun!
Ac wrth gwrs mae cân J. Glyn Davies i Siôn Corn yn boblogaidd gan blant bach bob Nadolig bellach:
Pwy sy'n dŵad dros y bryn,
yn ddistaw ddistaw bach;
ei farf yn llaes
a'i wallt yn wyn,
â rhywbeth yn ei sach?
A phwy sy'n eistedd ar y to
ar bwys y simne fawr?
Siôn Corn, Siôn Corn
Tyrd yma, tyrd i lawr!
Nadolig Llawen!
Hefyd o ddiddordeb: