Lle i enaid gael llonydd: Huw Stephens
- Cyhoeddwyd
Mae'r DJ a chyflwynydd Huw Stephens, yn trafod y lle sy'n rhoi llonyddwch meddwl iddo wrth fynd am dro gyda'i fab Cai. Mae crwydro a beicio ar hyd llwybr yr afon Taf yn dod yn ôl ag atgofion o'i blentyndod yng Nghaerdydd iddo:
'Rhedeg o gwmpas a chwilio am wiwerod'
Mae Llwybr y Taf, neu'r Taff Trail, wedi bod yn fendith yn ddiweddar. Yn ystod yr haf diwethaf, roeddwn i, Sara fy ngwraig a Cai y mab ar ein beics bron a bod bob dydd.
Yn aml, byddwn i'n dod i weld yr hwyaiad ar y gamlas, a dod i weld cerflun enfawr o gawr sydd wedi ei greu o foncyff coeden, lle roedd Cai yn gallu rhedeg o gwmpas a chwilio am wiwerod.
Ro'n i arfer dod yma gyda Mam a Dad pan roeddwn i'n fach, ac roedd Dad wrth ei fodd yn mynd am dro yma. Roedd gen i a fy ffrindiau dŷ coeden yma, ac roedden ni'n dod lawr ar ein beics a gwario penwythnosau yn cuddio'n y coed, ac yn chwilio am antur.
Ar un cyfnod ro'n i mor falch gyda'r tŷ coeden, roeddwn i'n meddwl mod i'n mynd i fyw ynddo yn llawn amser. Nath hynny ddim digwydd.
'Gweld natur yn rhoi lles'
Fe wnaeth gweld natur, y coed a'r adar, y gamlas a'r afon Taf ei hun lot o les i mi y llynedd.
'Cyfle i ffoi'
Mae trên o'r Rhondda yn mynd heibio y weir, neu'r cored i roi'r gair Cymraeg arno. Dyw McDonalds ac Asda ddim yn rhy bell. Mae traffordd yr M4 yn agos iawn, a chi'n clywed y traffig mewn mannau. Ac mae ymgais ar hyn o bryd i achub y Dolydd Gogleddol, ardal arall prydferth iawn sy'n gysylltiedig â'r gamlas.
Dydy bywyd modern, bywyd bob dydd, ddim rhy bell o'r lle tawel, hardd yma. Ond mae'n neis ffoi o'r byd hwnnw am dipyn bach.
Hefyd o ddiddordeb: