Lle i enaid gael llonydd: Bethan Gwanas
- Cyhoeddwyd
Yr awdur Bethan Gwanas sy'n rhannu ei hoff le i gael llonydd, sef 'un o gyfrinachau Meirionnydd':
Mi fydda i wastad yn synnu cyn lleied o bobl sydd wedi clywed am Lynnoedd Cregennan.
Dwi wedi sgwennu am y lle droeon, mewn darnau ffeithiol yn ogystal â mewn nofel (Hi yw Fy Ffrind os cofia i'n iawn) ond mae'n amlwg nad oes llawer o grwydrwyr yn darllen fy ngwaith i. Dwi hyd yn oed wedi bod â chriw ffilmio o Ffrainc i fyny yma, ac roedden nhw wedi gwirioni.
Ond mae'r ffordd yn gul a llawn defaid; chewch chi byth fws i fyny yma, a dydi o ddim y lle calla i fynd os na allwch chi fagio'r car, felly mae Cregennan yn un o gyfrinachau Meirionnydd o hyd.
Dau lyn ydyn nhw, 800 troedfedd uwch lefel y môr rhwng Arthog a Dolgellau, dan lethrau Cader Idris. Mae 'na ynys fechan yn un ohonyn nhw, sy'n f'atgoffa o chwedlau Arthur.
Hawdd iawn yw dychmygu cwch hynafol llawn merched hirwallt, hardd yn croesi'r dŵr drwy'r niwl, neu gleddyf Caledfwlch yn codi o'r dyfnderoedd i gyfeiliant mellten (neu rywbeth dramatig cyffelyb).
Mi wnes i syrthio mewn cariad yma flynyddoedd yn ôl, a dwi'n dal i deimlo'r un wefr bob tro y bydda i'n dod yma. Mae'r lle'n wirion o ramantus. Wel, ar wahân i'r toiledau cyhoeddus, sy'n handi iawn - pan fyddan nhw ar agor.
Pan fydda i'n teimlo'n ffit, mi fydda i'n beicio i fyny yma, ond gan mod i a Del, fy nghi coch, yn tynnu mlaen bellach, dwi fel arfer yn parcio'r car yn y maes parcio a chrwydro'r llwybrau ac edmygu'r meini hirion a dychmygu am y canfed tro pwy roddodd nhw yno'r holl filoedd o flynyddoedd yn ôl.
Neu mi fyddwn ni'n dwy yn dringo'n araf i fyny Pared y Cefn Hir a sbio draw at Bont Bermo lle mae'r machlud yn wefreiddiol bron yn ddiffael.
Mae hi'n hyfryd yma hyd yn oed yn y glaw.
Y peryg efo rhannu fy hoff le i'r enaid gael llonydd ydi y byddwch chi'n heidio yma, ond mae 'na rai mannau sydd jest yn rhy dda i'w cuddio.
Hefyd o ddiddordeb: