Gall Nadolig gwael 'arwain at ben y daith' i rai siopau
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol manwerthwyr Cymru "yn y fantol" a gallai Nadolig gwael "arwain at ben y daith" i sawl busnes, yn ôl corff sy'n cynrychioli'r diwydiant.
Mae cwmnïau gan gynnwys Debenhams, Peacocks, Top Shop a Bonmarché ymhlith y diweddaraf i deimlo straen ariannol wedi blwyddyn fasnachu anodd.
Mae llawer o siopau sydd ddim yn cael eu hystyried fel rhai hanfodol wedi bod ar gau am fisoedd yn ystod 2020 wrth i gyfyngiadau geisio lleihau lledaeniad Covid-19.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod wedi darparu pecyn gefnogaeth fwyaf hael y DU i fusnesau.
Daw 20% o werthiannau'r sector manwerthu ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr, meddai Consortiwm Manwerthu Cymru.
Bydd busnesau'n chwilio am werthiannau Nadolig da i roi hwb ar ôl colledion eleni, dywedodd ei bennaeth, Sara Jones, wrth BBC Cymru.
"Mae cyfnod yr ŵyl yn gwbl hanfodol i fanwerthwyr... yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni", meddai.
"Mae'r arwyddion yn weddol gadarnhaol ein bod yn gweld nifer yr ymwelwyr yn dod yn ôl i'n strydoedd mawr yng nghanol ein trefi, ond byddai dweud bod hynny'n mynd i wella'r sefyllfa wedi blwyddyn drychinebus ddim yn wir," meddai Ms Jones.
"Roedd gennym rywfaint o obaith yn y cyfnod cyn y Nadolig y dylem allu cael rhan o'r fasnach honno'n ôl, cael pobl yn ôl i'n siopau, gallu manteisio ar y cynigion gwych. Ond fel y mae, rydym yn edrych ar ddarlun pryderus wrth ddechrau'r flwyddyn newydd", ychwanegodd.
Mae manwerthwyr sydd ddim yn cael eu hystyried fel rhai hanfodol wedi gorfod cau dros ddau gyfnod gwahanol yn 2020 ac mae'r posibilrwydd o gyfyngiadau pellach yn 2021 yn bosib os bydd achosion yn codi ar ôl y Nadolig.
"Mae dyfodol manwerthwyr yn y fantol, maen nhw'n gorfod gwneud rhywfaint o fuddsoddiad a phenderfyniadau anodd iawn ynghylch yr hyn sy'n digwydd yn y flwyddyn newydd," rhybuddiodd Ms Jones.
Mae grŵp Arcadia, sy'n cynnwys Top Shop, Peacocks a Bonmarché wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Mae disgwyl bydd Debenhams, sydd ag wyth siop yng Nghymru, yn cau eu drysau yn y flwyddyn newydd.
Ond nid y cadwyni mawr sydd wedi teimlo effaith y pandemig yn unig.
Mae Jayne Rees wedi bod yn rhedeg ei siop deganau, sydd bellach yn Llandeilo, ers 2002 ond dim ond am y tair blynedd diwethaf y mae wedi bod yn masnachu ar-lein.
Mae hi'n credu mai dyna sydd wedi achub y busnes.
"Rwy'n meddwl y byddem yn ei chael hi'n anodd iawn pe na bai gennym ein busnes ar-lein. Mae gwerthiant ar-lein wedi treblu," meddai Ms Rees.
"Doedden ni ddim yn ei ddisgwyl, ond mae wedi achub y dydd, ac wedi ein cadw i fynd. Mae siop teganau yn lle trist pan nad oes gennych blant ynddo. Ond rydyn ni wedi goroesi hyd yn hyn."
'Gwerthiant ar-lein yn uwch'
Mae Covid wedi golygu niferoedd cynyddol o bobl yn troi at brynu nwyddau ar-lein.
Mae'r manwerthwr ar-lein o Gaerdydd, Escentual, yn disgwyl i hynny barhau drwy gyfnod yr ŵyl wrth i gwsmeriaid osgoi'r siopau.
"Y syndod mwyaf eleni oedd bod gwerthiant ar-lein yn uwch nag yn siopau'r stryd fawr ar Ddydd Gwener Du felly mae hynny'n rhoi arwydd cryf iawn y dylai'r Nadolig fod yn dda iawn i ni eleni", meddai Chelsey Edmunds, rheolwr cyfathrebu Escentuals.
Roedd cynnydd o 265% mewn gwerthiant persawr cartref wrth i bobl aros gartref fwyfwy yn ystod y pandemig, meddai'r cwmni.
"Mae cwsmeriaid yn gwerthfawrogi'r hwylustod siopa ar-lein", ychwanegodd Ms Edmunds.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi trafod yn helaeth gyda busnesau dros y cyfnod cyn y Nadolig.
"Rydyn ni wedi darparu'r pecyn cefnogaeth fwyaf hael i fusnesau unrhyw le yn y DU ers dechrau'r pandemig Covid-19, gwerth bron i £2bn," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2020
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2020