Helen Mary Jones yn ymddiheuro am rannu neges 'trawsffobig'

  • Cyhoeddwyd
Helen Mary Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Helen Mary Jones wedi ail-drydar neges gan ddarlithydd o Brifysgol Reading

Mae un o wleidyddion Plaid Cymru wedi ymddiheuro am rannu neges y mae hi'n cydnabod oedd "wedi achosi poen a loes i lawer".

Rhannodd Helen Mary Jones AS drydariad yn beirniadu'r rhai oedd yn cyfatebu'r gwahaniaethu a wynebai'r gymuned drawsryweddol gyda'r Holocost.

Ond mae nifer yn y blaid wedi disgrifio'r ymddiheuriad fel un anghyflawn, ac mae rhai wedi canslo eu haelodaeth.

Dywed Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod y blaid "wedi ymrwymo i hawliau pobl drawsryweddol".

Beth oedd y neges?

Roedd Ms Jones wedi rhannu trydariad gan ddarlithydd o Brifysgol Reading oedd yn dweud: "Beth bynnag yw eich safbwynt ar ryw a hunaniaeth rhyweddol, rhowch y gorau i gyfatebu hyn gyda'r Holocost. Fe fyddwn i a llawer iawn o bobl eraill yn sefyll o flaen, neu yn lle, y rhai oedd yn cael eu rhoi ar drenau i'w cludo i'r gwersylloedd marwolaeth."

Mewn ymateb i'w thrydariad, dywedodd cyn-ymgeisydd Plaid Cymru, Chris Allen, mai gyda "thristwch enfawr" y teimlai fod yn rhaid iddo adael y blaid.

"Nid yw sefyllfa gyhoeddus rhai cynrychiolwyr etholedig yn erbyn y gymuned draws wedi gadael unrhyw ddewis i mi," ysgrifennodd ar Twitter.

"Dyw'r ffaith fod y Pwyllgor Gwaith ddim yn teimlo nad oes angen cosb ar wahaniaethu yn gadael unrhyw ddewis i mi. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn newid."

Canslo aelodaeth

Dywedodd Nicholas James, aelod o Blaid Cymru ers 2015, ei fod wedi canslo ei aelodaeth gan ddweud mai'r ail-drydariad gan yr aelod o'r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru "oedd y cam olaf".

"Mae hyn wedi bod yn digwydd ers amser maith," meddai.

"Roedd yn rhaid i mi adael oherwydd fy mod i wedi gweld y difrod seicolegol y mae trawsffobia yn ei wneud i bobl, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod yn gefnogwr cadarn.

"Os yw Plaid Cymru eisiau gwerthu delwedd Cymru gynhwysol, annibynnol i'r etholwyr yn yr etholiad nesaf ym mis Mai, ni all anwybyddu AS etholedig yn rhannu deunydd trawsffobig... ar Twitter."

Dywedodd Mr James fod y trydariad yn sarhaus oherwydd bod "pobl drawsryweddol a hoyw wedi'u targedu eu hunain yn ystod yr Holocost, ac mae'n beryglus o bosib i anwybyddu'r bobl hyn rhag cael eu targedu ar gyfer gwahaniaethu unwaith eto".

Adam Price
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, wedi croesawu ymddiheuriad Helen Mary Jones

Fe wnaeth Ms Jones ddileu'r neges o'i chyfrif ddydd Llun, gan ymddiheuro mewn neges ar Twitter ddydd Mercher.

"O ran yr ail-drydariad gen i dros y penwythnos, rydw i'n deall nawr ei fod wedi achosi poen a loes i lawer ac mae'n ddrwg gen i am hynny," meddai.

Ond, dywedodd un aelod o'r blaid, Aled Williams, nad oedd yr ymddiheuriad yn un didwyll a galwodd arni i ymddiswyddo.

"Mae hyn wedi mynd yn rhy bell i lawer ohonom," meddai.

"Y ffaith ei bod yn barod i ddefnyddio rhywbeth felly i danseilio brwydr pobl drawsryweddol heddiw dros eu hawliau a chael eu derbyn - roeddwn i'n meddwl bod hynny'n erchyll i fod yn onest.

"Dwi ddim eisiau rhywun sy'n credu ei bod yn fy nghynrychioli, oherwydd nid ydyn nhw'n cynrychioli'r hyn rwy'n ei gredu ynddo.

"Byddwn yn gwerthfawrogi ymddiswyddiad Helen Mary Jones. Nid wyf yn credu ei bod yn briodol iddi fod yn AS i Blaid Cymru."

'Croesawu ymddiheuriad'

Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: "Hoffwn ailddatgan ymrwymiad llwyr Plaid Cymru i hawliau pobl drawsryweddol.

"Mae dynion trawsryweddol yn ddynion a menywod trawsryweddol yn fenywod.

"Rwy'n croesawu'r ymddiheuriad gan yr aelod o fy nghabinet cysgodol yn dilyn y neges gafodd ei ail-drydar, sydd bellach wedi'i ddileu, a achosodd boen a loes i lawer."

Dywedodd Mr James ei fod yn croesawu ymrwymiad arweinydd y blaid i hawliau trawsryweddol, ond galwodd ar Ms Jones i "ymgysylltu â'r gymuned draws oherwydd nad yw ei hymddiheuriad yn mynd yn ddigon pell".

Pynciau cysylltiedig