Lle i enaid gael llonydd: Iolo Williams
- Cyhoeddwyd
Y naturiaethwr a chyflwynydd Iolo Williams sy'n rhannu ei hoff le i gael llonydd, ym mynyddoedd y Berwyn:
Pan mae bywyd yn mynd yn rhy brysur a dwi angen dianc i'r unigeddau i gael amser i synfyfyrio ac ymdrochi ym myd natur, bydda i'n anelu tuag at fynyddoedd y Berwyn.
Cefais fy magu ym mhentref Llanwddyn yng nghesail y Berwyn a dwi wedi crwydro pob modfedd sgwâr o'r ardal. Mae'n gartref i amrywiaeth eang o anifeiliaid a phlanhigion a gan nad oes fawr neb yn crwydro'r mawndiroedd, mae'n lle perffaith i ddianc o bwysau'r byd modern.
'Moddion i'r meddwl a'r corff'
Mae cerdded i sŵn neintydd yn sisial, ehedyddion yn canu a'r gwynt yn dawnsio trwy bennau gwyn plu'r gweunydd yn amhrisiadwy, yn enwedig ar ôl inni ddioddef canlyniadau Covid-19 drwy gydol 2020.
Mae llecynnau gwyllt fel y Berwyn yn werth eu pwysau mewn aur ac yn foddion i'r meddwl a'r corff.
Dwi wedi bod yn cerdded y bryniau grugog yma ers pan oeddwn yn 8 oed ac os caf fyw, bydda i'n parhau i ymweld â nhw ymhell ar ôl cyrraedd 80!
Hefyd o ddiddordeb: