Hunan-anafu a thrais ar gynnydd yng ngharchardai Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae hunan-anafu ac ymddygiad treisgar ar gynnydd yng ngharchardai Cymru wrth i gyfyngiadau coronafeirws llymach barhau, yn ôl corff sy'n monitro'r amodau mewn carchardai.
Mae'r canlyniadau "wedi bod yn anferthol", medd cynrychiolydd y Bwrdd Monitro Annibynnol (IMB) yng Nghymru, er bod carchardai wedi llwyddo i gadw cyfraddau Covid-19 yn isel tan yn ddiweddar.
Yn ôl Steven Cocks, mae gan yr IMB bryderon sylweddol pe bai'r sefyllfa bresennol yn parhau.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai bod camau "pendant" wedi "achub nifer o fywydau", ond y byddai'n parhau i wneud carchardai mor ddiogel â phosib.
"Os rydych yn cadw rhywun dan glo am 23 awr y dydd - a dyna'r cyfartaledd yng Nghymru - mae'n cael effaith ar iechyd meddwl pobl," meddai Mr Cocks. "Mae wir yn eithaf niweidiol."
"Mae'r holl sefyllfa, rwy'n meddwl, yn dechrau gwaethygu. Er i achosion o bethau fel hunan-anafu ostwng yn y lle cyntaf, mae yna dystiolaeth glir nawr bod hynny ar gynnydd."
Mae ystadegau a gafodd eu dadansoddi gan yr arbenigwr troseddeg, Dr Robert Jones yn awgrymu cynnydd o 14% yng nghyfradd hunan-anafu yng ngharchardai Cymru rhwng Ionawr a Mehefin eleni, o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Mae hynny'n cyferbynnu â gostyngiad o 8% ar draws holl garchardai Cymru a Lloegr, ond mae ystadegau unigol rai o garchardai Cymru'n amlygu darlun cymysg:
Carchar Y Berwyn, Wrecsam: 664 achos - cynnydd o 69%
Carchar Y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr: 662 achos - cynnydd o 15%
Carchar Caerdydd: 297 achos - gostyngiad o 19%
Carchar Abertawe: 130 achos - gostyngiad o 38%
'Digalonni'
Dywedodd un rhiant wrth BBC Cymru, sydd heb weld eu mab yn y carchar ers Chwefror, bod y sefyllfa'n "rhwystredig" ac yn effeithio ar y teulu cyfan, er bod galwadau fideo wythnosol "wedi helpu llawer".
"Rydan ni'n siarad gyda fo bob diwrnod ar y ffôn, ond dydy o ddim yr un peth ac mae'n achosi cryn bryder i mi hefyd," meddai.
"Mae methu gweld eu hanwyliaid wirioneddol yn effeithio'r teuluoedd, a nawr mae rhai o'r bechgyn ar ei adain wedi cael prawf positif.
"Mi wn ei fod yn digalonni yn ei gylch, ond mae'n gorfod aros yn gryf er ein mwyn ni."
'Monitro'n bwysicach nag erioed'
Mae yna effaith hefyd ar ymdrechion atal aildroseddu, meddai Steven Cocks. Mae'n dadlau bod gwaith y bwrdd monitro, sy'n ceisio penodi rhagor o aelodau, yn fwy allweddol nag erioed
"Mae'n anodd eithriadol ar y foment i garchar osod mesurau i fynd i'r afael ag ymddygiad troseddol dynion," meddai.
"Rwy'n teimlo na fu amser pwysicach i ni fynd i sefydliadau i'w monitro, oherwydd ni yw'r unig grŵp o bobl annibynnol sy'n mynd yna yn wythnosol."
Roedd yr Athro Mark Bellis o Brifysgol Bangor yn rhan o ymchwil a gyhoeddwyd dros yr haf, a amlygodd cysylltiadau rhwng cyfraddau uchel o brofiadau plentyndod anodd a hunan-anafu ymhlith carcharorion yng Nghymru.
"Mae delio â'r problemau hyn yn hanfodol, ac yn fwy fyth mewn cyfnodau fel pandemigau pan fo risg wirioneddol i iechyd meddwl pobl," meddai.
"Does dim amheuaeth fod yna risg lawer uwch i les meddyliol carcharorion nag ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol.
Ychwanegodd fod carcharorion sydd eisoes yn fregus o ran eu lles meddyliol ac wedi'u hynysu fwy nag arfer, "yn anffodus mewn sefyllfa ble mae'n haws o lawer iddyn nhw ddioddef" oherwydd y pandemig.
Canlyniad posib hynny weithiau, meddai yw "hunan-anafu neu hyd yn oed ymgais i ladd eu hunain".
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai bod camau "pendant" fel cynnig gweithgareddau mewn celloedd a chynnig galwadau fideo gyda theulu wedi "achub nifer o fywydau".
Ychwanegodd y llefarydd y byddai'r gwasanaeth yn "parhau i weithio'n galed i wneud ein carchardai mor ddiogel â phosib yn ystod y cyfnod heriol, unigryw yma".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd28 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd16 Medi 2020