Nadolig: Dwy aelwyd, nid tair, i gael dod at ei gilydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
mdFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd Mark Drakeford y byddai Cymru gyfan yn symud i Lefel 4 ar ôl y Nadolig

Dwy aelwyd, nid tair, a pherson sy'n byw ar ben ei hun fydd yn cael cwrdd dros ŵyl y Nadolig yng Nghymru eleni.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yr hyn a gyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford mewn cynhadledd newyddion ddydd Mercher yn dod yn ddeddf.

Daw'r penderfyniad er gwaethaf adroddiadau blaenorol fod pedair llywodraeth y DU wedi cytuno y gallai tair aelwyd gwrdd rhwng 23 a 27 Rhagfyr.

Mae'r pedair llywodraeth wedi cyhoeddi cyngor ar y cyd sy'n annog pobl i ffurfio swigen "ond os oes wir angen".

Cyhoeddodd Mr Drakeford hefyd yn y gynhadledd y byddai Cymru gyfan yn symud i Lefel 4 o gyfyngiadau ar ôl y Nadolig er mwyn ceisio atal ymlediad Covid-19.

Mae galw ers dyddiau o sawl cyfeiriad, gan gynnwys arbenigwyr meddygol, i'r llywodraethau dynhau'r cyfyngiadau dros yr ŵyl yn hytrach na'u llacio, wrth i gyfraddau coronafeirws gynyddu ar draws y bedair gwlad.

Yn y cyfamser, mae swyddogion iechyd wedi cyfaddef bod 11,000 o brofion Covid positif ychwanegol ar goll o ffigyrau swyddogol ar hyn o bryd.

Mae'r cyfyngiadau fydd yn dod i rym yn golygu y bydd siopau nwyddau sydd ddim yn hanfodol yn cau, ac mae hynny hefyd yn wir am wasanaethau cyswllt agos, a chanolfannau hamdden a ffitrwydd.

Fe fyddan nhw i gyd yn cau ar ddiwedd y diwrnod masnachu ar Noswyl Nadolig, 24 Rhagfyr.

Bydd lleoliadau lletygarwch i gyd yn cau am 18:00 ar Ddydd Nadolig.

Yna, ar 28 Rhagfyr, fe fydd cyfyngiadau llymach yn dod i rym sy'n ymwneud ag aelwydydd yn cymysgu, llety gwyliau a theithio.

Ond y cyhoeddiad mawr oedd y byddai ond dwy aelwyd yn cael cymysgu dros gyfnod y Nadolig i ffurfio swigen.

Bydd unigolion yn cael ymuno gyda'r swigen os fyddai peidio gwneud yn golygu y bydden nhw ar ben eu hunain.

Beth ddywedodd Mark Drakeford?

Dywedodd Mr Drakeford: "Mae'r sefyllfa yma yng Nghymru mor ddifrifol fel taw dim ond dwy aelwyd ddylai ddod at ei gilydd dros y Nadolig.

"Y nifer lleiaf o bobl sy'n cymysgu o fewn cartrefi, y lleiaf yw'r siawns o ddal neu ledaenu'r feirws."

Wrth agor y gynhadledd dywedodd y prif weinidog fod y sefyllfa yng Nghymru yn parhau'n ddifrifol ac felly bod yn rhaid symud i dynhau'r rheolau.

Parhau i gynyddu mae'r nifer o gleifion Covid sy'n mynd i'r ysbytai, meddai Mark Drakeford, gan ddweud fod y niferoedd ar ei uchaf hyd yma.

Dywedodd fod hyn yn golygu 2,100 o bobl yn cael triniaeth, digon ar gyfer pum ysbyty cyffredinol. Mae 98 o bobl - y lefel uchaf yn ystod yr ail don - yn cael triniaeth mewn unedau dwys.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Ychwanegodd Mr Drakeford y dylid defnyddio'r rhyddid ychwanegol sy'n cael ei ganiatáu dros y Nadolig "mewn modd cyfrifol a gofalus".

Wrth sôn am ei benderfyniad i gau busnesau nad ydynt gwerthu nwyddau angenrheidiol o Noswyl y Nadolig dywedodd Mr Drakeford: "Mae'r modelu yn dangos pe bai ni mewn sefyllfa lle byddai nifer fawr o bobl yn dod at ei gilydd ar gyfer cyfnod y sêls ar Ŵyl San Steffan, yna byddai hynny'n math arall o gymysgu.

"A phryd bynnag mae pobl yn dod at ei gilydd mae risg coronafeirws yn cynyddu.

"Nid ydym mewn sefyllfa yng Nghymru heddiw, lle gallwn ni ganiatáu i'r risgiau yna ddigwydd.

"Cymaint yw difrifoldeb ein sefyllfa fel y bydd yn rhaid i ni leihau'r risgiau lle bynnag y gallwn."

Beth ydy cyngor pedair llywodraeth y DU?

Mae pedair gwlad y DU yn gytûn mai Nadolig bach a byr sydd fwyaf diogel, gan "annog yn gryf" y dylai pobl gadw at eu haelwydydd eu hunain os yn bosib.

Maen nhw'n annog pobl i "feddwl yn ofalus iawn" am y risgiau o ffurfio swigen Nadolig, ac i wneud hynny "ond os ydych chi'n teimlo bod wir angen".

Os yw pobl yn bwriadu ffurfio swigen estynedig, y cyngor yw lleihau cysylltiad gydag unrhyw un y tu allan i'r aelwyd arferol cyn gynted â phosib.

Dylai ymweliadau gyda'r swigen estynedig fod yn fyr, gan aros dros nos ond pan nad oes dewis arall - nid yw'r cyfnod o bum niwrnod yn darged, meddai'r datganiad.

Mae'n arbennig o bwysig i feddwl am y risgiau ynghlwm â gweld pobl fregus dros y cyfnod, ac os ydy pobl yn ffurfio swigen, dylent ymddwyn yn "ddiogel" drwy olchi dwylo, cadw pellter a gadael digon o awyr iach i mewn.

Ymateb dau fusnes

Disgrifiad o’r llun,

Mae gorfod cau noswyl Nadolig yn 'glatshen', medd Eurig Lewis

Mae'r cyhoeddiad yn "ergyd", yn ôl perchnogion dwy siop ddillad yng Nghaerfyrddin a symudodd i rannu adeilad mwy yn y dref yn ddiweddar.

"Fel ma'r feirws yn mynd, fi'n deall pam bod nhw'n neud e," meddai Eurig Lewis, perchennog siop ddillad dynion Jackie James.

"Ond ar yr ochor arall... dyma sy'n cadw fi i fynd, dyma sy'n cadw to ar y 'mhen i. Mae'n glatshen i gorffod cau, yn enwedig gyda'r dydd ar ôl Nadolig a'r cyfnod 'na mae llawer o bobol ar hyd y lle a ma' busnes fel arfer yn eitha' da."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lucy Evans yn siomedig ond yn deall bod rhaid diogelu iechyd y cyhoedd

Mae Lucy Evans o siop Me & Luce hefyd yn deall bod "rhaid i iechyd a lles pobl ddod yn gyntaf, ond mae gorfod cau ar adeg mor brysur o'r flwyddyn "yn amlwg yn llorio rhywun".

Ychwanegodd: "Rydyn ni wedi cael blwyddyn mor anodd eisoes."

'Dryswch'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd bod y sefyllfa yn "ddifrifol iawn", a bod "dyletswydd i weithredu" er mwyn amddiffyn y GIG.

Ond ychwanegodd Paul Davies AS bod angen "mwy o eglurder" ynghylch y trefniadau.

"Nid yw'r negeseuon cymysg gyda'r cyngor yn dweud un peth a'r rheolau'n dweud rhywbeth arall yn helpu," meddai.

Ychwanegodd y byddai'n parhau i bwyso am gymorth i fusnesau, ac am gyflwyno rheolau rhanbarthol yn y dyfodol.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru bod "potensial am ddryswch a negeseuon cymysg" o ganlyniad i'r penderfyniad.

Newid y cyngor i bobl "yn sicr ydy'r peth cywir i'w wneud" meddai Adam Price, ond ychwanegodd y gallai fod yn well i "newid y rheolau i gyd-fynd gyda'r cyngor" er mwyn osgoi dryswch.

"Y pwynt yw rhoi neges glir i bobl bod angen i ni bwyllo ychydig yn fwy er mwyn cadw pawb yn ddiogel."

'Un neges yn unig'

Dywedodd Mr Drakeford wrth BBC Cymru mai ei unig neges ddydd Mercher oedd y dylai ond dwy aelwyd a pherson unigol gwrdd dros bum niwrnod y Nadolig.

"Byddwn yn cyfuno'r rheolau a'r canllawiau oherwydd un neges yn unig sydd yna."

Ychwanegodd fod arweinwyr y DU "wedi cytuno ar ddatganiad y pedair gwlad" a'i fod yntau'n "hollol gytûn ynghylch hwnnw".

Mynnodd mai un neges sy'n cael ei rhoi ar draws y DU, sef "gwnewch cyn lleied ag sydd angen y Nadolig yma, defnyddiwch eich rhyddid yn gyfrifol ac yn bwyllog, a meddyliwch wastad am effaith hynny ar eich diogelwch eich hun ac eraill."

Pynciau cysylltiedig