'Bu farw ein plentyn yn ystod y cyfnod clo'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Colli babi: "Profiad anoddaf fy mywyd i"

Mae teulu ifanc wedi bod yn disgrifio'r profiad erchyll o golli plentyn yn ystod y pandemig.

Dywed Rhys Thomas a'i wraig Sarah ei bod nhw wedi ei chael hi'n anodd hefyd i geisio canfod gwasanaethau i'w cynorthwyo yn eu galar drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ychwanegodd Mr Thomas nad oedd "wedi ffeindio unrhyw help swyddogol" i siarad Cymraeg am ei sefyllfa.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn parhau gyda'r gwaith o "ffurfio fframwaith profedigaeth cenedlaethol", gan gynnwys anghenion pobl mewn profedigaeth, yn y Gymraeg.

Ym mis Tachwedd y llynedd fe glywodd Rhys Thomas a'i wraig Sarah eu bod nhw'n disgwyl eu trydydd plentyn.

Roedd hi'n amser o ddathlu a pharatoi.

Ond ar ddiwedd mis Mai eleni, fe gawson nhw y newyddion trist eu bod wedi colli eu bachgen bach, Arwel.

'Buon ni yn cwtsho fe'

"Rwy'n cofio fe fel ddoe, roedden ni yn gwylio'r teledu a d'wedodd Sarah bod hi ddim wedi teimlo fe yn symud heddi'," meddai Rhys.

"Roedd hi tua deg y nos ac aeth hi i'r ysbyty. Achos Covid a'r cyfnod clo roedd hi'n gorfod mynd ar ei phen ei hun."

Am tua 23:00 fe gafodd Rhys alwad gan ei wraig yn ei dagrau yn dweud bod y plentyn wedi marw.

"Roedd pawb mor dda yn yr ysbyty," meddai Mr Thomas. "Gaethon ni benwythnos wedyn i drio ymdopi ac ar ôl y penw'thnos ethon ni mewn i Sarah roi genedigaeth i Arwel."

Fe wnaeth y ddau ohonyn nhw dreulio diwrnod gydag Arwel yn yr ysbyty.

"Buon ni yn cwtsho fe," meddai. "Nes i ganu Yma o Hyd iddo fe achos dyna be' fi'n canu i plant fi pan bo' nhw mynd i gysgu. Roedd cael yr amser yna gyda fe mor bwysig."

Bu'n rhaid i'r ddau ddychwelyd adre wedyn i Bontyclun ar eu pen eu hunain.

"Roedd e'n anodd... dal yn. Roedden ni wedi paratoi ei stafell e, sedd car ac ati, a ni wedi gorfod paco popeth lan nawr a dodi fe lan yr atig."

Un o'r pethau anoddaf ar ôl cyrraedd 'nôl oedd esbonio beth oedd wedi digwydd wrth ddau fab arall y teulu.

"Mae e dal yn frawd i'r bechgyn, mae llunie gyda ni a ni dal yn siarad am Arwel er mwyn cadw y cof amdano fe yn fyw."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rhys Thomas fod Covid yn gwneud profiad anodd yn anoddach

Yn ystod cyfnod eithriadol o anodd, mae'r teulu a ffrindiau wedi bod yn gefnogol.

Mae'r elusen Sands, sy'n helpu pobl sy' wedi colli babi, hefyd wedi bod yn siarad yn gyson â'r teulu.

Ond mae wedi bod yn anoddach, meddai Mr Thomas, oherwydd Covid.

"Dyw popeth ddim ar agor, ac mae'r siarad a'r cwnsela wedi digwydd dros y we yn lle cwrdd â rhywun yn bersonol," meddai.

"O'dd ishe lot o gymorth arna i yn bersonol - ro'n i ishe siarad â phobol oedd 'di mynd trwyddo fe. Achos pan ti reit ynghanol e ti jyst ffili gweld y diwrnod nesa heb sôn am w'thnos neu fis sydd i ddod.

"Ti methu rhagweld bywyd yn mynd ymlaen. Felly mae'n help mawr i siarad â phobl sy' wedi mynd trwyddo fe ac wedi ailafael yn eu bywyde a mynd 'nôl i'r gwaith ac yn y blaen - mae e'n roi hyder i ti wedyn.

"Achos, a bod yn hollol onest, ti yn cael y munude a theimlade tywyll... tywyll tu hwnt. Dyma y peth mwya' anodd sy' 'di digwydd i fi erioed."

Iaith fy nghalon

Un o'r heriau mawr iddo oedd ceisio canfod cymorth trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Dyma iaith fy nghalon," meddai. "Rwy wastad yn dewis siarad Cymraeg, mae'n fwy naturiol ac rwy'n teimlo yn fwy cyfforddus.

"Rwy' 'di stryglo gyda'r ffaith yma, symoi 'di ffindo unrhyw help yn swyddogol i siarad Cymraeg am y sefyllfa yma. Fi 'di stryglo â hyn."

Mewn ymateb, dywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg: "Mae trafod teimladau tra'n galaru yn anodd ym mhob iaith; a rhwystr ychwanegol yw gorfod ceisio gwneud hynny yn eich ail iaith.

"Rydym wedi clywed am achosion dros y blynyddoedd o bobl yn methu â chael gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gymraeg, ond nid oes gennym ffigyrau swyddogol o ran y niferoedd sy'n gweithio yn y maes sy'n gallu siarad Cymraeg.

"Mae gofyn i fyrddau iechyd asesu anghenion eu poblogaeth o safbwynt yr angen am wasanaethau iechyd meddwl yn y Gymraeg a chynllunio ar gyfer hynny.

"Ond rydym yn awyddus i ddeall yn well y graddau y mae hynny yn digwydd mewn ffordd ystyrlon ym mhobman."

Disgrifiad o’r llun,

'Rhwystr ychwanegol' ydy trafod galar yn eich ail iaith meddai Comisiynydd y Gymraeg, Aled Edwards

"Mae 'Mwy na Geiriau' yn tanlinellu pwysigrwydd derbyn gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gymraeg yn ogystal.

"Mawr obeithiwn y bydd yr achos hwn yn fodd o danlinellu ymhellach bwysigrwydd darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gymraeg a diolchwn am ddewrder y teulu a'u parodrwydd i drafod y mater hwn yn agored."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydymdeimlo â'r teulu, gan ychwanegu eu bod yn clustnodi £1m yn ychwanegol ar gyfer pob math o gefnogaeth galaru o Ebrill 2021.

Mae gwaith hefyd yn parhau ar ffurfio fframwaith profedigaeth cenedlaethol i helpu a bydd hyn yn cynnwys anghenion pobol mewn profedigaeth o ran y Gymraeg, meddai'r llywodraeth.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Cwm Taf eu bod yn gobeithio, gydag amser, i allu cynnig mwy o wasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg i helpu a chefnogi teuluoedd yn wynebu profedigaeth.

'Cymraeg oedd ein hiaith ni'

Yn y cyfamser, ym Mhontyclun, mae Rhys Thomas yn awyddus i glywed gan unrhyw grwpiau all helpu.

"Bydd grŵp cefnogi yn grêt trwy gyfrwng y Gymraeg. I fi mae y dewis i siarad Cymraeg yn hanfodol i'm iechyd meddwl i a phopeth," meddai.

"Os oes grŵp mas yna, bydden i mwy na hapus i glywed, os na, efalle dylen i ddechre un.

"Rwy' wastad yn meddwl pan yn cael help, cefnogaeth neu gwnsela bydde lot gwell i fi 'neud hwn trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Rwy' di colli Arwel a Chymraeg oedd ein hiaith ni. Mae jyst yn teimlo yn naturiol i sôn am Arwel yn ei iaith gynta' fe, ac mae yn helpu fi i gysylltu mwy gyda fe."