Teyrnged i ddyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn ifanc a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A470 ym Mannau Brycheiniog wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Jordan Ingram, oedd yn 19 oed, wedi'r digwyddiad yn ardal Storey Arms tua 22:30 nos Sadwrn, 5 Rhagfyr.
Un cerbyd yn unig oedd yn y gwrthdrawiad, sef ei gar Mini Cooper du.
Mewn datganiad gan ei fam Nikki Ingram, dywedodd bod hithau a'i dad, Paul Ingram, yn cofnodi "marwolaeth drasig ein mab hardd.... bydded i Jordan orffwys mewn hedd".
Mae hefyd wedi diolch Heddlu Dyfed-Powys am eu cymorth "rhagorol".
Mae'r llu'n parhau i apelio am wybodaeth neu luniau dash cam gan unrhyw un a welodd y cerbyd yn yr ardal ar noson y gwrthdrawiad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2020