Cartref newydd i fad achub diolch i ddau Ferrari

  • Cyhoeddwyd
ArwerthiantFfynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,

Y ddau Ferrari sydd wedi bod mor werthfawr i'r ymdrechion codi arian ar gyfer cwt newydd Sefydliad y Badau Achub ym Mhwllheli

Bydd criw bad achub Pwllheli yn symud i gartref newydd yn y flwyddyn newydd, ond mae hanes sut y daeth yr adeilad i fodolaeth yn anarferol a dweud y lleia'.

Y llynedd cyhoeddodd Sefydliad y Badau Achub (RNLI) y byddai Pwllheli yn cael bad achub newydd sbon, dosbarth Shannon.

Gan nad ydi'r cwt presennol yn ddigon mawr i ddal y cwch newydd roedd rhaid cael adeilad newydd.

Aeth y pwyllgor lleol ati i godi arian a hyd yma mae pobol Pwllheli wedi codi £83,000. Ond mae eu hymdrechion i godi arian wedi cael hwb annisgwyl.

Maen nhw wedi derbyn rhodd o £2.8m mewn ewyllys gŵr o Northampton. Roedd Richard Colton yn cadw ceir clasurol ac mi adawodd ddau gar Ferrari i'r RNLI yn ei ewyllys.

Mi gawson nhw eu gwerthu yn Sothebys am £8.5m - y rhodd unigol mwyaf erioed i'r sefydliad ei dderbyn, ac mae Pwllheli wedi cael cyfran o'r arian yna.

Disgrifiad o’r llun,

Delyth Davies yw cadeirydd pwyllgor noddi'r RNLI ym Mhwllheli

Dywed Delyth Davies, cadeirydd pwyllgor noddi'r RNLI ym Mhwllheli, fod y rhodd wedi bod yn syndod ac yn fendith.

"Bythefnos yn ôl glywson ni ein bod ni yn cael y swm enfawr o dros £2.5m ar ôl Mr Richard Colton, gŵr oedd â dim cysylltiad hefo Pwllheli na'r môr ac yn dod o Northampton," meddai.

"Ei bleser o oedd classic cars ac yn ei ewyllys roedd o wedi gofyn i ddau o'i geir, dau Ferrari, gael eu gwerthu. Mi gawson nhw eu gwerthu am bron i £9m ac roedd o wedi gofyn am i'r pres yna gael ei roi i'r RNLI, a gan ein bod ni yn disgwyl cael cwt newydd mae o'n cael ei ddefnyddio at hynny.

"Mae'n diolch ni yn fawr iawn i Mr Colton, ac i bobol Pwllheli am godi £83,000 yn lleol."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae yna fwy o bwysau ar dechnoleg amgen, mae gynnon ni baneli solar, a hefyd rydan ni yn gwresogi'r lloriau hefo gwres tanddaearol," medd Clive Moore

Clive Moore ydi llywiwr y bad achub ym Mhwllheli. Hefyd, ag yntau'n bensaer, y fo sydd wedi cynllunio'r adeilad newydd. Er ei fod wedi cynllunio rhyw ddwsin o adeiladau tebyg, mae'n amlwg fod cynllunio adeilad i'r criw ym Mhwllheli wedi bod yn brofiad arbennig.

"Mae hi wedi bod yn fraint cael y cyfle i gynllunio'r adeilad yma," meddai.

"Wrth gwrs mae yna bwysau ofnadwy pan mae o'n adeilad i'r orsaf ym Mhwllheli. Dwi wedi trio fy ngorau a dwi'n meddwl fod pawb yn hapus iawn hefo'r canlyniad.

"Mae yna fwy o bwysau ar dechnoleg amgen, mae gynnon ni baneli solar, a hefyd rydan ni yn gwresogi'r lloriau hefo gwres tanddaearol, ac mae hynny yn helpu i gadw defnydd y carbon i lawr."

Disgrifiad o’r llun,

Tomos Moore yw swyddog cyhoeddusrwydd y bad achub ym Mhwllheli

Mi fydd y criw yn symud i mewn i'r adeilad yn y flwyddyn newydd, ac mi fydd y bad achub newydd yn cyrraedd ym mis Ebrill, a dywed Tomos Moore, swyddog cyhoeddusrwydd y bad achub, fod yna gryn edrych ymlaen.

"Mae'r hen adeilad wedi bod yn sefyll yna ers dros 100 mlynedd ac erbyn hyn dydi'r cyfleusterau ddim i fyny i ofynion yr RNLI, felly mi fyddan ni yn symud drosodd yma yn y flwyddyn newydd," meddai.

"Erbyn rŵan dim ond un 'stafell fawr sydd gynnon ni yn yr orsaf ym Mhwllheli. Mae'r cwch, yr ystafell newid, y toiled ag ystafell y criw a'r swyddfa i gyd mewn ystafell fawr. Ond pan fyddwn ni yn symud i mewn i'r adeilad yma mi fydd gynnon ni lefydd i'r criw, lle i hyfforddi, lle i'r cwch a'r cwch bach, ac mae'n mynd i fod yn anhygoel i'r criw ac maen nhw i gyd yn edrych ymlaen."

Oherwydd y cyfyngiadau yn sgil y pandemig rhyw bymtheg galwad gafodd bad achub Pwllheli eleni, llai na hanner y nifer arferol. Ond wrth i'r rheolau gael eu llacio y flwyddyn nesa a rhagor o ymwelwyr yn cyrraedd Llyn, mi fydd yna fwy o alw am y gwasanaeth ac mi fydd y criw, yr adeilad a'r bad achub newydd yn barod am yr her.

Pynciau cysylltiedig