Ffitrwydd dynion: ‘Peidiwch â chymharu’ch hun i eraill’
- Cyhoeddwyd
Mae edrych ar gyfryngau cymdeithasol yn gallu gwneud i rhywun deimlo'n ansicr am eu corff, ac yn anhapus am eu hedrychiad.
Gellir dadlau bod pwysau yn cael ei roi ar ferched ifanc i gael y 'corff bicini' delfrydol. Ond nid ffenomenon i ferched yn unig yw hyn, gyda llawer o fechgyn bellach yn teimlo'r angen am six pack a breichiau anferthol fel yr hyn maent yn ei weld ar Instagram.
Mae Andy Edwards yn berchen ar gampfa CrossFit, Dragon Athletic, yng Nghaerdydd, ac mae'n hyfforddi pobl o ddydd i ddydd, gan gynnwys athletwyr rhyngwladol.
"Dydi body dysmorphia ddim yn rywbeth newydd ymysg dynion," meddai, "ond dwi yn meddwl ei fod yn dod yn fwyfwy cyffredin."
"Cyn dyfodiad cyfryngau cymdeithasol dwi'n meddwl mai bodybuilders proffesiynol a dynion oedd yn modelu oedd yn diodde' o'r cyflwr ac roedd pobl gyffredin yn gweld faint o waith caled (a chyffuriau) oedd angen i edrych fel 'na.
"Ond nawr, oherwydd algorithms ar gyfryngau cymdeithasol mae'n ymddangos fod pawb yn ripped ac yn edrych yn anhygoel - a dim dyna'r gwirionedd!"
'Ffitrwydd yw eu bywyd nhw'
Mae Andy yn cydnabod fod gan wefannau fel Instagram eu cryfderau yn ogystal â gwendidau: "Dwi'n 50-50 ar hyn achos mae 'na lot o wybodaeth da ar gael ac mae 'na lot o nonsens hefyd.
"Dwi'n meddwl mai'r peth peryclaf yw bod bobl ddim yn deall mai dyma yw swydd llawn amser y models 'ma ar Instagram - ffitrwydd yw beth ma' nhw'n 'neud o ddydd i ddydd - eu bywyd nhw, sy'n wahanol iawn i rywun yn gweithio mewn swyddfa 9-5."
Mae Andy wedi ymddiddori mewn codi pwysau ers pan oedd tua 11 oed. Mae'n dweud mai'r unig opsiwn yn y dyddiau hynny ar gyfer codi pwysau oedd beth oedd yn bosib ei brynu yn Argos felly roedd o a'i dad yn mynd i'r garej ar ôl ysgol i drin cyhyrau. Roedd yn dilyn rwtîn ac yn darllen cylchgronau bodybuilding.
"Yn bersonol, o'n i'n ymarfer oherwydd bo' fi'n mwynhau fe, nid er mwyn edrych yn dda, felly ma' fy siwrne mewn i fyd ffitrwydd yn wahanol i'r arfer mae'n siŵr."
Fe wnaeth dechrau ar ddatblygu ei ffitrwydd yn gynnar helpu Andy i fod yn chwaraewr rygbi llwyddiannus, gan chwarae dros Gymru dan 16, dan 18 ac dros Fyfyrwyr Cymru. Fe wnaeth hefyd chwarae i nifer o glybiau Uwchgynghrair Cymru fel Caerffili a Glyn Ebwy, a chystadlu fel athletwr CrossFit ar lefel Ewropeaidd.
Siwrne ffitrwydd Andy
Astudiodd Andy Gemeg yn y brifysgol, ond fel mae'n dweud roedd yn treulio mwy o amser yn astudio systemau o hyfforddi chwaraeon, y corff a ffisioleg nag yn astudio'r tabl cyfnodol.
Ond yna newidiodd pethau iddo pan aeth ymlaen i weithio yn Llundain yn y byd ariannol: "Tair blynedd yn ddiweddarach yn 2008 o'n i dros fy mhwysau. Yn ddiarwybod i mi roedd gen i iselder ac o'n i'n yfed gormod. O'n i'n meddwl mai fel hyn oedd pawb yn y byd ariannol yn byw!
"Daeth y dirwasgiad ac es i deithio'r byd gyda arian gefais i pan ddaeth fy swydd i ben.
"Tra o'n i'n Awstralia fe wnes i CrossFit am y tro cyntaf. O'n i'n lwcus iawn achos yno o'n i'n cymysgu gyda athletwyr a hyfforddwyr aeth ymlaen i gystadlu yn y CrossFit Games, pinacl y gamp lle mae rhai o'r bobl mwyaf ffit yn y byd yn cystadlu.
"Y foment nes i'r WOD (workout of the day) cynta' 'na yn Sydney ges i'r cariad yn ôl at ymarfer corff, a 18 mis yn ddiweddarach roedd gen i fy gampfa CrossFit fy hun yng Nghaerdydd."
'Targedau realistig'
Mae gan Andy lefel ffitrwydd uchel iawn yn sgil ei swydd, ond pa mor ymarferol yw hi i rywun sy'n gweithio mewn swyddfa gael yr edrychiad a ffitrwydd delfrydol?
"Does 'na ddim dwywaith ei fod yn cymryd disgyblaeth eithafol i edrych fel cover model. Efallai bod cyrraedd hynny yn afrealistig i rywun sy'n gweithio 9-5, ond gyda'r disgyblaeth gywir fe allech chi wella eich iechyd a ffitrwydd mewn ffordd dramatig iawn. Ond mae rhaid gosod targedau realistig.
"O ran y pwysau mae'n ei roi ar iechyd meddwl mae'n dibynnu ar yr unigolyn a beth sy'n mynd 'mlaen yn eu bywydau. Dwi'n meddwl bod 'na fwy o bwysau ar ddynion sengl na sydd 'na ar fois sy' 'di setlo lawr."
Mae edrych ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol enwogion fel Dwayne 'The Rock' Johnson a'r actor Jason Momoa yn gallu gwneud i rai pobl deimlo'n ansicr am eu cyrff eu hunain, meddai Andy, ac mae ganddo rywfaint o gyngor ar hynny.
"Peidiwch â cymharu eich hunain i neb arall. Rhaid chi gydnabod fod bywydau rhai pobl yn cylchdroi o amgylch ffitrwydd ac maen nhw'n rhoi llawer o amser iddo. Ac ar y cyfryngau cymdeithasol ry' ni'n gweld genetic monsters - mae rhain yn eithriadau."
"Dwi'n edmygu'r bois yma (Dwayne Johnson a Jason Momoa), ond dwi'n gwybod fydda i byth yn edrych fel boi 6'4" Affro-Americanaidd sy'n cael ei dalu i fod mewn siâp anhygoel.
"Defnyddiwch eu work ethic nhw, ond canolbwyntiwch ar y gwelliannau posib gallwch wneud yn eich hunain. Mae camau bach yn y cyfeiriad iawn yn gallu bod yn werthfawr iawn."
'Mwynhewch ymarfer corff'
"Gan mod i wedi bod ym myd ffitrwydd ers oed mor ifanc o'n i wastad yn cael fy nysgu gan eraill, gan bobl mwy profiadol na fi. Peidiwch mynd ar y siwrne yma ar ben eich hunain, fe ddylai ymarfer corff ac hyfforddi fod yn brofiad ry' chi'n mwynhau."
"Pan dwi'n hyfforddi yn Dragon dwi'n dweud wrth y rhai sy'n dechrau i ymlacio a pheidio rhoi pwysau ar eu hunain, oherwydd roedd y bois mwya' ffit yn y gym a'r hyfforddwyr sy'n gweithio efo fi i gyd yn y man yna ar ryw bwynt.
"Rhywbeth sydd gan y bobl sy'n troi eu bywydau rownd yn y gym yn gyffredin yw 1) fe gewch chi eich gwobrwyo am yr ymdrech; a 2) bydd eraill yn cydnabod eich hymdrech.
"Fel mae Dwayne 'The Rock' Johnson yn ei gynghori: 'Try and be the hardest worker in the room!'"
Hefyd o ddiddordeb: