2021... Blwyddyn well i chwaraeon?
- Cyhoeddwyd
Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i gefnogwyr chwaraeon eleni, gyda nifer fawr o ddigwyddiadau wedi eu canslo, a'r rheiny aeth yn eu blaen yn gwneud hynny heb dorfeydd.
Felly rydyn ni'n gobeithio y bydd 2021 yn flwyddyn well ar gyfer y campau. Y gohebydd chwaraeon Lowri Roberts, sy'n ein harwain ni drwy'r hyn sydd i edrych ymlaen ato dros y flwyddyn nesaf.
Ar gyfer 2020 gweler 2021. Oes, mae 'na newidiadau lu wedi bod i'r calendr chwaraeon oherwydd Covid. Wedi'r siom o orfod gohirio rhai o'n digwyddiadau chwaraeon mwyaf fel y Mabolgampau Olympaidd a'r Euros mae 'na lawer i edrych ymlaen ato yn 2021.
Ai dyma fydd y flwyddyn fwyaf llewyrchus erioed yn holl hanes y campau? Mae 'na ddigon i edrych ymlaen ato yn sicr - gyda Covid yn caniatáu...
Gobeithion Tokyo
Y digwyddiad mwyaf, heb os, fydd y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Tokyo, Japan, rhwng misoedd Gorffennaf a Medi.
Fel rhywun dreuliodd gyfnod nid ansylweddol yno adeg Cwpan Rygbi'r Byd, gallaf eich sicrhau y bydd yn achlysur i'w gofio wrth i'r genedl gyfan gofleidio'r gemau. Jade Jones, Elinor Barker, Lauren Price, Hannah Mills ac Aled Siôn Davies - rhai o'r Cymry fydd yn gobeithio dod i'r brig.
Disgwyliadau'r Cymry
Ar ôl aros 58 o flynyddoedd cyn cyrraedd rowndiau terfynol prif gystadleuaeth - yn Ffrainc yn 2016 - mae ein tîm pêl-droed cenedlaethol wedi sicrhau eu lle ym Mhencampwriaethau Ewrop am yr eildro yn olynol.
Yn Baku a Rhufain fydd y gemau cychwynnol ym mis Mehefin ond bydd pawb yn gobeithio eu gweld yn cyrraedd y rownd derfynol yn Wembley ddechrau Gorffennaf - cymaint yw'r disgwyliadau bellach. Y cwestiwn mawr yw a fydd y wal goch yn cael teithio?
Er i'r merched fethu â chyrraedd y rowndiau terfynol yn 2022 mae'r garfan wedi datblygu'n aruthrol o dan Jayne Ludlow a braf fydd gweld chwaraewyr ifanc yn cael y cyfle i greu argraff dros y misoedd nesaf.
Y Chwe Gwlad a thaith y Llewod
O ran rygbi, wel yn ogystal â'r Chwe Gwlad ddechrau'r flwyddyn bydd taith y Llewod i Dde Affrica yn yr haf. Gyda Warren Gatland wrth y llyw bydd hi'n ddiddorol gweld faint o Gymry fydd yn y garfan.
A fydd capten Cymru a'r gŵr sydd a'r nifer mwyaf o gapiau rhyngwladol, Alun Wyn Jones, yn teithio am y pedwerydd tro?
2021 yw blwyddyn cwpan rygbi tri ar ddeg y byd yn Lloegr. A fydd llwyddiant i dîm Cymru, sydd yn yr un grŵp a Tonga, Papua Guinea Newydd ac Ynysoedd Cook? Mae gen i atgofion melys o fynd i'r Vetch yn Abertawe yn 1995 i weld Cymru'n curo Gorllewin Samoa - tîm a oedd yn cynnwys sêr fel Jonathan Davies, John Devereux ac Iestyn Harries.
G ar gefn ei feic
Un o'm hoff ddigwyddiadau chwaraeon i - ers cael y fraint o ddilyn Geraint Thomas i'w fuddugoliaeth yn 2018 - yw'r Tour de France. Uchafbwynt y byd seiclo heb os a chymaint o Gymry bellach yn serennu.
Dwi'n mawr obeithio y bydd G yn cael rasio eto eleni yn lifrau Ineos a'i fod yn osgoi pob anffawd posib!
Gwledd o griced
Fyth ers i'm ffrind Siwan a fi ymlwybro draw i gae criced y Gnoll yng Nghastell-nedd ddechrau'r nawdegau i wylio Morgannwg yn herio Awstralia dwi wedi cwympo mewn cariad gyda chriced. Eleni, fel bob blwyddyn arall, bydda i'n breuddwydio am weld Morgannwg yn ennill pencampwriaeth y siroedd a'r gystadleuaeth ugain pelawd.
Yn ychwanegol at hynny bosib y bydd y gystadleuaeth newydd The Hundred a thîm Y Tân Cymreig yn gweld golau dydd. Peidier chwaith ag anghofio cyfres y lludw yn Awstralia a chwpan y byd ugain pelawd yn India. A hithau fel fi yn gyn-ddisgybl o Ysgol Ystalyfera, bydda i hefyd yn cadw llygad ar ddatblygiad Gwenan Davies sydd newydd dderbyn cytundeb proffesiynol gyda Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.
Os mai Pencampwriaethau Athletau'r Byd, Wimbledon, Marathon Llundain, y Grand National neu'r Masters sy'n mynd â'ch bryd, bydd y cyfan hefyd yn digwydd yn 2021.
Ond yr hyn y bydda i yn edrych ymlaen ato fwyaf yw cael sefyllian yn y glaw eto yn gwylio fy mhlant yn chwarae dros dimau ieuenctid Pont-y-clun a Llantrisant. Braf bydd cael croesawu'r gemau lleol hynny yn ôl wedi blwyddyn anodd ar sawl lefel.
Hefyd o ddiddordeb: