Cyngor i 'fwrw ymlaen' i ad-drefnu addysg Pontypridd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn bwriadu "bwrw ymlaen" gyda chynllun ad-drefnu ysgolion dadleuol ym Mhontypridd wedi i'r Llys Apêl ddyfarnu bod y rhaglen yn gyfreithlon.
Roedd gwrthwynebwyr a gyflwynodd her gyfreithiol yn dathlu yn yr haf pan ddywedodd barnwr Uchel Lys fod y cyngor wedi methu ag ystyried effaith y newidiadau ar ddyfodol addysg Gymraeg yr ardal.
Cafodd dyfarniad yr adolygiad barnwrol hwnnw ei ddisgrifio'n "garreg filltir" ar y pryd o ran yr angen i ystyried fersiwn Gymraeg deddfwriaeth.
Ond mewn gwrandawiad ddechrau Rhagfyr, daeth barnwyr y Llys Apêl i'r casgliad bod penderfyniadau gwreiddiol y cyngor sir, yng Ngorffennaf 2019, yn gyfreithlon.
Dywedodd ymgyrchwyr y byddan nhw'n pwyso ar Lywodraeth Cymru i wrthod rhai o'r cynlluniau, ac yn ymgyrchu dros ymgynghoriad newydd ar y mater.
'Digon i ateb y galw'
Mae'n fwriad i gau nifer o ysgolion yn y dref, a chodi dwy ysgol fawr newydd.
Byddai Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton yn cau, gan symud i ysgol newydd sbon, gwerth £10.7m, ar gyfer disgyblion rhwng 3 a 16 oed ar safle presennol Ysgol Gynradd Heol-y-Celyn.
Byddai pob chweched dosbarth hefyd yn cau, gan ganoli popeth mewn un ysgol a choleg addysg bellach.
Gan groesawu'r apêl llwyddiannus, dywedodd yr aelod o'r cabinet sy'n gyfrifol am faterion addysg, Joy Rosser bod y dyfarniad "nawr yn caniatáu inni fwrw ymlaen â'n cynllun uchelgeisiol i drawsnewid addysg yn ardal Pontypridd".
Ychwanegodd: "Canfu'r Llys Apêl fod y cyngor wedi rhoi ystyriaeth mewn perthynas â sicrhau bod digon o leoedd addysg gynradd Gymraeg yn yr ardal i ateb y galw disgwyliedig, y bydd disgyblion presennol yn gallu parhau â'u haddysg trwy gyfrwng Cymraeg ac y bydd yr ysgol gynradd Gymraeg newydd arfaethedig yn hygyrch."
Bydd y cyngor "yn parhau i ymgysylltu â staff ysgolion, disgyblion a myfyrwyr, cyrff llywodraethu a chymunedau lleol" wrth symud ymlaen gyda'r rhaglen ad-drefnu £38m yn y flwyddyn newydd.
'Buddugoliaeth wag'
Mewn datganiad, dywedodd grŵp ymgyrchu Ein Plant yn Gyntaf y byddai'n gofyn i Lywodraeth Cymru wrthod y cynllun i gau chweched ddosbarth Ysgol Cardinal Newman dan ei phwerau.
Ychwanegodd y grŵp y byddai'n ymgyrchu dros ymgynghoriad o'r newydd ac yn annog pobl ifanc i ddweud eu barn wrth bleidleisio yn etholiad y Senedd yn 2021.
"Mae'r sefyllfa yng Nghwm Taf wedi newid yn sylfaenol ers i'r cyngor gymryd y penderfyniad," meddai'r datganiad.
"Mae llifogydd trychinebus wedi arwain at golli isadeiledd. Mae Covid-19 wedi dangos annoethineb nifer fawr o bobl ifanc yn croesi'r cymoedd am addysg.
"Mae'r cyngor wedi ennill y pwynt cyfreithiol, ond mae'n fuddugoliaeth wag os nad ydynt yn addasu i'r realiti newydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2019