Covid-19 yn 'gyfle' i ddelio ag argyfwng hinsawdd
- Cyhoeddwyd
Mae argyfwng y coronafeirws yn "gyfle" i wneud newidiadau i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd.
Dywedodd Lesley Griffiths fod mwy o weithio o adref yn un ffordd o leihau llygredd.
Daeth ei sylwadau ar drothwy wythnos o ddigwyddiadau wedi eu trefnu gan Lywodraeth Cymru i drafod y pwnc.
Dywedodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, dolen allanol y gallai "adferiad gwyrdd" o'r pandemig greu swyddi tra'n mynd i'r afael ag allyriadau ar yr un pryd.
Gweithio o adre yn help
Wrth siarad â rhaglen Politics Wales y BBC, dywedodd Ms Griffiths bod yn rhaid "chwilio am gyfleoedd ymhlith yr heriau".
"Yn sicr rydw i wedi clywed llawer o bobl - nid yn unig o fewn y llywodraeth neu o fewn y Senedd - yn dweud nad ydyn ni eisiau mynd yn ôl i sut yr oedden ni o'r blaen, rydym am i bethau fod yn wahanol," meddai.
"Felly rwy'n credu ei fod yn gyfle i wneud y newidiadau hynny."
Dywedodd Ms Griffiths fod y ffyrdd wedi bod yn llawer tawelach yn ystod y cyfnodau clo o ganlyniad i fwy o bobl yn gweithio o adref a bod hynny wedi arwain at lai o lygredd.
"Rwy'n credu bod cyfleoedd i bobl edrych ar y ffordd maen nhw'n teithio i'r gwaith, y ffordd maen nhw'n gweithio. Rwy'n credu bod busnesau yn sicr yn edrych ar hynny hefyd," meddai.
Mynnodd Ms Griffiths fod Llywodraeth Cymru wedi "cadw ei ffocws" ar yr argyfwng hinsawdd er gwaethaf "heriau anhygoel" y pandemig.
Yr wythnos hon bydd y llywodraeth yn cynnal nifer o ddadleuon ar y mater i nodi blwyddyn tan ddechrau COP26 - yr uwchgynhadledd hinsawdd ryngwladol y bu'n rhaid ei gohirio tan 2021 oherwydd y pandemig.
'Risg fyd eang'
Wrth siarad â'r un rhaglen, dywedodd Dr Rebecca Heaton o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, sy'n cynghori Llywodraeth Cymru ar ei pholisi hinsawdd ei bod hi'n "deall" pam mai'r pandemig oedd "canolbwynt gweithgaredd dydd i ddydd" y llywodraeth.
"Ond mae tebygrwydd i newid yn yr hinsawdd - y risg fyd-eang fawr arall hon rydyn ni'n ei hwynebu," meddai.
"Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn edrych ar sut y gall mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd hefyd fynd i'r afael ag adferiad Covid.
"Felly pan rydyn ni'n edrych ar ble mae angen i ni greu swyddi, dewch i ni eu creu yn yr economi werdd gyda seilwaith gwyrdd."
Gallwch wylio Politics Wales ar BBC1 Wales am 10:00 ddydd Sul 1 Tachwedd, neu ar wasanaeth BBC iPlayer.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2020
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2020