Cwymp sylweddol mewn presenoldeb disgyblion ysgol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Bu cwymp sylweddol yn nifer y disgyblion oedd yn yr ysgol yn ystod wythnosau olaf y tymor sydd newydd ddod i ben.

Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru'n dangos mai 70% o ddisgyblion ar gyfartaledd oedd yn eu dosbarthiadau, ond bod y ffigwr yna cyn ised â 50% i ddisgyblion Blwyddyn 11.

Dywedodd y Sefydliad Polisi Addysg (EPI) bod y ffigyrau'n "bryderus iawn" ac yn debyg o arwain at fwy o anghyfartaledd.

Y prif reswm am absenoldeb disgyblion oedd eu bod wedi gorfod aros i ffwrdd o'r ysgol oherwydd achosion o Covid-19.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio tuag at "cyn lleied o amharu ag sy'n bosib" i addysg.

Mae'r data am y cyfnod rhwng 7-11 Rhagfyr yn awgrymu bod 110,000 o ddisgyblion ar gyfartaledd ddim yn yr ysgol.

Roedd y canran yn amrywio o 90% yng Ngwynedd yn yr ysgol ac 86% yng Nghonwy i 43% ym Mlaenau Gwent, 52% yng Nghastell-nedd Port Talbot a 54% yn Abertawe.

Mae'r data - sydd heb ei gadarnhau yn llawn - yn dilyn patrwm o ddirywiad ers yr wythnos wedi'r cyfnod clo byr ym mis Tachwedd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Covid-19 yw'r prif reswm am absenoldeb disgyblion

Dywedodd Luke Sibieta, cymrawd ymchwil gyda'r EPI: "Mae pethau wedi mynd yn waeth ac yn waeth ers hynny yn anffodus, ac mae'n isel iawn ac yn bryderus iawn.

"Yn anffodus bydd effaith hir dymor hyn yn llym iawn yn anffodus.

"Bydd disgyblion wedi colli bron hanner blwyddyn o ysgol dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae'r brodwaith o anghyfartaledd ar fethu ysgol y tymor hwn yn sicr o gael effaith ar addysg plant.

"Bydd yr anghyfartaledd presennol yn ehangu, yn enwedig gan mai ardaloedd eithaf difreintiedig yw'r rhai sydd wedi colli'r rhan fwyaf o'r ysgol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod ysgolion wedi darparu "amgylchedd diogel" i blant.

"Rydym yn cydnabod bod presenoldeb wedi bod yn is tua diwedd y tymor oherwydd penderfyniadau lleol gan ysgolion.

"Fodd bynnag fe fyddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac ysgolion i sicrhau bod addysg yn parhau i bob plentyn a pherson ifanc gyda cyn lleied o amharu ag sy'n bosib."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hywel Price yn dweud fod y broblem yn un eang

Dywedodd Hywel Price, Pennaeth Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, bod presenoldeb yn "destun pryder" i bob ysgol ond bod rhai wedi eu taro'n waeth na'i gilydd.

"Mae'n amrywio o ysgol i ysgol sut mae'r pandemig yma wedi effeithio ar ardaloedd penodol, siroedd gwahanol ac ysgolion ar lefel unigol," meddai.

"Mae rhai wedi dianc o hyn mewn gwirionedd a rhai wedi dioddef yn enbyd."

Dywedodd bod plant ym mlynyddoedd 10 a 11 yn yr ysgol wedi gorfod hunan ynysu ond hefyd bod 'na bryder ymhlith rhai rhieni oedd felly'n penderfynu cadw'u plant o'r ysgol, yn enwedig wrth nesáu at ddiwedd y tymor.

"Mae'n broblem fawr," meddai, "achos does gynnoch chi ddim y parhad yna, y dilyniant mewn addysg ac mae'n creu diflastod ac ansicrwydd ymhlith pawb.

"Mae rhai yn diflasu'n gyflym iawn - yn mwynhau dod i'r ysgol i weld eu ffrindiau, i gymdeithasu ac yn amlwg i gael gwersi - bod hynny'n effeithio ar eu hymroddiad i ysgol achos dy'n nhw ddim yn siŵr beth fydd y sefyllfa ymhen ychydig wythnosau neu ychydig fisoedd."