'Daeth chwaraeon i stop yn sydyn'
- Cyhoeddwyd
Ar ddydd calan eleni fe ofynnodd BBC Cymru Fyw i Rhodri Llywelyn nodi beth yr oedd yn edrych 'mlaen ato yn y byd chwaraeon yn 2020.
Yn anffodus fe gafodd llawer o'r hyn yr oedd Rhodri'n gyffrous amdano ei ohirio, neu ganslo'n llwyr.
Ond fe gafodd rhai digwyddiadau eu cynnal, boed hynny heb dorf rhan amlaf. Dyma grynodeb o hynt a helynt y byd chwaraeon dros y flwyddyn ddiwethaf gan Rhodri.
Dwi'n cofio'n iawn lle'r o'n i.
Roedd y pryderon am feirws newydd yn drwch yn yr awyr a minne newydd fod yn cyfweld gwyddonydd blaenllaw o Brifysgol Caerdydd am y bygythiad. Yn yr adeilad gyferbyn ym Mharc Cathays mi fydde gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa.
Dyna pryd y 'pingiodd' neges BBC Sport ar y ffôn yn cyhoeddi bod y gêm drannoeth rhwng Cymru a'r Alban wedi' gohirio.
Ar yr un diwrnod fe gafodd Uwch-Gynghrair Bêl-droed Lloegr ei hatal, ac fe ohiriwyd Marathon Llundain a phencampwriaeth golff y Meistri hefyd. Roedd calendr y campau yn deilchion.
Mewn llythyr agored at gefnogwyr fe ddywedodd rheolwr Lerpwl, Jürgen Klopp, bod lles y gymuned ehangach yn llawer pwysicach nac unrhyw gêm.
'Chwaraeon yn dod i stop'
Daeth chwaraeon - mewn stadiymau mawr ac ar lawr gwlad - i stop sydyn.
Felly y bu hi am hydoedd. Bydd mis yr Euros yn cael ei gofio am keepy-uppies gyda rholyn o bapur tŷ bach. Bleep-test yn y lôn wrth gefn y ty oedd Gemau Olympaidd ein teulu ni.
Erbyn i'r campau cystadleuol ail-gychwyn mi ro'n i'n despret. Bydden i wedi gwylio Splott yn herio Pontcanna mewn backgammon.
Diolch byth am y Bundesliga. Roedd setlo lawr ar y soffa gyda llond bwrdd o pizza a chwrw ar gyfer Bayern v Dortmund ar nos Fawrth ym mis Mai yn un o uchafbwyntiau'r gwanwyn.
Wrth i'r haf wedyn fynd rhagddo, mi ddaethon ni i arfer gyda sŵn stadiymau gwag, a thoriad am ddiod yn ystod pob hanner. Dau benelin yn cyffwrdd yn hytrach nac ysgwyd dwylo, ac eilyddion ar wasgar mewn masgiau. Doedd y normal newydd ddim yn grêt, ond i gefnogwyr mi roedd yn rhywbeth.
Roedd cael gweiddi at y teledu yn ddihangfa rhag y cyfyngiadau wrth i Gaerdydd ac Abertawe geisio ennill dyrchafiad, a'r amserlen wallgo' yn golygu nad oedd tridie heb gêm i'w gwylio.
Pryd fydd y Wal Goch yn dychwelyd?
Tua'r un adeg byddai digonedd o Gymry'r Kopp wedi dathlu gweld tlws yr Uwch-Gynghrair yn mynd i brifddinas y gogledd am y tro cynta'.
Ar y llwyfan rhyngwladol, trueni nad oedd modd bod yno'n gwylio Cymru'n ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Er mawr rhwystredigaeth i dimau proffesiynol a chyrff llywodraethu chwaraeon Cymreig does dim hawl agor y clwydi i gefnogwyr, ac mae'n debygol o fod yn fisoedd eto cyn gallu dechrau ail-adeiladu'r wal goch.
Serch hynny, tra'n lled-guddio dan y duvet o'dd yr unig ffordd i wylio ymdrechion diweddar ein tîm rygbi cenedlaethol.
Dyw prosiect Pivac heb greu llawer o argraff hyd yma, ond mae buddugoliaethau dros Georgia a'r Eidal yn ystod Cwpan Gwneud yr Hydref yn golygu bod y Kiwi yn dal mewn swydd ac yn cynllunio ar gyfer y Chwe Gwlad a thu hwnt.
Cwpan y Byd yw'r nod yn y pen draw, a Chymru eisoes yn bencampwyr dartiau'r blaned. Mewn amseroedd arferol mi fyddai llwyddiant Gerwyn Price a Jonny Clayton yn curo Lloegr am y teitl wedi cael mwy o sylw.
Siom enfawr Elfyn
Stori y byddai'n well gen i fod wedi peidio'i hadrodd yn fyw ar y radio oedd y newyddion bod gobeithion Elfyn Evans o ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd wedi llithro oddi ar ffordd rhewllyd ym Monza. Diwrnod pan oedd gwir angen haul ar fryn.
Ydyn, ma' olwynion chwaraeon elît yn troi unwaith eto, ond dyw hi ddim yr un peth. A beth am effaith y gyfres o gloeon ar y genhedlaeth nesa'? Wna'i ddim cwyno am sefyll ar gae oer byth eto, nac am orfod gyrru'n gynnar i gêm Dan 12. Dyw gymnasteg ddim yr un fath dros Zoom. O am gael y drefn arferol yn ôl - er lles y plant a'u rhieni.
Roedd gen i docyn tymor ar gyfer Clwb Rygbi Llanelli slawer dydd, ac wrth adael am Barc y Strade ar b'nawn Sadwrn byddai Mamgu wastad yn ffarwelio gan ddweud "May the best team win…as long as they're wearing Scarlet".
Mae pawb ar yr un tîm nawr, a chyda chic dros yr ystlys i Covid mi gawn ni flwyddyn fwy cyfarwydd o chwaraeon yn 2021.
Hefyd o ddiddordeb: