Dod o hyd i 'weddillion o bwys' yn Yr Wyddgrug
- Cyhoeddwyd
Mae canfyddiadau diweddar yn "dyrchafu pwysigrwydd" safle hen gastell yn Sir y Fflint, yn ôl archeolegydd.
Daeth tîm dan arweiniad Ian Grant o hyd i waliau cerrig a gweddillion dynol ar Fryn y Beili yn Yr Wyddgrug.
Ar hyn o bryd, mae'r safle'n cael ei ailddatblygu mewn prosiect gwerth £1.8m.
Nod y gwaith yw annog mwy o ddefnydd o'r safle ar gyfer hamdden a digwyddiadau.
Dechreuodd y gwaith adnewyddu ym mis Chwefror, ac mae disgwyl iddo ddod i ben ym mis Ionawr 2021, er i'r pandemig achosi rhywfaint o oedi.
Ymhlith y gwelliannau mae llwybrau hygyrch newydd, llwyfan perfformio yn y Beili Mewnol ac estyniad i fwthyn a fydd yn cael ei ddefnyddio fel canolfan i adrodd hanes y safle.
'Nid castell cyffredin mohono'
Ac mae'r canfyddiadau archeolegol, yn enwedig dwy wal gerrig, yn newid y stori honno, yn ôl Ian Grant o Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys.
"Cyn inni ddarganfod y strwythurau carreg yma, y gred gyffredinol oedd bod hwn yn gastell mwnt a beili cyffredin, wedi ei adeiladu o bren.
"Ond unwaith 'dach chi'n dod o hyd i gerrig, mae'n awgrymu nad rhywbeth byrhoedlog oedd y castell. Mae'n awgrymu ei fod wedi tyfu, ei fod yn bwysicach o lawer safbwynt strategol a bod llawer mwy yn digwydd yno. Mae'n dangos cymaint o arian a fuddsoddodd pwy bynnag oedd yn meddiannu'r castell ar y pryd - un ai coron Lloegr neu dywysogion Cymru.
"Mae canfod y gwaith maen yma'n dyrchafu pwysigrwydd y safle yn sylweddol."
Canfod saith corff
Ynghyd â phennau saethau a chrochenwaith o'r 12fed neu'r 13eg ganrif, daeth yr archeolegwyr o hyd i dystiolaeth o loriau wedi eu llosgi, a allai fod yn "gipolwg ar ddigwyddiad trychinebus" fel gwarchae neu frwydr.
Canfuwyd saith corff - chwech yn gyfan - a gladdwyd "gyda pharch" ar y safle, a bydd Prifysgol Durham yn eu dadansoddi.
Bydd hanes y safle'n rhan o'r ailddatblygiad ar ffurf byrddau gwybodaeth newydd, sydd wedi cael eu llunio gyda chymorth 15 o ymchwilwyr gwirfoddol o'r gymuned.
Yn ôl Jo Lane, Swyddog Prosiect Bryn y Beili gyda Chyngor Tref Yr Wyddgrug, "y peth cyffrous yw mai prosiect yn y gymuned yw hwn".
"'Dan ni'n gobeithio cael - pan fydd hynny'n bosib - calendr llawn o ddigwyddiadau ar y safle, ar gyfer grwpiau oed gwahanol ac aelodau gwahanol y gymuned.
"Fe allwn ni wahodd grwpiau o ysgolion yng Nghanolfan Bryn y Beili a defnyddio'r safle i'w dysgu am fioamrywiaeth, bywyd gwyllt a hanes, gallwn gynnal sesiynau crefftau a barddoniaeth, a chynnal digwyddiadau gyda phartneriaid fel Theatr Clwyd.
"Y peth mwyaf 'dan ni eisiau ei weld yw bod pobl yn gwneud mwy o ddefnydd o'r safle, ac yn cymryd mantais ohono. Dwi'n meddwl bydd hynny'n digwydd achos y cyfleusterau newydd."
Mae Cyngor Tref Yr Wyddgrug, Cyngor Sir y Fflint a Ffrindiau Bryn y Beili yn arwain y fenter, sydd wedi cael arian o Gronfa Treftadaeth y Loteri ymhlith ffynonellau eraill.
Y nod yw ailagor yn swyddogol gyda digwyddiad yn ystod haf 2021.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2018
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2017