15 yn rhagor o farwolaethau'n gysylltiedig â Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cell coronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi 15 yn rhagor o farwolaethau sy'n gysylltiedig â coronafeirws.

Cafodd 2,273 o achosion newydd hefyd eu cofnodi yng Nghymru yn y cyfnod 24 awr ddiwethaf.

Mae'n golygu bod 3,383 o bobl wedi marw gyda'r feirws yng Nghymru ers dechrau'r pandemig ac mae cyfanswm yr achosion bellach yn 141,915.

Roedd wyth o'r marwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, tair yn ardal Cwm Taf Morgannwg, a dwy yr un yn ardaloedd Caerdydd a'r Fro a Bae Abertawe.

Cafodd 15,078 o brofion eu cynnal ddydd Sul.

Hyd yn hyn mae 1,251,120 o bobl wedi cael prawf ac mae 1,109,205 wedi cael canlyniad negatif.

Mae'r gyfradd achosion ar draws Cymru gyfan dros saith niwrnod yn 536.4 i bob 100,000 o'r boblogaeth.

Y siroedd gyda'r cyfraddau uchaf dros saith niwrnod yw:

  • Merthyr Tudful gyda 1,022.8/100,000;

  • Pen-y-bont ar Ogwr, gyda 1021.4/100,000;

  • Blaenau Gwent, gyda 814.5/100,000;

  • Castell-nedd Port Talbot gyda 804.5/100,000.

Roedd 20% o'r holl brofion ar draws Cymru dros saith niwrnod yn bositif, ond roedd y canran yn uwch mewn sawl sir:

  • Pen-y-bont ar Ogwr - 29.5%

  • Castell-nedd Port Talbot - 28.3

  • Merthyr Tudful - 25.6%

  • Blaenau Gwent - 24.3%

Pynciau cysylltiedig