'Rhaid oedd sicrhau cytundeb Brexit iawn,' medd AS
- Cyhoeddwyd
Wrth i ddyddiad gweithredu Brexit agosáu dywed David Jones, dirprwy gadeirydd y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd (ERG), na chafodd y prif weinidog Theresa May ei gorfodi i adael ei swydd gan grŵp o ASau a wrthododd gefnogi ei chytundeb Brexit.
Ddydd Mawrth mae disgwyl i gyfreithwyr, yn eu plith David Jones AS Gorllewin Clwyd, gyflwyno sylwadau ar y cytundeb.
Er nad oes gan yr ERG - sydd yn cynnwys ASau Ceidwadol - rôl swyddogol yn nhrafodaethau'r senedd roedd y grŵp yn cael ei ystyried yn un dylanwadol wrth drafod Brexit.
Ar un adeg fe wnaeth y grŵp drefnu pleidlais o ddiffyg hyder yn Mrs May. Dywed David Jones nad yw'n edifar ei fod wedi ei herio.
Mewn cyfweliad a fydd yn cael ei ddarlledu gan y BBC fore Mawrth dywed fod y grŵp yr oedd yn gadeirydd arno yn amau gwerth yr UE a bod yna lawer o waith ymchwil wedi cael ei wneud.
Roedd y grŵp yn anghytuno â chynlluniau Mrs May ar gyfer masnachu ac fe bleidleisiodd Mr Jones yn erbyn ei chynlluniau ar gyfer ymadael â'r DU dair gwaith.
Ym mis Mai 2019 fe gyhoeddodd Theresa May ei bod yn ymddiswyddo fel prif weinidog.
"Yn sicr roedd aelodau'r ERG yn anhapus gyda pherfformiad Theresa May am fod y cytundeb yr oedd hi wedi ei sicrhau ddim yn Brexit go iawn.
"Ond roedd yna lawer o aelodau seneddol eraill yn bryderus ac os mai dim ond yr ERG yn unig oedd yn gwrthwynebu, fyddai hi ddim wedi bod yn bosib i gael gwared ar y prif weinidog.
"Mae'n cymryd tipyn mwy na grŵp bychan i gael gwared ar brif weinidog - rhaid cael anniddigrwydd cyffredinol a dyna oedd yn cael ei ddangos.
"Yn y diwedd nid ni wnaeth ei disodli o'i swydd - hi benderfynodd nad oedd yn bosib iddi aros yn y swydd bellach," meddai Mr Jones sydd hefyd yn gyn-ysgrifennydd Cymru.
Ychwanegodd na fyddid wedi bod yn bosib ennill y bleidlais yn erbyn y cytundeb ymadael heb y Blaid Lafur ac "mae yna baradocs yn perthyn i hynny", meddai.
Fe adawodd y DU yr Undeb Ewropeaidd ym mis Ionawr a thrwy'r cyfnod trosglwyddo mae trafodaethau wedi bod yn cael eu cynnal ar gytundeb masnachu wedi Brexit.
Wrth i'r cytundeb gael ei gyhoeddi ar 24 Rhagfyr dywedodd Prif Weinidog San Steffan Boris Johnson y gallai wrthsefyll "unrhyw graffu gan yr ERG".
Mae David Jones yn un o'r cyfreithwyr a fydd yn edrych ar y print mân a'r prif fater dan sylw fydd sofraniaeth y DU.
Mae disgwyl i'r cyfreithwyr gyflwyno eu hymateb ddydd Mawrth cyn i bleidlais ar y cytundeb gael ei chynnal yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher.
'Cytundeb tenau'
Ar ddiwrnod y cytundeb masnachu dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ei fod yn croesawu'r ffaith bod y ddwy ochr wedi dod i ryw fath o gytundeb, ond mae'n rhybuddio bod y cytundeb hwnnw'n un "tenau".
"Mae Llywodraeth Cymru wedi hen ddadlau fod cytundeb yn well o lawer na dim cytundeb ac yn yr ystyr hwnnw rydym yn falch o weld cytundeb ond nid dyma'r cytundeb y cafodd ei addo i ni," ychwanegodd.
"Cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, bydd Cymru'n gweld gwahaniaeth. Ni fydd mor hawdd i deithio i Ewrop ag yr oedd. Ni fydd myfyrwyr Cymru â'r un mynediad i brifysgolion Ewrop ag y rydym wedi ei fwynhau.
"Felly, mae'n gytundeb, ond mae'n gytundeb tenau, cytundeb a fyddai'n well yn ôl yr addewid, ond mae'r cytundeb yma'n well na dim cytundeb o gwbl," meddai'r Prif Weinidog Mark Drakeford.
Bydd y Senedd ym Mae Caerdydd yn trafod y cytundeb ddydd Mercher ac ar yr un diwrnod bydd y Senedd yn San Steffan yn pleidleisio ar y cytundeb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2020