Mwy o rybuddion am eira a rhew dros y dyddiau nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion pellach am eira a rhew i rannau o Gymru dros y dyddiau nesaf.
Roedd rhybudd melyn am rew mewn grym ar gyfer rhan helaeth o'r gogledd rhwng nos Fawrth a bore Mercher.
Roedd rhybudd melyn arall am eira a rhew i rannau o dde Cymru o 10:00 fore Mercher tan 06:00 fore Iau, ond mae hwnnw bellach wedi'i ddiddymu.
Ond mae 'na rybudd arall mewn grym am eira a rhew ar gyfer y gogledd rhwng 18:00 ddydd Mercher a 14:00 ddydd Iau.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd ei bod hi'n bosib y gallai 1-3cm o eira ddisgyn mewn rhai mannau, gyda hynny'n codi i 5cm mewn ambell fan.
Maen nhw hefyd wedi rhybuddio y gallai'r tywydd rhewllyd effeithio ar y ffyrdd ac achosi amodau gyrru anodd.
Cafwyd rhybuddion tywydd garw yn gynharach yn yr wythnos wrth i Storm Bella daro, gan greu trafferthion teithio a thoriadau i'r cyflenwad trydan yn dilyn gwyntoedd dros 80mya.
Dywedodd cwmni Western Power fod dros 1,700 o eiddo heb drydan yn ystod y penwythnos.
Cyn hynny dioddefodd rhai cartrefi a busnesau lifogydd, yn bennaf yn y de, yn dilyn glaw trwm.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2020