Presenoldeb heddlu i atal ymwelwyr rhag heidio i Ben y Fan
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi pwysleisio na ddylai pobl deithio'n bell i ymarfer corff
Mae'r heddlu'n dweud bod pobl wedi teithio o mor bell â Llundain i geisio cerdded Pen y Fan ddydd Mawrth, er gwaethaf cyfyngiadau Covid-19.
Bellach mae swyddogion wedi sefydlu rhwystrau er mwyn ceisio sicrhau nad ydy pobl yn teithio'n ddiangen i un o lecynnau harddwch mwyaf poblogaidd Bannau Brycheiniog.
Dywedodd yr heddlu fod unigolion o Lundain, bws mini o Cheltenham gyda phobl o gartrefi gwahanol, a phobl o lefydd fel Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd wedi eu stopio.
Cafodd rhai eu dirwyo, ac eraill eu hel i ffwrdd a'u hatgoffa o'r rheolau yng Nghymru sy'n dweud wrth bobl aros yn lleol.
'Arhoswch adref'
Mae un ymgynghorydd gofal dwys eisoes wedi mynegi "siom eithriadol" wrth weld y niferoedd sydd wedi heidio i Fannau Brycheiniog yn ystod y cyfnod clo.
Ddydd Llun roedd meysydd parcio ar waelod Pen y Fan yn llawn.
Dywedodd Dr David Hepburn ei fod yn deall pam fod pobl eisiau ymweld â llefydd o brydferthwch ond fod hyn yn groes i'r rheolau.
Yn ôl yr ymgynghorydd yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd dyw hi ddim yn glir eto beth fydd effaith cyfnod y Nadolig ar y ffigyrau yn yr ysbytai.
"O ran y bwrdd iechyd, mae'r ysbytai yn llawn iawn," meddai.

Roedd ceir wedi parcio unwaith eto ar hyd yr A470 ger y gyrchfan boblogaidd
Mae dirprwy arweinydd Cyngor Sir Powys, y cynghorydd Aled Davies, hefyd wedi mynegi ei siom gyda nifer yr ymwelwyr yn y Bannau.
"Rwy'n deall pam fod pobl eisiau bod yn yr awyr iach ond mae'r rheolau yn glir o amgylch hyn," meddai.
"Mae'n glir ac mae'n syml ac yn siomedig i weld gymaint yn teithio i Ben Y Fan.
"Arhoswch adref a gwenwch eich ymarfer corff yn lleol, mae hynny mor bwysig."
'Peidiwch gyrru i'r llefydd yma'
Dywedodd Heddlu'r De y byddan nhw'n stopio mwy o gerbydau ar y ffyrdd er mwyn gwirio os yw eu siwrne yn un hanfodol.
"Cofiwch fod cyfyngiadau Llywodraeth Cymru'n dweud y dylai eich ymarfer corff ddechrau a gorffen adref," meddai'r llu.
"Ddylech chi ddim bod yn gyrru i'r llefydd yma.
"Rydyn ni'n gwybod fod hyn yn anodd, ond rydyn ni'n annog chi i gyd i wneud popeth allwch chi i atal lledaeniad Covid-19."

Roedd cerddwyr yn parhau i gyrraedd Pen y Fan ddydd Mawrth
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2020