Y wlad 'mor rhanedig ag erioed' ynglŷn â Brexit

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Liz Saville Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r rhwyg oherwydd Brexit mor llydan ag erioed yn ôl Liz Saville Roberts

Mae gwleidyddion wedi bod yn trafod Brexit ers pedair blynedd, ond oriau yn unig cyn i berthynas y DU a'r UE newid am byth, mae AS Plaid Cymru, Liz Saville Roberts yn poeni fod y rhaniadau'n ddyfnach nag erioed.

Dywedodd fod gwleidyddiaeth yn wynebu problem o "gyfaddawdu", ac eglurodd pam y bydd hi'n pleidleisio yn erbyn y cytundeb Brexit yn San Steffan ddydd Mercher.

Ychwanegodd Ms Saville Roberts, arweinydd ei phlaid yn San Steffan, ei bod wedi pleidleisio yn erbyn gadael yr UE o'r dechrau.

Fel plaid lai, roedd hyn yn golygu cydweithio ar adegau gyda phleidiau ac unigolion eraill, yn cynnwys y cyn-AS Ceidwadol, Oliver Letwin, mewn ymgais i rwystro Brexit heb gytundeb - proses y mae'n ei ddisgrifio fel un "anhygoel o gyffrous".

'Heb ddatrys unrhyw beth'

Nod Plaid Cymru yn etholiad cyffredinol 2019 oedd dod â Chymru yn ôl i mewn i'r UE fel cenedl annibynnol, meddai, ac roedd ASau ei phlaid yn cefnogi cynnal ail refferendwm ar Brexit - safbwynt y mae'n dal i'w harddel.

"Pe bawn ni wedi cael ail refferendwm, dim ots pa ffordd y byddai'r bleidlais wedi mynd, fe fydda i'n bendant mai dyna oedd y farn yr oedd rhaid symud ymlaen arni," meddai.

"Gallai hynny fod wedi gwneud pethau'n gliriach - dwi'n meddwl y byddem wedi gallu dweud wedyn: 'Dyma mae Brexit yn ei olygu'.

"Dwi ddim yn credu ein bod wedi datrys unrhyw beth, mae'r rhaniadau o fewn y DU yn parhau mor rhanedig ag erioed.

"Nid yw'r llywodraeth sydd gennym yn ymddwyn fel eu bod yn ceisio cael cyfaddawd mewn unrhyw ffordd."

David a Samantha CameronFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gadawodd David Cameron fel Prif Weiniog yn 2016 ar ôl colli refferendwm Brexit

Mae diffyg cyfaddawd yn feirniadaeth gyffredin gan Ms Saville Roberts o'i gwrthwynebwyr gwleidyddol.

"Pam wnaethon ni ganfod ein hunain yn cynnal y refferendwm hwn a alwyd gan y Prif Weinidog ar y pryd, David Cameron? Roedd hyn wastad yn rhywbeth oedd yn ymwneud a'r Blaid Dorïaidd.

"Roedd o'n ymwneud â David Cameron yn ceisio cymodi dwy ochr o'i blaid sy'n bodoli ers y 1970au, efallai'n hirach na hynny. Methodd â gwneud hynny.

"Ers hynny gwelsom Theresa May yn ceisio cymodi gyda'r ERG [European Research Group], y grŵp o fewn y blaid Dorïaidd sydd wastad wedi gwrthwynebu'r UE, ac a oedd yn gyfrifol am ei dymchwel hi fel Prif Weinidog."

Plaid Cymru'n euog hefyd?

Ond tra'r oedd yr UE a Llywodraeth y DU yn ceisio cwblhau cytundeb dros y misoedd diwethaf, roedd ASau'r gwrthbleidiau yn wynebu beirniadaeth am beidio cyfaddawdu gyda'r llywodraeth.

O gofio bod ASau Plaid Cymru wedi pleidleisio yn erbyn cytundeb Theresa May dair gwaith, ac yn erbyn ei datganiad y dylai'r berthynas fasnachol gyda'r UE fod mor agos â phosib yn y dyfodol, a oedd Ms Saville Roberts yn edifar am hynny erbyn hyn?

"Roedden ni wastad yn chwilio am yr hyn fyddai orau i Gymru," meddai, gan ychwanegu bod y "difrod" yn yr hyn yr oedd Ms May yn ei gynnig mor ddrwg fel y byddai Plaid Cymru'n fwriadol yn niweidio hynny wrth ei gefnogi.

"Mae gwleidyddion y gwrthbleidiau'n gwneud eu gorau i ddylanwadu ar y llywodraeth, ond y llywodraeth sy'n gwneud y penderfyniadau ynglŷn â'r hyn sy'n mynd ymlaen. Mae gan Boris Johnson fwyafrif o 80 - mae o'n llwyr gyfrifol."

Boris Johnson
Disgrifiad o’r llun,

Boris Johnson ddylai fod yn llwyr gyfrifol am oblygiadau Brexit, yn ôl Liz Saville Roberts

Nid oedd Ms Saville Roberts yn credu y gallai hi ac ASau eraill oedd o blaid aros yn yr UE fod wedi cyfaddawdu ynghynt, ond dywedodd y gallent fod wedi cydweithio mwy.

"Dwi'n credu y byddai wedi bod o les, pe bai'n bosib, i fynd ati'n gynharach i weithio'n drawsbleidiol," meddai.

"Mi ddigwyddodd hynny yn y diwedd, ond pe bai wedi digwydd yn gynharach gallai fod yn gryfach a gallai fod wedi rhoi mwy o nerth i ni."

Beth yn ei thyb hi oedd wedi rhwystro'r cydweithrediad hwnnw?

"Y disgwyliad o sut y mae gwleidyddiaeth yn gweithio - bod rhaid iddo fod yn groes, a bod rhaid cael enillwyr a chollwyr," atebodd.

"Mae cael eich gweld yn cyfaddawdu ar unrhyw beth yn wendid; mae cael eich gweld yn newid eich meddwl yn wendid."

Gwrthwynebu'r cytundeb

Mae disgwyl i ASau bleidleisio ddydd Mercher ar y cytundeb ôl-Brexit a gytunwyd gan Lywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd.

Mae Plaid Cymru yn bwriadu pleidleisio yn erbyn y cytundeb oherwydd y "difrod y bydd yn ei achosi i bobl Cymru".

Yn sgil cyhoeddi'r cytundeb, dywedodd Ms Saville Roberts ei fod yn codi rhwystrau masnach diangen, yn cynyddu biwrocratiaeth wrth i economi Cymru fynd drwy'r pandemig.

"Mae'n cau'r drws ar obeithion pobl ifanc," meddai.

"Mae'r Torïaid wedi ymestyn y trafodaethau gyda'r bwriad o hyrddio'r cytundeb drwy'r Senedd gan wawdio sofraniaeth. Mae'r Blaid Lafur yn euog hefyd."

Pynciau cysylltiedig