Cloc yn tician cyn etholiad Senedd mis Mai
- Cyhoeddwyd
Ar drydydd llawr adeilad Tŷ Hywel y Senedd mae yna gloc yn cyfrif i lawr tuag at ddydd Iau, 6 Mai 2021.
Mae'n eistedd yn swyddfa'r Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd, ac yn tician tuag at ddiwrnod yr etholiad.
Am rannau hir o'r flwyddyn ddiwethaf, mae wedi eistedd mewn swyddfa wag.
Mae rhai staff a adawodd yr adeilad ym mis Mawrth wedi dychwelyd i weithle sydd wedi newid yn gyfan gwbl - ffyrdd newydd o weithio; sesiynau rhithiol; Cynulliad a ddaeth yn Senedd.
Ond mae'n ymddangos mai ymwybyddiaeth y cyhoedd am ddatganoli yw'r newid mwyaf.
"Mae rhai pobl wedi deffro i ddatganoli er gwaethaf y ffaith ei fod wedi bod o gwmpas ers 20 mlynedd," meddai'r prif weinidog.
Ond os yw'r pandemig wedi arwain at well ddealltwriaeth o ble mae pŵer yn gorffwys, pa effaith a gaiff ar chweched etholiad datganoledig Cymru?
"Mae'r hyn sy wedi digwydd y flwyddyn [ddiwethaf] yn amlwg mor gysylltiedig â thriniaeth Llywodraeth Cymru o Covid, sydd wedi golygu gwneud penderfyniadau anodd sydd wedi cythruddo rhai pobl," meddai ffynhonnell o Lafur Cymru.
Yn y sgyrsiau a gefais ag aelodau Llafur, fe godwyd dau benderfyniad yn benodol: gwahardd archfarchnadoedd rhag gwerthu nwyddau diangenrhaid, a'r gwaharddiad ar werthu alcohol.
"Hiccup", meddai un. "Cnoc ar hyd y ffordd", meddai un arall.
Dywedodd trydydd: "Petase chi wedi gofyn i mi fis yn ôl a oedd pobl yn cefnogi ymateb pandemig Llywodraeth Cymru, byddwn wedi dweud 'ie' pendant.
"Ond ers y cyfnod clo byr bu llawer mwy o ansicrwydd."
Awgrymodd arolwg barn diweddar gan YouGov, dolen allanol bod yna ostyngiad yn hyder pobl yn y modd y mae Llywodraeth Cymru wedi delio â'r pandemig.
"Gallwn ddisgwyl newidiadau o'r math oherwydd bod ein ffigyrau a'r gefnogaeth ar gyfer y prif weinidog wedi bod mor uchel," meddai ffynhonnell.
Roedd pob un o'r blaid wnes i siarad gyda nhw yn ddigon hyderus am yr effaith hirdymor ar obeithion etholiadol Llafur, er bod y gwrthbleidiau'n anghytuno.
"Er clod iddynt, cawsant haf da, ond o tua canol mis Medi ymlaen, mae'r olwynion wedi dod i ffwrdd," meddai Aelod Ceidwadol o'r Senedd.
Mae ffynhonnell o Blaid Cymru yn cytuno: "Nid ydym wedi beirniadu'r prif weinidog tan yn ddiweddar iawn, nid oherwydd bod yr etholiad yn agosáu, ond oherwydd ein bod yn credu ei fod e'n gwneud camgymeriadau.
"Rwy'n credu bod y rhod wedi troi oherwydd chwe wythnos yn ôl byddwn wedi dweud bod stoc Drakeford mor uchel y byddai wedi newid y ddeinameg o ran sut y byddem yn chwarae'r ymgyrch," ychwanegon nhw.
'Bron bob amser yn dewis Adam'
Ond mae datblygiadau dros yr wythnosau diwethaf wedi argyhoeddi tîm Plaid ei bod yn werth cadw at strategaeth etholiad rhannol arlywyddol, gan olygu rhoi tipyn o bwyslais ar arweinyddiaeth Adam Price.
Ar ôl haf o asesu barn y cyhoedd, dywedodd ffynhonnell bod eu hadborth yn awgrymu bod pobl yn gyffredinol yn hoffi Mark Drakeford, ond pan roedd yna ddewis rhwng y prif weinidog ac Adam Price, "roeddent bron bob amser yn dewis Adam".
Mewn ymateb, dywedodd ffynhonnell o Lafur Cymru: "Os yw Adam eisiau chwarae ymgyrch arlywyddol, yna mae gan Mark broffil uwch ac mae'r cyhoedd yn hoff iawn ohono."
Mae Pôl Baromedr mis Hydref ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, dolen allanol yn awgrymu ar raddfa o 0 (ddim yn hoff iawn) i 10 (hoffi'n gryf) bod gan Mark Drakeford sgôr o 4.9, o'i gymharu â 4.5 ar gyfer Adam Price, a 3.4 ar gyfer arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Paul Davies.
Ond y prif wahaniaeth yw nad oedd 53% o'r ymatebwyr yn gwybod sut roeddent yn teimlo am Adam Price, a 60% am Paul Davies.
Dim ond 10% oedd yn teimlo na allent fynegi barn am y prif weinidog - canran is nag oedd yna ar gyfer arweinydd Llafur ar draws y DU, Syr Keir Starmer.
"Bu dadl yn y gorffennol ynglŷn â phwy sydd wir yn arwain Llafur Cymru? Ni fydd unrhyw amheuaeth yn yr etholiad hwn mai Mark sy'n arwain," yn ôl ffynhonnell o'r blaid.
'Perfformiad Boris yn penderfynu'
Mae'n stori wahanol i'r Torïaid.
"Bydd perfformiad Boris yn penderfynu ein canlyniad," meddai AS Ceidwadol.
Mae ymgyrch etholiadol Geidwadol Gymreig sy'n dibynnu cymaint ar berfformiad arweinydd y blaid Brydeinig yn "fendith ac yn felltith", meddai AS arall.
"Nid wyf yn credu ei fod yn broblem i Paul. Bydd yn amlwg yn cael mwy o sylw wrth i'r ymgyrch fynd yn ei blaen."
Ond dywedodd ffynhonnell arall ei bod yn "broblem" a bod "angen i Paul wneud tipyn o ymdrech" yn ystod yr ymgyrch.
Yn gyffredinol, fodd bynnag, mae'r Ceidwadwyr yn teimlo'n hyderus.
"Rwy'n credu y gallaf ddweud gyda pheth hyder y byddwn yn cael y gyfran uchaf o'r bleidlais erioed mewn etholiad i'r Senedd," yn ôl AS Torïaidd.
Trwy gydol 2020, mae'r arolygon yn awgrymu fod cefnogaeth y Ceidwadwyr wedi bod yn uwch na'u perfformiad gorau yn etholiad 2011 - pan enillodd y blaid 25% ar y bleidlais etholaethol, 22.5% ar y bleidlais ranbarthol a 14 sedd.
"Dangosodd etholiad cyffredinol y llynedd i ni fod mwy na 500,000 o bleidleiswyr Ceidwadol allan yna yng Nghymru," meddai ffynhonnell Dorïaidd.
Yn seiliedig ar y 557,234 o bleidleiswyr yng Nghymru a bleidleisiodd dros y Torïaid fis Rhagfyr diwethaf, eu strategaeth yw argyhoeddi 75% ohonyn nhw i gefnogi'r blaid unwaith eto'r flwyddyn nesaf.
Pe bai'n llwyddiannus, byddai'n arwain at bron i 418,000 o bleidleisiau - yn uwch na phleidlais etholaeth orau erioed Llafur o 401,677 yn 2011.
Mae'r blaid yn targedu'r seddi hynny sydd ganddyn nhw yn San Steffan, fel Wrecsam a Bro Morgannwg, ac yn credu bod ganddyn nhw siawns go dda o gipio Brycheiniog a Sir Faesyfed yn dilyn penderfyniad Kirsty Williams i sefyll i lawr.
Dywedodd ffynonellau o'r ddwy blaid y bydd hi'n anoddach curo ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol William Powell na phetai'r blaid wedi dewis arweinydd Cymreig y blaid Jane Dodds.
Dywedodd ffynhonnell o'r Democratiaid Rhyddfrydol y byddai'n gystadleuaeth agos ond os ydyn nhw'n colli'r etholaeth yna maen nhw'n gobeithio ennill sedd ranbarthol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.
Mae'r 'strategaeth 75%' yn uchelgeisiol o ystyried bod y Torïaid yn hanesyddol wedi methu ag argyhoeddi cefnogwyr i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd.
Dywedodd ffynhonnell Dorïaidd: "Maen nhw wedi trin etholiadau'r Senedd fel mwy o etholiad lleol ac mae hi wedi bod yn anodd weithiau eu cael nhw i sylweddoli pa mor bwysig yw hi.
"Felly, pan fod 'da chi rywbeth fel pandemig i ddangos lefel y dylanwad sydd ganddo arnoch chi, yna dylai gael effaith."
Dywedodd aelod arall: "Mae'n deg i ddweud nad yw'r Torïaid wedi bod mor brwdfrydig yn y gorffennol ond rwyf wedi gweld llwyth ohonynt allan yn canfasio'n ddiweddar."
Darren Millar, yr Aelod o'r Senedd dros Orllewin Clwyd sy'n arwain ar y maniffesto, ond mae'r blaid hyd yma wedi rhoi fwy o bwyslais ar dôn y neges â pholisïau.
Mae addewidion i "barchu'r hyn sydd ddim wedi'i ddatganoli" a haneru nifer y gweinidogion yn adlewyrchiad o blaid sydd angen "marchogaeth dau geffyl".
"Mae'n rhaid i ni gadw'r pleidleiswyr hynny a ddaeth atom oherwydd ein bod ni'n blaid o blaid Cymru, yr iaith Gymraeg ac yn y blaen, ond mae'n rhaid i ni hefyd gadw'r pleidleiswyr hynny sy'n fwy amheus o'r Senedd," dywedodd ffynhonnell.
Mae pôl piniwn diweddar yn awgrymu bod 71% o'r rhai sy'n bwriadu pleidleisio i'r Ceidwadwyr yn y bleidlais etholaethol, a 67% o'r rhai sy'n bwriadu pleidleisio dros y Blaid Geidwadol yn y rhanbarth yn cefnogi diddymu y Senedd petai refferendwm.
Eu pryder yw bod pleidleiswyr yn eu cefnogi ar gyfer y bleidlais etholaethol ond yn dewis Plaid Diddymu'r Cynulliad ar y rhestrau rhanbarthol.
Dywedodd ffynhonnell: "Rydyn ni'n gobeithio gwneud cynnydd ar y bleidlais etholaethol er mwyn lleihau'r risg honno.
"Ond rwy'n credu bod Ceidwadwyr yn eithaf pragmatig - mae'n bum mlynedd arall o Lafur os ydych yn gwastraffu eich pleidlais ar Diddymu, neu fe allech chi ein cael ni mewn grym.
"Rwy'n credu pan fyddwch chi'n esbonio'r dewis hwnnw i bobl, maen nhw'n ei ddeall."
Dywedodd ffynhonnell o'r Blaid Diddymu'r Cynulliad: "Mae ein cefnogaeth yn tyfu, mae ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn ffynnu ac mae ein neges yn atseinio gyda phobl Cymru."
Dywedodd AS Llafur ei bod yn debygol y gallai hen bleidleiswyr Llafur a adawodd y blaid dros Brexit droi at Blaid Diddymu'r Cynulliad, cyhyd â bod y blaid wedi'i chofrestru'n llwyddiannus.
Ychwanegodd yr AS: "Rwy'n credu y gallen nhw wneud yn dda iawn. I ble fydd y bobl hynny oedd yn arfer pleidleisio dros UKIP fel pleidlais brotest yn mynd nawr?"
Bydd UKIP hefyd yn ymgyrchu dros gael gwared ar ddatganoli ond mae'r gefnogaeth ar gyfer y blaid wedi dymchwel ers yr etholiad diwethaf.
Nid yw'r Blaid Brexit wedi penderfynu eto lle mae'n sefyll ar y cyfansoddiad, er y dywedodd ffynhonnell wrtha i bod Nigel Farage, yn unol â'r cais i newid enw'r blaid i Reform UK, yn fwy cefnogol i newid datganoli yn hytrach na'i ddileu'n llwyr.
Poeni'n arbennig am ogledd Cymru
Fel erioed, bydd Llafur unwaith eto'n ceisio fframio'r etholiad fel brwydr rhyngddi hi a'r Ceidwadwyr.
"Os ydych chi am rwystro prif weinidog Torïaidd a llywodraeth Dorïaidd, bydd yn rhaid i chi bleidleisio dros Lafur," meddai ffynhonnell o'r blaid.
Mae'n llinell glasurol o lyfr strategaethau etholiadol y blaid ond dywedodd sawl AS Llafur eu bod yn poeni'n arbennig am ogledd Cymru ar ôl colli pum sedd yno i'r Ceidwadwyr fis Rhagfyr 2019.
"Unwaith maen nhw wedi ei wneud, maen nhw wedi croesi'r llinell honno o Lafur i'r Ceidwadwyr, nid yw'n gymaint o beth i bleidleisio dros y Torïaid eto. Mae gennym her cenhedlaeth fel plaid," meddai un o ASau Llafur.
Dywedodd ffynhonnell: "Mae cymaint o'n hymgyrch yn mynd i fod yn amddiffynnol ac yn gobeithio ail-gipio llefydd fel y Rhondda."
Seddi Llafur yw pedair o'r pum sedd etholaethol fwyaf ymylol yn y Senedd - Llanelli, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg a Dyffryn Clwyd.
Mae tri o'r pump yn dargedau Plaid Cymru, er bod y blaid o'r farn bod mai Llanelli a Chaerffili yw'r seddi lle mae ganddyn nhw'r siawns orau.
Mae Gorllewin Caerdydd, sedd y prif weinidog a'r bedwaredd fwyaf ymylol i Blaid Cymru, yn debygol allan o'u cyrraedd.
Ar ôl gadael y blaid, mae eu hymgeisydd ar gyfer y sedd yn 2016 Neil McEvoy yn gobeithio curo Mark Drakeford gyda'i blaid newydd - Plaid y Genedl Gymreig, sydd hefyd yn aros i'r Comisiwn Etholiadol benderfynu ar gais cofrestru.
'Brandio nid maniffesto'
Fodd bynnag, mae'r Comisiwn eisoes wedi cymeradwyo, dolen allanol cais gan Blaid Cymru i ddisgrifio'i hun fel 'Plaid Cymru Newydd / New Wales Party', er bod y Comisiwn wedi gwrthod y disgrifiad 'Plaid Cymru: Prif Weinidog Adam Price'.
Mae Plaid Cymru yn canolbwyntio llawer mwy ar gyflwyniad a'r brandio yn yr etholiad hwn, gan gredu bod gormod o amser wedi'i dreulio ar ddatblygu maniffesto manwl mewn ymgyrchoedd blaenorol.
"Rydyn ni wedi treulio llawer o amser ar y cynhwysion ar gyfer y sosej yn y gorffennol ond dim digon o amser ar sut mae'n blasu," disgrifiodd ffynhonnell o'r blaid.
"Rydyn ni wedi bod yn meddwl mwy am werthu ein hunain fel brand etholiadol.
"Dydyn ni ddim eisiau i Adam orfod gwisgo ei het wonk-ish er mwyn egluro beth rydyn ni'n ceisio ei wneud.
"Ond ar y cyfan rydyn ni'n credu bod pobl eisiau newid oherwydd eu bod yn sylweddoli nad yw'r pethau sy'n bwysig iddyn nhw wedi newid - gofal cymdeithasol, diweithdra ymhlith pobl ifanc, tai cymdeithasol.
"Ac er na fydd hi'n ymgyrch un pwnc, bydd mwy o ffocws ar annibyniaeth nag erioed o'r blaen," ychwanegodd y ffynhonnell.
Am y tro cyntaf, mae'r blaid yn cynnig refferendwm annibyniaeth yn nhymor cyntaf llywodraeth Plaid Cymru.
Mae ffynonellau o'r blaid yn cydnabod bod cefnogaeth ar gyfer YesCymru - yr ymgyrch llawr gwlad dros annibyniaeth - yn uwch ar hyn o bryd na cefnogaeth i'r blaid.
Bydd yna bleidiau eraill hefyd yn sefyll o blaid annibyniaeth - Plaid y Genedl Gymreig, Gwlad Gwlad, a'r Blaid Werdd sydd hefyd wedi penderfynu cefnogi annibyniaeth petasai refferendwm.
Ond mae Plaid yn pwysleisio mai nhw yw'r blaid fwyaf a mwyaf sefydledig: "Os ydych chi eisiau annibyniaeth, rhaid i chi bleidleisio drosti trwy bleidleisio dros Blaid Cymru."
Faint fydd yn bwrw pleidlais?
Ond pa mor bwysig yw annibyniaeth i'r bobl hynny sy'n dweud mewn arolygon barn y byddan nhw'n cefnogi annibyniaeth mewn refferendwm?
Yw'n ddigon pwysig i ddenu pleidleiswyr Llafur sy'n cefnogi annibyniaeth?
Mae yna strategaeth ehangach er mwyn ceisio denu y pleidleiswyr Llafur hynny sy'n hanfodol i ymgyrch etholiadol Plaid.
"Rydyn ni'n mynd i redeg yr ymgyrch fwyaf positif rydyn ni erioed wedi'i rhedeg," meddai ffynhonnell.
"Nid yw pleidleiswyr Llafur yn ymateb yn dda i bobl yn dweud: 'Pam ydych chi wedi bod yn pleidleisio Llafur ar hyd eich oes, onid ydyn nhw wedi bod ychydig yn rybish?'
"Mae ein hymchwil yn awgrymu bod yn well ganddyn nhw reswm cadarnhaol dros newid," ychwanegodd y ffynhonnell.
Dyna'r strategaethau a'r negeseuon ond mae yna farc cwestiwn ynghylch sut y bydd y pleidiau'n ymgyrchu.
Y disgwyl yw y bydd yn rhaid ganolbwyntio ar y brwydrau ar-lein, ac ar deledu a radio.
Cododd AS Llafur y nifer sy'n pleidleisio fel "brwydr fawr arall…yn hanesyddol, mae wedi bod yn ofnadwy, nag yw e?"
Fyddai nifer yn cytuno.
Ni fu'r nifer a bleidleisiodd erioed yn uwch na'r 46% wnaeth wneud yn yr etholiad datganoledig cyntaf yn 1999.
Efallai'n wir fod pobl wedi "deffro i ddatganoli" 21 mlynedd yn ddiweddarach ond a fydd hynny'n arwain at gynnydd o bleidleisiau?
Yn ôl y cloc yn Nhŷ Hywel, ychydig dros bedwar mis sy'n weddill cyn y cawn ni'r ateb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2020