Neil McEvoy yn ail-enwi ei blaid newydd

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy

Mae aelod o'r Senedd Neil McEvoy wedi gwneud cais i ail-enwi ei blaid newydd yn dilyn her swyddogol gan ei gyn-blaid, Plaid Cymru.

Penderfynodd y corff sy'n goruchwylio etholiadau yn gynharach eleni ailystyried a ddylid cofrestru'r enw 'Plaid Genedlaethol Cymru' yn swyddogol.

Mae Mr McEvoy yn gobeithio ailgofrestru'r blaid fel Plaid Cenedl Cymru cyn etholiadau Senedd 2021.

Dywedodd Mr McEvoy na allai'r Comisiwn Etholiadol "roi dyddiad cau inni" o ran pa mor hir y byddai'r broses yn ei gymryd, felly mae wedi ailgofrestru'r blaid fel Plaid Cenedl Cymru.

Mae BBC Cymru yn deall bod Plaid Cymru hefyd yn herio'r enw newydd yn dilyn ei ail-enwi.

Dywedodd Mr McEvoy mai Plaid Cenedl Cymru oedd "enw dewisol" ei blaid, a bod "y gair 'cenedl' ynddo yn cael ei weld a'i deimlo i fod yn llawer mwy cynhwysol."

Pan ofynnwyd iddo gan raglen Politics Wales pam y byddai pobl yn pleidleisio dros ei blaid, dywedodd: "Oherwydd ein bod ni'n byw mewn gwlad sydd wedi'i dominyddu gan un blaid wleidyddol.

"Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol - y cyfan maen nhw wedi'i wneud ers 21 mlynedd yw cefnogi Llafur.

"Felly, os ydych chi'n pleidleisio dros y pleidiau hynny, rydych chi'n mynd i gael Llafur.

"Mae'r hyn rydyn ni am gynnig, am y tro cyntaf erioed, yw gwrthblaid gredadwy, gan ddwyn y llywodraeth i gyfrif," ychwanegodd.

Ar hyn o bryd nid yw Neil McEvoy yn cael ei alw i siarad yn y Senedd yn dilyn protest yn y siambr yn ystod dadl ar hiliaeth.

'Sylwadau difenwol'

Mae'r Llywydd wedi gofyn iddo dynnu "sylwadau difenwol" yn ôl a dileu negeseuon cyfryngau cymdeithasol a wnaed yn ystod y ddadl lle roedd yn gwisgo tâp dros ei geg ac yn gafael mewn arwydd.

Roedd yn gwrthwynebu penderfyniad y Llywydd Elin Jones AS i wrthod ei welliannau i gynnig y ddadl.

Dywedodd Mr McEvoy wrth Politics Wales: "Ni allaf ymddiheuro am rywbeth rwy'n credu'n gryf ynddo.

"Bu dadl ar hiliaeth. Cyflwynais bedwar cynnig synhwyrol iawn... derbyniodd y swyddogion fy ngwelliannau ac yna awr cyn i'r cyfarfod gychwyn, tynnodd y Llywydd, Llywydd o Plaid Cymru, fy ngwelliannau yn ôl er mwyn cynnal busnes go iawn.

"Felly, yr hyn yr oedd y Senedd yn ei ddweud y diwrnod hwnnw oedd bod cynigion i frwydro yn erbyn hiliaeth... fel yr unig aelod o liw a oedd yn gallu cyflwyno cynigion, roeddwn i'n dweud, 'edrychwch, mae angen edrych ar y pethau hyn' ac roedd yn gwbl amharchus."

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd: "Nid yw Mr McEvoy wedi ymddiheuro i'r Senedd am ymddygiad afreolus. Unwaith y bydd yn gwneud hynny, gellir ei alw eto i siarad, fel y gwnaeth eraill yn y gorffennol."

Gwaharddiad

Mae Neil McEvoy hefyd yn gynghorydd etholedig yng Nghaerdydd ond cafodd ei wahardd o'i rôl yn ddiweddar am bedwar mis ar ôl iddo gael ei ddyfarnu ei fod wedi bwlio gweithiwr cartref gofal.

Mae Mr McEvoy wedi'i wahardd o'r cyngor ar sawl achlysur a chafodd ei ddiarddel o Plaid Cymru am 18 mis yn dilyn ymchwiliad plaid i'w ymddygiad.

Pan ofynnodd Politics Wales iddo a oedd erioed wedi ystyried bod ei ymddygiad yn broblem, dywedodd: "Rwy'n broblem i sefydliad Cymru, yn amlwg.

"Gyda'r cyhuddiadau, os ewch chi i mewn i ychydig mwy o fanylion yna byddwch chi'n datgelu'r stori lawn.

"Mae wedi cyrraedd y pwynt nawr lle pan dwi'n gwneud galwad ffôn ddadleuol, dwi'n ffimio fy hun yn gwneud hynny oherwydd pan rydych chi'n herio awdurdod yng Nghymru nid ydyn nhw'n ei hoffi," ychwanegodd.

Gallwch wylio'r cyfweliad yn llawn ar Politics Wales sydd ar gael ar iPlayer