Caroline Jones: Senedd 'angen wynebau ffres' ar ôl Brexit

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
caroline jones

Mae angen "wynebau mwy ffres" yn y Senedd ar ôl Brexit, medd yr AS annibynnol Caroline Jones.

Roedd yn siarad mewn cyfweliad gyda BBC Cymru fel rhan o gyfres o gyfweliadau gyda gwleidyddion ar ddwy ochr yr ymgyrch Brexit yng Nghymru, a dywedodd Ms Jones nad oedd y Senedd yn "cynrychioli dymuniadau pobl Cymru" dros Brexit.

Yn wreiddiol roedd Ms Jones yn arweinydd UKIP yn y Senedd cyn ymuno gyda Phlaid Brexit, ond gadawodd y blaid honno oherwydd ei safiad "gwrth-ddatganoli".

Ar ôl Brexit, dywedodd yr hoffai weld y Senedd yn "gweithio'n wahanol".

Dywedodd: "Roedd rhai o'r Ceidwadwyr yn y Senedd am weld Brexit, ond doedd llawer ddim.

"Roedd gyda chi tua 85% o Aelodau Cynulliad bryd hynny, Aelodau Senedd nawr, oedd ddim yn cynrychioli dymuniadau pobl Cymru mewn mandad ddemocrataidd."

Er bod Plaid Brexit yn ymddangos yn gartref naturiol i Ms Jones, dywedodd eu bod wedi gwahanu wedi i arweinydd y blaid addo dileu'r Senedd.

"Pan aeth yr arweinydd i symudiad gwrth-ddatganoli, allai fy nghydwybod ddim dilyn.

"Rwy'n cefnogi Cymru, rwy'n credu mewn datganoli. Ond mae'n rhaid iddo weithio'n wahanol i bobl Cymru," meddai.

"Rwy'n falch o fy ngwlad, ond nid o'r sefyllfa y mae ynddi, sydd ddim byd i 'neud gyda Brexit.

"Hoffwn weld Senedd ffres, wynebau mwy ffres gyda syniadau da am beth y dylen ni fuddsoddi ynddo."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn gynharach y mis yma fe wnaeth Llywodraeth Cymru fygwth camau cyfreithiol dros gyfraith newydd y DU i sefydlu rheolau masnachu rhwng pedair gwlad y DU wedi Brexit, gan honni y byddai'n cyfyngu ar allu'r Senedd i greu deddfau.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd yn "gwarchod swyddi Cymru". Beth yw barn Ms Jones am y ffrae?

"Yn gyntaf hoffwn weld perthynas well rhwng llywodraethau Cymru a'r DU er mwyn pobl Cymru. Mae Brexit wedi'i wneud.

"Nawr yw'r amser i weithio dros bobl Cymru er mwyn cael y canlyniadau gorau gallwn ni. Mae'n bryder i mi... os na fydd y berthynas iach yma rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, fydd pethau ddim yn symud ymlaen."

Un pryder penodol iddi yw sut y bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin - a fydd yn cymryd lle arian o'r Undeb Ewropeaidd i Gymru - yn cael ei wario.

"Mae diffyg buddsoddiad wedi bod yng Nghymru," meddai. "Dyw e'n dda i ddim pan mae 28% yn byw gyda thlodi plant, y diwydiant dur wedi mynd a diffyg buddsoddiad yn y diwydiannau cynhyrchu. Mae'r buddsoddiad yn isadeiledd Cymru wedi bod yn wael."

Roedd yn croesawu'r ffaith bod y DU a'r UE wedi cytuno ar fasnachu wedi Brexit, a dywedodd: "Mae'r newyddion am gytundeb yn bositif i'r DU a'r UE. Y dewis gorau o'r dechrau oedd cytundeb da i'r DU.

"Bydd busnesau yng Nghymru yn hapus o glywed am gytundeb wedi blynyddoedd lawer o gael eu gadael mewn limbo"

Pynciau cysylltiedig