Ar ddiwedd 2020: Cerdd gan Christine James

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Traeth 2020

Ar ddiwrnod olaf y flwyddyn, dyma gerdd arbennig ar gyfer darllenwyr Cymru Fyw gan Christine James.

Bardd ac academydd a fagwyd yn ardal y Rhondda yw Christine James. Fe enillodd gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri yn 2005 a hi oedd y fenyw gyntaf i gael ei hethol yn Archdderwydd.

Oera marwor ugain-ugain ar aelwydydd,

aeth Nadolig arall heibio yn ei dro;

parsel heb ei agor ydi'r flwyddyn newydd.

Cadw pellter, colli swyddi, prinder bwydydd -

hir y cofiwn gyfyngiadau'r Cyfnod Clo:

oera marwor ugain-ugain ar aelwydydd.

Blino'n syllu'n gyson ar yr un hen walydd,

cyfarfodydd Zoom yn gyrru pawb o'u co';

parsel heb ei agor ydi'r flwyddyn newydd.

Gwylio'r graffau'n codi'n sydyn, uwch-uwch beunydd,

gormod yn annhymig-orwedd yn y gro:

oera marwor ugain-ugain ar aelwydydd.

Ond gyda'r Calan daw gobaith gweld yr hafddydd,

buddugoliaeth brechlyn, gyrru'r haint ar ffo:

parsel heb ei agor ydi'r flwyddyn newydd.

Ac yna'r gwres! Fe gawn brofi hen lawenydd

dod ynghyd, un teulu eto dan un to.

Oera marwor ugain-ugain ar aelwydydd,

ac anrheg heb ei hagor yw pob blwyddyn newydd.

Christine James

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod

Christine James yw bardd y mis Radio Cymru ar gyfer mis Rhagfyr.

Hefyd o ddiddordeb: