Cymru i gael 22,000 dos o'r brechlyn newydd wythnos nesaf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
brechlynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae brechlyn Pfizer ar gyfer Covid-19 eisoes wedi cael ei roi i rai categorïau o bobl

Fe fydd Cymru yn derbyn 22,000 dos o Oxford-AstraZeneca yr wythnos nesa', yn ôl y meddyg sy'n gyfrifol am y gwaith o ddosbarthu'r brechlyn.

Yn ôl y Dr Gillian Richardson o Iechyd Cyhoeddus Cymru fe fydd y gwaith o'i ddosbarthu ledled Cymru yn "anferthol."

Dywedodd ei bod yn croesawu'r newyddion bod modd cael bwlch o 12 wythnos cyn gorfod rhoi ail ddos i bobl.

Daw hynny wrth i Weinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething gadarnhau y byddan nhw'n dilyn cyngor swyddogion meddygol y DU ac yn ymestyn yr amser rhwng derbyn y dos cyntaf a'r ail ddos o frechlyn Pfizer/BioNTech.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae o leiaf 35,335 o bobl yng Nghymru wedi derbyn y brechlyn hwnnw - y cyntaf i gael ei gymeradwyo - hyd 27 Rhagfyr.

Mae'r datblygiad y brechlyn diweddaraf, medd Dr Richardson, yn "newyddion gwych" ac yn golygu fod mwy o bobl yn gallu cael eu brechlyn cyntaf yn gynharach.

Ond rhybuddiodd bod yn rhaid aros cyn i'r brechlyn effeithio ar y niferoedd sy'n gorfod cael triniaeth yn yr ysbyty o ganlyniad i'r haint.

Dywedodd wrth raglen BBC Radio Wales Breakfast fod y broses yn ddibynnol ar y cyflymdra mae'n cael ei gynhyrchu.

"Erbyn yr amser y bydd Oxford-AstraZeneca yn dechrau cynhyrchu ar raddfa sefydlog fe fyddwn yn gallu dyfalu yn well o ran ei ddosbarthiad, ond ar hyn o bryd yr oll allwn ddweud ydi ein bod yn gwneud y bobl fwyaf bregus yn gyntaf, a bydd yn cyrraedd pawb yn ei dro - plîs byddwch yn amyneddgar. "

Galwodd hefyd ar bobl i gadw at y cyfyngiadau yng Nghymru wrth groesawu'r Flwyddyn Newydd.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brechlyn AstraZeneca wedi cael ei ddylunio gan wyddonwyr Prifysgol Rhydychen

Ym Mae Colwyn, dywedodd y meddyg teulu Dr Helen Alefounder, nad oedd wedi cael dyddiad penodol pryd y bydd yn derbyn y brechlyn.

Ond ychwanegodd fod eu trefniadau cynllunio mewn lle.

"Dio ddim mor syml â rhywun yn cyrraedd y feddygfa a chael brechlyn, mae'n ymwneud â phopeth arall sy'n rhaid cael ei ystyried.

"O ran cynllunio, mae'r dasg yn enfawr.

"Ond, rydym yn gwneud hynny o ran brechlyn ffliw yn flynyddol, felly mae yna wybodaeth cefndir da iawn o ran y pethau sydd angen eu gwneud a'u darparu.

"Pethau syml fel gwneud yn siŵr fod yna lefydd parcio ar gyfer pobl, gwneud yn siŵr fod pobl yn gallu cadw pellter cymdeithasol, a gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi digon o amser i bobl eistedd ar ôl y brechlyn rhag ofn bod rhyw fath o adwaith."

Beth sy'n digwydd gyda brechlyn Pfizer?

Mewn datganiad ysgrifenedig ar 31 Rhagfyr fe gadarnhaodd Vaughan Gething y byddai Cymru'n dilyn yr un drefn â gweddill y DU wrth newid yr amserlen ar gyfer rhoi'r ail ddos o frechlyn Pfizer i bobl.

I ddechrau roedd disgwyl y byddai cleifion sydd eisoes wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn hwnnw yn cael eu hail ddos ymhen 21 diwrnod, fel yr oedd y cwmni wedi nodi oedd yn briodol.

Ond nawr fe fydd y cleifion hynny'n aros hyd at 12 wythnos cyn cael eu hail frechlyn, gyda'r rhai sydd ar gael yn cael eu hailddosbarthu er mwyn blaenoriaethu rhoi dos cyntaf i bobl eraill.

Dywedodd Mr Gething fod pedwar prif swyddog meddygol y DU yn cytuno â chyngor y Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio ar wneud hynny, er mwyn "diogelu'r nifer mwyaf o bobl sy'n wynebu risg yn gyffredinol o fewn y terfyn amser byrraf posibl".

Mewn datganiad dywedodd Pfizer mai mater i lywodraethau oedd amserlen eu rhaglen frechu, ond mai dim ond bwlch o 21 diwrnod rhwng y ddau ddos y cafodd y rhan fwyaf o bobl y brechlyn yn eu treialon nhw.

Pynciau cysylltiedig