Brechlyn Covid-19 yn cael ei roi am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd

Y bobl gynta yn ciwio i gael eu brechlyn Covid-19 mewn canolfan yng Nghwmbrân fore Mawrth
Fe fydd brechlyn Covid-19 yn cael ei roi i bobl yng Nghymru am y tro cyntaf ddydd Mawrth, gan ddod ag ychydig o oleuni yn y frwydr yn erbyn y pandemig sydd wedi trawsnewid bywydau pobl.
Fe fydd brechlyn Pfizer/BioNTech yn cael ei roi yn gyntaf i weithwyr iechyd wrth i nifer yr achosion positif yng Nghymru barhau i godi.
Mae disgwyl i bron 1,000 dos gael eu rhoi yng Nghymru erbyn y penwythnos ym mhob un o'r saith o fyrddau iechyd - gyda'r nod o frechu 1.4m erbyn diwedd y rhaglen.
Dydd Llun fe gafodd dros 2,000 o achosion positif eu cadarnhau yma.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Yr wythnos ddiwethaf, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i dderbyn cyflenwadau o'r brechlyn COVID-19.
"Heddiw, rwy'n falch iawn mai Cymru yw un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i ddechrau cyflwyno'r brechlyn i'w phobl.
"Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd tu hwnt i ni i gyd. Mae'r brechlyn hwn yn llygedyn bach o olau ar ddiwedd twnnel hir a thywyll.
"Ond dydy'r ffaith bod brechlyn ar gael ddim yn golygu bod modd i ni roi'r gorau i'r holl arferion sy'n ein diogelu."

Y brechlynnau cyntaf yn cyrraedd y ganolfan frechu yng Nghwmbran fore Mawrth

Staff mewn canolfan frechu yng Nghwmbrân yn paratoi ar gyfer y sesiynau cyntaf fore Mawrth
Ar ddechrau'r ymgyrch frechu fe fydd Cymru yn cael 40,000 dos o Pfizer/BioNTech - digon ar gyfer 20,000 o bobl gan fod angen dwy ddos ar bawb er mwyn iddo fod yn effeithiol.
Mae'n rhan o 800,000 dos fydd yn cael eu dosbarthu drwy'r DU.
Y rhai cyntaf i dderbyn y brechlyn fydd gweithwyr y gwasanaeth iechyd a'r rhai dros 80 oed.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Oherwydd problemau gyda'r gallu i ddosbarthu'r brechlyn, sydd angen ei gadw ar dymheredd isel iawn, fe fydd yn rhaid i breswylwyr cartrefi gofal aros ychydig yn hirach.
Daw'r brechlyn wrth i'r nifer o gleifion yn dioddef gyda coronafeirws mewn ysbyty gynyddu i 1,800 - sef 23% o gleifion, o'i gymharu â 18% ym mis Mai.
Ddydd Llun dywedodd y gweinidog iechyd fod y sefyllfa yng Nghymru yn un hynod ddifrifol gyda phwysau aruthrol ar y gwasanaeth iechyd.

Wendy Warren sydd yng ngofal y cynllun brechu yng Nghwmbrân
Wendy Warren yw'r pennaeth cynllunio argyfwng sydd yng ngofal y cynllun brechu yn ardal Cwmbrân.
Dywedodd: "Mae ein hysbytai yn brysur ofnadwy, felly roedd gweithio gydag awdurdodau lleol yn golygu medru mynd â'r brechlyn i ardal gymunedol - at y bobl - sydd yn well iddyn nhw.
"Fe wnaethon ni ymarferion gyda staff yn chwarae rhan cleifion, ac roedd hynny'n gyfle i brofi'r cynllun. Mae hyn ar raddfa dy'n ni erioed wedi gwneud o'r blaen."
Gobaith
Ar raglen Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru dywedodd Pennaeth rhaglen frechu Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Dr Richard Roberts bod hwn yn 'hynod gyffroes'."Dim ond 9 mis ers i'r WHO ddatgan ein bod ni mewn pandemig ac mae ganddo'n ni'r brechlyn cyntaf a mwy ar y ffordd. "Ni wedi bod yn cynllunio ers 6 mis", meddai, "mae'r brechlyn yma'n anodd ei symud, mae'n rhaid ei symud ar -75 radd selswis ac wedyn ychydig iawn o amser i'w ddefnyddio ar ôl ei dynnu allan o'r rhewgell, felly mae'n anodd ei ddefnyddio ac rydyn ni wedi cynllunio at hynny.'"Mae gennym ni ychydig o dan 40,000 dos yng Nghymru sy'n ddigon i ychydig o dan 20,000 o bobl.
"Ar y blaen mae'r rhai sydd mewn cartrefi gofal a gan fod y brechlyn yn anodd ei symud ry'n ni yn cynllunio sut i wneud hynny i'r cartrefi gofal a'i gadw yn effeithiol. Mae'n colli ei effeithiolrwydd os nad y'ch chi'n ofalus gyda'i symud. Yna mae'r rhai dros 80 oed hefyd ar flaen y ciw a rhu'n ni yn cyn cynnig iddyn nhw cyn gynted â phosib.""Mae ganddo'n ni system frechu a manylion pawb yng Nghymru yn y system ac mae pawb yn y ciw yn rhywle, rhai ar y blaen a rhai y tu ôl. Ond bydd pawb yn cael eu galw gan y system drwy lythyr yn y post a tecst i'ch atgoffa. Bydd y system yn rhoi dyddiad y dos gyntaf a'r ail ddos i chi. Mae ychydig o amddiffyniad ar ôl y dos gyntaf ond mae'n rhaid i chi gael y ddwy ddos i gael yr amddiffyniad llawn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2020