Wylfa Newydd: 'Trafodaethau calonogol yn parhau'
- Cyhoeddwyd
Mae trafodaethau "calonogol" am fuddsoddiad mewn prosiect ynni niwclear ar Ynys Môn yn parhau, yn ôl y datblygwyr.
Daeth cadarnhad ddydd Iau fod y dyddiad cau ar gyfer cais cynllunio Wylfa Newydd wedi ei symud i 30 Ebrill 2021.
Ym mis Medi, cefnodd cwmni Hitachi ar y cynllun gwerth £20bn, oedd yn addo creu tua 9,000 o swyddi.
Ond ers hynny mae'r datblygwyr, Pŵer Niwclear Horizon, wedi bod yn trafod y ffordd ymlaen "â nifer o bartïon".
Mae'r broses o gael gorchymyn cydsyniad datblygu ar gyfer Wylfa Newydd ar waith ers Mehefin 2018. Ym mis Medi cafodd y dyddiad cau ei symud i 31 Rhagfyr.
'Gweithio'n galed i sicrhau canlyniad llwyddiannus'
Mewn llythyr at Alok Sharma AS, Gweinidog Busnes Llywodraeth y DU, gofynnodd prif weithredwr Pŵer Niwclear Horizon am estyniad pellach, gan ddweud fod y trafodaethau gyda buddsoddwyr newydd posib "yn gadarnhaol".
"Yn ein gohebiaeth flaenorol rwyf wedi cyfeirio at drafodaethau â thrydydd partïon sydd wedi mynegi diddordeb mewn bwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu gorsaf bŵer niwclear yn safle Wylfa Newydd yn Ynys Môn, Cymru," meddai Duncan Hawthorne.
"Mae'r trafodaethau hyn â nifer o bartïon wedi bod yn gadarnhaol ac yn galonogol o ran dod o hyd i ffordd ymlaen yn absenoldeb Hitachi, Ltd.
"Oherwydd y cymhlethdodau sy'n gysylltiedig ag unrhyw brosiect seilwaith mawr, mae'r trafodaethau hyn yn dal yn mynd rhagddynt ac mae fy nhîm a minnau'n parhau i weithio'n galed i sicrhau canlyniad llwyddiannus i'r trafodaethau hyn.
"Byddai gohirio eto am gyfnod byr yn caniatáu i ni gwblhau'r trafodaethau i sicrhau canlyniad clir i brosiect Wylfa Newydd ac i gytuno ar safbwynt o ran cydsyniad datblygu."
Wrth ymateb, dywedodd Mr Sharma: "Rwyf wedi ystyried eich cais ac wedi penderfynu, o dan yr amgylchiadau, ei bod yn briodol ailosod y dyddiad cau ar gyfer y penderfyniad statudol ar y Cais i 30 Ebrill 2021."
Daeth y gwaith ar Wylfa Newydd i stop ym mis Ionawr 2019 achos costau cynyddol wedi i Hitachi a Llywodraeth y DU fethu dod i gytundeb am gefnogaeth ariannol i'r fenter. Ar 16 Medi 2020, cyhoeddodd Hitachi eu bod yn cefnu ar y prosiect yn llwyr.
Roedd Wylfa Newydd yn addo creu tua 9,000 o swyddi i gychwyn, ond mae gwrthwynebwyr fel y grŵp ymgyrchu PAWB wedi dadlau'n gyson o blaid buddsoddi mewn ynni cynaliadwy yn ei le.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020