Cadarnhau diwedd cynllun atomfa Wylfa Newydd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Hitachi wedi cadarnhau ei fod yn tynnu'n ôl o gynllun atomfa Wylfa Newydd ar Ynys Môn.
Cafodd y cynllun hyd at £20bn ei atal yn Ionawr 2019 wrth i'r cwmni o Japan geisio sicrhau cytundeb ariannol.
Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd y cwmni ei fod wedi penderfynu tynnu'n ôl gan fod 20 mis ers iddyn nhw atal y gwaith dros dro, a bod yr "amgylchedd buddsoddi yn fwy difrifol" yn sgil effaith Covid-19.
Roedd arweinydd Cyngor Môn wedi dweud wrth y BBC ddydd Mawrth na fyddai'r cwmni yn bwrw 'mlaen gyda'r cynllun.
'Cau gweithgareddau datblygu presennol'
Yn ôl y datblygwyr, fe fyddai'r atomfa wedi cyflenwi trydan ar gyfer hyd at bum miliwn o gartrefi a chyflogi 9,000 o weithwyr yn ystod y cyfnod adeiladu.
Mae Hitachi wedi bod mewn trafodaethau ynghylch ariannu prosiectau ynni niwclear gyda Llywodraeth y DU, wnaeth gynnig rhywfaint o gefnogaeth ariannol, heb fod yn ddigon i liniaru pryderon Hitachi ynghylch y risgiau ariannol.
Ond ar ôl atal y gwaith yn 2019 gan fod angen "amser pellach i benderfynu ar strwythur ariannu i'r cynllun", mae Hitachi bellach wedi tynnu'n ôl yn gyfan gwbl.
Dywedodd y cwmni nad oedd disgwyl i'r penderfyniad gael "effaith sylweddol" ar ganlyniadau busnes.
Dywedodd Pŵer Niwclear Horizon, yr is-gwmni a fyddai wedi bod yn gyfrifol am y datblygiad, y byddai'n "rhoi'r gorau i'w weithgareddau i ddatblygu prosiectau yn Wylfa Newydd ar Ynys Môn ac yn Oldbury on Severn yn Ne Swydd Gaerloyw" wedi'r penderfyniad.
Ychwanegodd y cwmni: "Bydd Horizon yn cymryd camau nawr i fynd ati'n drefnus i gau ei holl weithgareddau datblygu presennol, ond bydd yn parhau i fod mewn cysylltiad â'r llywodraeth a rhanddeiliaid allweddol eraill ynghylch opsiynau ar ein dau safle yn y dyfodol."
Dywedodd y Prif Weithredwr Duncan Hawthorne: "Rwy'n deall y bydd y cyhoeddiad hwn yn siomedig i lawer o'n cefnogwyr a oedd wedi gobeithio gweld ein prosiect yn dwyn ffrwyth.
"Hoffwn ddiolch yn bersonol i chi am eich cefnogaeth drwy gydol ein cyfnod ar y prosiect hwn."
'Siomedig tu hwnt'
Dywedodd y gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr economi a gogledd Cymru bod y newyddion yn "wedi'n siomi'n fawr".
Mae Pŵer Niwclear Horizon, Cyngor Môn a phartneriaid eraill wedi "gweithio'n aruthrol o galed" i geisio gwireddu'r cynllun, meddai Ken Skates AS, a dywedodd mai dyma'r amser i barhau i "adeiladu ar y sylfeini a osodwyd".
"Ni ddylwn anghofio bod Wylfa yn un o'r lleoliadau gorau dros y DU ar gyfer datblygiad niwclear."
"Rydym yn deall y bydd hyn yn newyddion siomedig iawn i bobl gogledd Cymru," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y DU.
Dywedodd y llefarydd y bydd ynni niwclear yn rhan o gynlluniau'r dyfodol, a dyna pam y gwnaeth gweinidogion gynnig "cefnogaeth ariannol hael" i Hitachi.
"Rydyn ni'n parhau'n barod i drafod prosiectau ynni newydd gydag unrhyw gwmnïau a buddsoddwyr sydd eisiau datblygu lleoliadau yn y DU, gan gynnwys yng ngogledd Cymru."
Dydd Mawrth, dywedodd Arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi, bod y penderfyniad yn "newyddion siomedig, yn enwedig ar adeg mor anodd yn economaidd", yn enwedig i bobl ifanc yr ynys.
Ond cafodd ei groesawu gan grŵp gwrth-niwclear Pobol Atal Wylfa B (PAWB), wnaeth alw am gefnogi mentrau cymunedol a phobl Môn yn sgil y penderfyniad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020