Covid-19: 70 o farwolaethau pellach yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Prawf

Mae 70 o farwolaethau pellach sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws wedi eu cofnodi yn y ffigyrau diweddaraf yng Nghymru.

Mae'n golygu bod cyfanswm o 3,564 o farwolaethau wedi eu cofnodi hyd at 09:00 ar 31 Rhagfyr.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), cafodd 2,764 o achosion newydd hefyd eu cofnodi.

Cyfanswm yr achosion sydd wedi eu cofnodi gan ICC hyd at 31 Rhagfyr yw 151,300.

Cafodd 26 o farwolaethau eu cofnodi yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Roedd 11 yr un ym myrddau Aneurin Bevan, Bae Abertawe a Chaerdydd a'r Fro.

Cafodd saith o farwolaethau eu cofnodi gan fwrdd Hywel Dda, a phedair gan fwrdd Betsi Cadwaladr.

Oherwydd y gwyliau, mae'r data yn mynd hyd at 31 Rhagfyr, a dywedodd ICC y byddai ffigyrau ddydd Sul yn cwmpasu cyfnod hirach na'r arfer.

Dywedodd y corff iechyd y "dylid ei ddehongli'n ofalus, gan ei fod yn debygol o fod tua dwbl y gwerth 24 awr arferol".

Pynciau cysylltiedig