Cyflwyno deddf allai ganiatáu oedi etholiad y Senedd

  • Cyhoeddwyd
blwchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd pobl 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio am y tro cyntaf yn 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddf a fyddai'n caniatáu oedi i etholiad y Senedd hyd at chwe mis.

Mae'n "gyfrifol i ganiatáu rhywfaint o hyblygrwydd", yn ôl y prif weinidog Mark Drakeford, a ddywedodd ei fod yn parhau i fod "wedi ei ymrwymo" i'r etholiad ar 6 Mai 2021.

Daw hyn ar ôl i Mr Drakeford ddweud ym mis Tachwedd y byddai gweinidogion yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth yn y flwyddyn newydd "os yw'r sefyllfa ar ôl y Nadolig yn awgrymu y bydd angen i ni wneud hyn".

Dywedodd y Ceidwadwyr fod ganddyn nhw "bob hyder... y gallai etholiad diogel" gael ei chynnal ym mis Mai.

Ond dywedodd Plaid Cymru y byddai'n cefnogi'r gyfraith arfaethedig oherwydd "mae'n rhesymol y dylem fod â'r gallu i ymateb i bob sefyllfa all godi".

Mae gan Lywydd y Senedd eisoes y gallu i ohirio'r etholiad hyd at fis, ond byddai'r gyfraith newydd yn ymestyn y cyfnod hwnnw i hyd at chwe mis.

Dim ond mwyafrif syml o Aelodau'r Senedd fyddai eu hangen i basio'r gyfraith newydd a fyddai'n cyflwyno'r fframwaith newydd gan ganiatáu ar gyfer oedi posibl.

Ond byddai angen "mwyafrif sylweddol" - 40 allan o 60 ASau - i ganiatáu achos dros oedi mor hir â chwe mis.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Mr Drakeford: "Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i etholiad Senedd ym mis Mai eleni ond o dan yr amgylchiadau sy'n ein hwynebu, yn syml, mae'n gyfrifol i roi bil ar y llyfr statud a fyddai'n caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd yn y dyddiad hwnnw pe bai hynny'n angenrheidiol, a byddwn yn cychwyn ar y broses honno yn gynnar yn y tymor sydd i ddod.

"Mae gwir angen etholiad ar y Senedd. Mae'n rhaid i ni ei wneud o dan amgylchiadau sy'n ddiogel a ddim yn atal pobl rhag mynd i'r blychau pleidleisio.

"Byddwn yn defnyddio y pwerau os ydyn nhw'n angenrheidiol, ond fy ngobaith yw y byddwn ni'n gallu cynnal yr etholiad hwnnw ym mis Mai," ychwanegodd.

Mae Llywodraeth Yr Alban wedi cyflwyno deddf debyg yn Holyrood.

Ymateb y gwrthbleidiau

Dywedodd Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd: "Dywedodd y prif weinidog ei fod yn cytuno â ni y dylid cynnal etholiadau Senedd Cymru ar 6 Mai.

"Mae'n destun pryder bod Llywodraeth Cymru bellach yn cyflwyno deddf a fyddai'n galluogi symud y dyddiad hwnnw.

"Mae gan newid dyddiad yr etholiad oblygiadau enfawr a bydd llawer o bobl yn teimlo eu bod yn colli eu llais.

"Mae gen i bob hyder y gall ein swyddogion etholiadol gynnal etholiad diogel ar 6 Mai, gan ddysgu o'r llu o etholiadau sydd wedi digwydd ledled y byd yn ystod y pandemig."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru mai u blaenoriaeth ydy "sicrhau etholiad diogel i bob pleidleisiwr yng Nghymru".

"Mae'n rhesymol y dylem fod â'r gallu i ymateb i bob senario a all ein hwynebu, a bydd Plaid Cymru yn gweithio'n adeiladol i sicrhau etholiad teg a thryloyw, gan alluogi newid llywodraeth sydd ei angen yn fawr," meddai.

Dywedodd AS Plaid Diddymu'r Cynulliad, Mark Reckless mewn dadl flaenorol: "Dylai fod etholiad ar 6 Mai. Ni ddylai fod deddfwriaeth i'w gohirio. Mae'n anghywir ac ni ddylem ei wneud."

Yr etholiad fydd y tro cyntaf i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yng Nghymru a hefyd yr arolwg barn cyntaf ers i'r Cynulliad gael ei ailenwi'n Senedd Cymru.