Covid: Galw am flaenoriaethu brechu athrawon

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
DisgyblionFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth ysgolion uwchradd a cholegau gau eu drysau wythnos yn gynnar cyn y Nadolig

Mae'r gwrthbleidiau yn y Senedd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i frechu staff ysgolion er mwyn medru ailagor ysgolion yn ddiogel.

Ddydd Llun daeth cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams na fyddai ysgolion Cymru yn ailagor tan 18 Ionawr ar y cynharaf oherwydd cynnydd mewn achosion o coronafeirws.

Daeth y cyhoeddiad wedi i brif swyddogion meddygol bedair gwlad y DU gytuno i symud y DU gyfan i rybudd Lefel 5, sef y lefel uchaf.

Mae'r lefel yna yn golygu bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn perygl o gael ei lethu'n llwyr gan coronafeirws.

Nid yw symud y lefel rhybudd yn effeithio'n uniongyrchol ar y cyfyngiadau dydd i ddydd sydd yn weithredol yng Nghymru ar hyn o bryd.

Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg, Suzy Davies: "Gyda llawer o blant i fod i ddychwelyd i'r ysgol o ddydd Mercher, daeth y newyddion yma'n rhy hwyr iddyn nhw a'u rhieni."

Roedd y cyhoeddiad yn berthnasol i bob ysgol cynradd ac uwchradd, ond fe fydd ysgolion a cholegau'n parhau yn agored i blant gweithwyr allweddol a disgyblion bregus, ac i ddysgwyr sydd angen cwblhau asesiadau neu arholiadau.

Ychwanegodd Ms Davies: "Yr hyn y mae rhieni, disgyblion ac athrawon ar draws Cymru angen nawr yw sicrwydd gan y gweinidog ynglŷn â'r meini prawf ar gyfer ailagor ysgolion, oherwydd er fod hwn yn fesur doeth mae darllen y bydd y pythefnos nesaf yn cael ei ddefnyddio i gynllunio ar gyfer 'gweddill y tymor' yn cynnig dim cysur.

"Mae'r cyhoeddiad, fodd bynnag, yn cadarnhau ein galwad am flaenoriaethu athrawon i dderbyn y brechlyn newydd, oherwydd mae'r feirws yma wedi niweidio addysg ein dysgwyr ifanc ddigon yn barod."

Plaid Cymru'n cytuno

Llefarydd addysg Plaid Cymru yw Sian Gwenllian, a dywedodd: "Mae'r eglurder yma ar yr unfed awr ar ddeg gan Lywodraeth Cymru yn rhoi prin ddim amser i rieni ac athrawon addasu i amgylchiadau sy'n newid.

"Yn Yr Alban, mae'r llywodraeth wedi penderfynu symud i addysg ar-lein tan fis Chwefror gan bod y feirws wedi mynd o flaen y brechlyn. Mae angen i Lywodraeth Cymru egluro pam ei bod yn llusgo'i thraed wrth gymryd camau cadarn i gael y feirws o dan reolaeth.

"Mae'n aneglur beth y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl fydd yn newid ymhen pythefnos, felly rydym mewn peryg o fod yn yr un sefyllfa eto bryd hynny.

"Mae angen cynllun brechu i holl staff ysgolion i ddechrau ar unwaith gydag amserlen ar gyfer hynny'n cael ei chyhoeddi."

Mae nifer y cleifion Covid-19 mewn unedau gofal dwys ar ei lefel uchaf ers y gwanwyn gyda'r sefyllfa yn un "ddifrifol iawn" medd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething fod cyfradd achosion Cymru wedi gostwng o 636 achos fesul 100,000 o bobl ar 17 Rhagfyr i 446 o achosion ddydd Llun.