Cynllun 'hyblyg' i ailagor ysgolion o ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod yn parhau i fod yn hyblyg ynglŷn ag agor ysgolion sy'n golygu y bydd rhai disgyblion uwchradd yng Nghymru yn dychwelyd dros wythnos ynghynt na disgyblion yn Lloegr a'r Alban.
Yn ôl awdurdodau lleol, mae llawer o ysgolion uwchradd yn anelu at ailagor ar 11 Ionawr, ac mae rhai'n bwriadu ailagor yn llawn ar 6 Ionawr.
Mae'r undeb addysg NEU Cymru'n galw am ohirio dysgu wyneb yn wyneb tan o leiaf 18 Ionawr, gan ddadlau bod angen mwy o amser i ddeall goblygiadau'r amrywiolyn Covid newydd.
Mae disgwyl i ysgolion Cymru ddarparu gwasanaeth ar gyfer plant bregus a phlant gweithwyr allweddol o wythnos nesaf.
Bydd gwersi ar-lein ar gyfer disgyblion eraill cyn i'r ysgolion ailddechrau dysgu wyneb yn wyneb.
Penderfyniad 'anodd'
Dywed cynghorau Cymru eu bod yn monitro'r sefyllfa.
Mae siroedd gyda chyfraddau heintio uchel fel Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Blaenau Gwent a Thorfaen yn bwriadu dechrau croesawu disgyblion yn ôl yn yr ysgolion o ddydd Llun 11 Ionawr ymlaen.
Yn Sir Fynwy mae disgwyl pob disgybl yn ôl yn yr ysgol ddydd Mercher, 6 Ionawr, a hynny wedi deuddydd o wersi ar-lein ar 4 a 5 Ionawr, oni bai bod dyddiau Hyfforddiant Mewn Swydd.
Mae ysgolion Sir Conwy hefyd yn bwriadu ailagor ar 6 Ionawr, ar sail canllawiau Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asesiadau staff ysgolion unigol.
Dywedodd Huw Hilditch-Roberts, arweinydd materion addysg Cyngor Sir Ddinbych bod nifer achosion y sir sy'n gysylltiedig ag ysgolion "yn isel, ond yn cynyddu".
O'r herwydd, meddai, "rydym wedi cymryd y penderfyniad anodd i ddilyn cyngor Llywodraeth Cymru i ysgolion ailddechrau darparu dysgu ar-lein ar ddechrau'r tymor, gyda'r disgwyl y bydd dysgu wyneb yn wyneb yn ailddechrau ddydd Llun 11 Ionawr."
'Sail y wyddoniaeth'
Mae'r sefyllfa'n parhau'n "ddryslyd", medd Eithne Hughes, cyfarwyddwr undeb yr arweinwyr ysgolion a cholegau, ASCL Cymru.
"Bydd rhai ysgolion â phlant i mewn wythnos nesaf," meddai. "Ein barn yw bod angen i Lywodraeth Cymru benderfynu'n ganolog ynghylch ailagor ysgolion. Wedi'r cyfan, wnaethon nhw benderfynu rhoi'r wlad dan y cyfyngiadau mwyaf llym heb wahaniaethu rhwng cynghorau yn hynny o beth."
"Rhaid i unrhyw benderfyniad fod ar sail y wyddoniaeth... Mae angen tryloywder ynghylch y rhesymeg. Gynted â bo'r wyddoniaeth ar gael, dylid ei ryddhau."
Mae plant yn cael salwch ysgafnach o ddal Covid, ond mae ofnau ynghylch goblygiadau'r amrywiolyn diweddaraf o fewn ysgolion.
Roedd penderfyniad Llywodraeth Cymru cyn Nadolig i roi pythefnos o hyblygrwydd i awdurdodau addysg wrth drefnu i ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgolion yn "synhwyrol," medd Mary van den Heuvel, uwch swyddog polisi NEU Cymru. Ond mae'n dadlau fod y sefyllfa wedi newid ers hynny gyda Chymru gyfan bellach dan gyfyngiadau Lefel 4.
"Mae angen amser i'w gwyddonwyr ddarganfod mwy am yr amrywiolyn yma, a'r natur drosglwyddadwy ymhlith plant oedran ysgol," meddai.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai'r flaenoriaeth yw galluogi dysgu wyneb yn wyneb ymhob achos lle mae'n ddiogel gwneud hynny.
"Rydym wedi cytuno gydag awdurdodau lleol ffordd ymlaen ar y cyd o ran ailagor ysgolion ym mis Ionawr gyda pheth hyblygrwydd ym mhythefnos cyntaf y tymor," meddai. "Ein disgwyliad ni yw y bydd disgyblion, pan nad yn yr ysgol, yn parhau i elwa o ddysgu ar-lein.
"Fel yn achos unrhyw newidiadau o ran agor ysgolion a cholegau ar gyfer dysgu uniongyrchol, bydd penderfyniadau ar sail y cyngor gwyddonol diweddaraf. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau ar unrhyw newidiadau i'r trefniadau ailagor."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2020