Ofnau ynghylch israddio canolfan marchnata gwlân

  • Cyhoeddwyd
Depo BWMB yn Ninas Mawddwy

Mae undeb ffermwyr yr NFU yn galw ar Fwrdd Marchnata Gwlân Prydain (BWMB) i beidio israddio eu depo yn Ninas Mawddwy.

Mae'r safle yn ne Gwynedd wedi bod yn gwasanaethu ffermwyr ers degawdau, ac mae aelodau'r undeb yn galw ar gadeirydd BWMB i ailystyried ei newid o ddepo canolradd i ganolfan gasglu.

Byddai hynny, medd cynhyrchwyr gwlân lleol, yn golygu mwy o gostau iddyn nhw yn y dyfodol.

Dywed y Bwrdd fod trafodaethau'n parhau.

'Symud swyddi o ardal wledig'

"Byddai symud y depo o Ddinas Mawddwy yn golygu symud o ardal wledig nifer o swyddi sydd wir eu hangen," meddai cadeirydd yr NFU ym Meirionnydd, Rhodri Jones.

"Byddai hyn hefyd yn golygu colli'r cyfle i ddefnyddio'r depo a adnewyddwyd yn ddiweddar fel canolfan raddio.

Disgrifiad o’r llun,

Mae newid statws y depo'n codi sawl cwestiwn i gynhyrchwyr gwlân lleol, medd Rhodri Jones

"Mae'r aelodau yn y sir yn anfodlon oherwydd er gwaetha'r ffaith y byddai canolfan gasglu yn parhau i fod yn Ninas Mawddwy, byddai unrhyw wlân sy'n cael ei gasglu yno yn golygu ffi o £5.15 am gludiant pob sach i'r Drenewydd.

"Mae'r ffi ychwanegol o £5.15 yn ergyd arall i gynhyrchwyr gwlân yn y sir wrth wynebu enillion isel gwlân 2020. Wrth wynebu ansicrwydd o ran marchnadoedd ar gyfer y tymor sydd i ddod, bydd cyflwyno'r ffi o £5.15 yn sicr yn golygu colledion ar waith trin gwlân, beth bynnag fo costau'r cneifio.

"Tra bod aelodau yn derbyn bod natur y farchnad wlân yn gyfnewidiol, roeddent o'r farn y byddai ffioedd ychwanegol i'w talu gan y cynhyrchwr yn cael effaith negyddol ar broffidioldeb. O bosib, byddai rhai cynhyrchwyr yn cwestiynu eu teyrngarwch i'r bwrdd."

Ychwanegodd Mr Jones: "Rydym ni'n gwbl ymwybodol, ac yn deall, ein bod yn byw mewn cyfnod digynsail oherwydd pandemig Covid-19 a'r dinistr economaidd mae'n achosi.

"Rydym hefyd yn ymwybodol fod goblygiadau'r pandemig yn cael cryn effaith ar y bwrdd a'i weithgareddau. Rydym yn deall fod yn rhaid gwneud arbedion er mwyn datrys y broblem.

"Wrth gwrs, mae NFU Cymru wedi sefyll yn gadarn gyda'r bwrdd dros y misoedd diwethaf yn yr ymdrech i sicrhau pecyn cymorth gan y llywodraethau ym Mae Caerdydd a San Steffan.

Dywedodd llefarydd ar ran BWMB bod trafodaethau yn parhau ac o'r herwydd nad oedden nhw am wneud cyfweliad ar y mater tan ar ôl cyfarfod gyda'r NFU ddydd Llun nesaf.

Mae disgwyl y bydd y Bwrdd yn gwneud datganiad cenedlaethol ddydd Mawrth ynghylch sefyllfa bresennol y farchnad wlân.

Pynciau cysylltiedig