'Rhaid newid er mwyn diogelu'r diwydiant opera'
- Cyhoeddwyd
Canwr opera proffesiynol yw Paul Carey Jones, sy'n wreiddiol o Gaerdydd, ond sydd wedi bod yn byw yn Llundain ers y cyfnod clo cyntaf fis Mawrth.
Gan fod perfformiadau mewn theatrau wedi bod ar stop, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn ddistaw iawn iddo, ac mae wedi cymryd yr amser i ysgrifennu blog - sydd bellach wedi cael ei droi yn llyfr - sy'n cymryd cipolwg craff a beirniadol ar y diwydiant cerddoriaeth glasurol.
'Daeth y galwadau ffôn...'
Roedd bywyd Paul yn un arferol i ganwr opera llawrydd; bywyd prysur lle roedd yn teithio ac yn gweithio dramor - yng Ngwlad yr Iâ, Yr Eidal, China - ynghyd ag yn agosach at adref yn Yr Alban a Llundain.
Ym mis Mawrth, roedd wedi bachu ar y cyfle i fynd at ei bartner i Lundain ar gyfer ei ben-blwydd, cyn blwyddyn brysur o berfformio, pan gafodd y cyfnod clo ei gyhoeddi:
"Roedd lot o waith 'da fi dros weddill y flwyddyn a hwn oedd y trip bach ola' cyn i'r gwaith ail-ddechrau. Aethon ni mas i'r theatr, a'r diwrnod wedyn daeth y lockdown mewn, a tua wythnos wedyn daeth y galwadau ffôn...
"O'dd contractau gyda fi ar gyfer 2020 a wedyn o'dd trafodaethau tu hwnt i'r flwyddyn. Ga'th y contractau yna i gyd eu canslo neu eu gohirio o fewn penwythnos.
"Erbyn y diwedd, o'dd y ffôn yn canu ac o'n i'n ateb gyda 'ie ie, dwi'n gwybod be' sy'n dod...'."
Roedd ganddo ddau ddewis, meddai: mynd yn ôl i Gaerdydd i "eistedd ar y soffa yn gwneud dim byd" neu aros yn Llundain. Ei benderfyniad oedd aros lle'r oedd o, er mwyn helpu i edrych ar ôl plant ei bartner tra'i bod hi yn gweithio fel nyrs yn ymchwilio i mewn i COVID-19.
'Rhoi pethau i ffwrdd'
Â'i waith i gyd wedi diflannu, roedd Paul angen ffocws arall yn ei fywyd, ynghyd ag allbwn greadigol arall yn lle'r canu, meddai. Penderfynodd gadw blog yn cadw cofnod o'r hyn oedd yn digwydd, ac arsylwi ar sut oedd y diwydiant cerddoriaeth glasurol yn ymdopi.
Rhoddodd hyn gyfle iddo edrych ar y diwydiant o'r tu allan am y tro cyntaf yn ei yrfa, meddai, ac roedd yn eithaf beirniadol o'r hyn a sylwodd arno.
"'Nath ambell i flog dynnu sylw achos mod i'n arsylwi ar bethau oedd yn bynciau llosg i'r diwydiant.
"Er enghraifft y busnes yma fod cerddoriaeth glasurol, pan maen nhw wedi cael eu rhoi ar-lein - fideos a cherddoriaeth ayyb - bydden nhw'n tueddu i beidio codi arian ar bobl i'w gwylio nhw.
"Dwi'n gofyn pam bod ni'n rhoi'r pethau 'ma i ffwrdd am ddim, gan fod yna ddim incwm arall gyda ni ar y pryd. Gofyn cwestiynau o'n i, ynglŷn ag oes 'na ffyrdd gwell o wneud beth 'yn ni wedi ei wneud?"
Bellach, yn dilyn sylw y cafodd ei flog, mae beth ddechreuodd yn brosiect i basio'r amser yn ystod y cyfnod clo bellach wedi troi yn llyfr, sef Giving It Away: Classical Music in Lockdown and other fairytales.
Diwydiant drud
Un o'r pethau mae Paul yn ei godi yw amharodrwydd y diwydiant cerddoriaeth glasurol i gydnabod faint o arian sy'n angenrheidiol er mwyn cynnal ei hun. Mae hyn yn rhywbeth mae Paul wedi sylwi arno ers blynyddoedd, ond sydd wedi dod yn fwy amlwg yn y flwyddyn ddiwethaf, meddai, wrth i bopeth ddod i stop.
"Dwi'n meddwl weithiau ein bod ni'n swil ynglŷn â'r ffaith bod beth 'yn ni'n ei wneud yn ddrud," meddai.
"Ni'n cael ein sbwylio weithiau gan yr arian ni'n ei gael gan y llywodraeth a gan noddwyr, achos wedyn ry'n ni'n esgus bod y cynnyrch ei hunan ddim yn costio cymaint, a'i bod hi'n bosib i ddweud 'dewch i weld hwn am £5'.
"Ond mae cynhyrchu cyngerdd clasurol, ac opera yn arbennig, yn hynod ddrud.
"Chi'n edrych ar faint mae gwylio ffilm yn y sinema yn costio, neu fynd i weld pêl-droed neu gyngerdd pop, ac mae pobl yn deall fod y pethau yma yn costio arian. Ac eto 'yn ni'n gwneud rhywbeth sydd yn fwy drud i gynhyrchu ond dy'n ni ddim yn fodlon bod yn onest ynglŷn â faint ma'r peth yn gostio.
"Y broblem gyda hynny wrth gwrs, yn y pen draw, yw bod ni methu fforddio 'neud mwy."
Problem wrth wraidd y diwydiant
Un o'r gwendidau yn strwythur y diwydiant sydd wedi dod yn boenus o amlwg eleni, meddai Paul, ydi'r ffaith ei fod yn dibynnu yn helaeth ar weithwyr llawrydd. Gyda'r perfformiadau y llynedd wedi eu canslo neu eu gohirio, doedd yna ddim digon yn cael ei wneud i warchod y gweithwyr yma, meddai.
"'Dyn ni yn y wlad yma wedi colli bron yn llwyr y system o gyflogi cantorion yn llawn amser, a'r broblem sydd gyda ni yw ein bod ni'n dibynnu ar berfformiadau bron yn llwyr i unrhyw arian ddod i'r artistiaid.
"Pan dyw perfformiadau ddim yn gallu digwydd, s'dim ots faint o arian sy'n dod mewn, o'r llywodraeth neu o unrhyw fan arall, does dim mecanwaith i'r arian 'na ddod at yr artistiaid.
"Dyna'r system sydd wedi esblygu dros y degawdau diwethaf, a mae nghenhedlaeth i a'r genhedlaeth nesa' wedi tyfu fyny gyda'r syniad bod bod yn unawdydd operatig yn fywyd bregus ac ansicr tu hwnt, a fod hwnnw jest yn rhan o'r peth."
Edrych i'r dyfodol
Er fod Paul o'r farn fod yna bethau sydd angen eu newid yn y diwydiant, mae'n cael ei galonogi gan addasiadau sydd wedi gorfod digwydd yn ystod y flwyddyn anodd ddiwethaf, fel gwneud mwy o gynnwys ar-lein.
Ei obaith yw y bydd y newidiadau cadarnhaol sydd wedi cael eu gwneud eisoes yn parhau, ac yna bydd hynny yn arwain at fwy o newidiadau yn y dyfodol.
"Ni'n tueddu i fod yn ddiwydiant gweddol geidwadol a thraddodiadol," meddai. "Mae 'na bethau da am hynny ond mae hefyd angen edrych dros bethau o dro i dro i ofyn os oes ffyrdd gwell erbyn hyn o wneud pethau.
"Mae ffyrdd o wneud pethau nawr sy'n well na'r hen ffyrdd. Ac wrth edrych 'mlaen, dylen ni fod yn cadw rheiny.
"Dwi ddim yn esgus fod e ddim yn her anodd, ond yn y pen draw mae cyfrifoldeb arnon ni, fel rhan o'r diwydiant yma, i sicrhau bod opera a cherddoriaeth glasurol yn goroesi tu hwnt i'n bywydau ni.
"Dyma gyfle perffaith i wneud hynny."
Hefyd o ddiddordeb: