Dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan lori ar yr M4
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi marw ar ôl iddo gael ei daro gan lori ar yr M4 ar gyrion Caerdydd yn oriau mân fore Mercher.
Cafodd y dyn ei daro ar y ffordd i gyfeiriad y gorllewin rhwng cyffyrdd 30 a 32 am tua 03:45, a bu farw yn y fan a'r lle.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod teulu'r dyn wedi cael gwybod a'u bod yn derbyn cefnogaeth gan y llu.
Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw dystion a welodd y digwyddiad ei hun neu'r dyn yn cerdded cyn y digwyddiad i gysylltu â nhw.