Rhwystredigaeth cyn-feddyg am gynllun brechu Covid
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-feddyg teulu yn y gogledd wedi siarad am ei "rhwystredigaeth" ar ôl darganfod na all wirfoddoli i helpu i roi brechlyn Covid-19 i bobl heb wneud cais am swydd gyflogedig fel brechwr.
Fe wnaeth Dr Rachel Mackereth ymddeol o'i swydd mewn meddygfa ym Metws-y-coed dair blynedd yn ôl.
Y llynedd, cytunodd i gael ei hailgofrestru ar y rhestr meddygon teulu, gan ganiatáu iddi allu gweithio eto.
Roedd y broses honno'n cynnwys gwirio ei chymwysterau a derbyn gwiriad diogelwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ond pan gynigiodd helpu gyda chyflwyno brechlynnau Covid-19, clywodd y byddai'n rhaid iddi wneud cais am swydd, cyflenwi tystlythyrau ac y byddai'n rhaid iddi fynd am gyfweliad ffurfiol am swydd gyflogedig.
"Mae hon yn sefyllfa argyfyngus. Rydyn ni mewn pandemig ac mae angen i ni frechu pobl cyn gynted â phosib. Dyma'r unig ffordd allan o'r argyfwng yma," meddai Dr Mackereth.
Roedd ei gŵr, sydd hefyd yn feddyg teulu wedi ymddeol, am wirfoddoli i helpu gyda'r rhaglen frechu.
Dywedodd Dr Mackereth ei bod yn credu ei bod yn rhesymol bod angen gwirio ei chymwysterau, ond cafodd glywed nad oedd modd iddi wirfoddoli o achos mater yn ymwneud ag yswiriant, pe bai rhywbeth yn mynd o'i le.
Mae hyn er gwaethaf y ffaith ei bod wedi rhoi "cannoedd, os nad miloedd" o frechiadau yn ystod ei gyrfa dros 30 mlynedd, meddai, a'r rhain i gyd bron yn y gogledd.
"Siawns, mewn argyfwng, mae'n rhaid bod rhywun, efallai mewn safle uchel, all ganiatáu i hynny ddigwydd. Dwi ddim eisiau cael fy nhalu. Dim ond eisiau helpu ydw i," meddai.
Dywed Dr Mackereth ei bod yn gwybod am gyn-nyrsys a meddygon teulu eraill sy'n rhwystredig eu bod wedi wynebu'r un broblem.
Mewn neges uniongyrchol at lywodraethau Cymru a'r DU, dywedodd: "Rydym yn barod i ddod i helpu. Os gwelwch yn dda, gadewch i ni ddod i roi ein gwasanaeth.
"Nid ydw i am gael fy nhalu, rwy'n deall bod yn rhaid cael mesurau diogelwch ac mae'n rhaid i bethau cael ein gwirio - ond gwnewch ddefnydd ohonom ni. Mae hwn yn argyfwng."
Mae Dr Mackereth bellach wedi gwneud cais am swydd fel brechwr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2021