Gwrthod brechu: Teulu mewn 'sefyllfa anobeithiol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Bryn EvansFfynhonnell y llun, Elen Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bryn Evans "mewn stafell ar ei ben ei hun," medd ei wyres

Mae teulu o'r gorllewin yn dweud eu bod yn wynebu "sefyllfa anobeithiol" ar ôl i'w tad-cu fethu â derbyn brechlyn coronafeirws am fod preswylwyr eraill yn yr un cartref gofal wedi profi'n bositif.

Dywed Elen Morgan fod y teulu wedi cael gwybod "na allan nhw gael y brechlyn nes bod 28 diwrnod wedi mynd heibio heb un achos positif" yn y cartref gofal.

Esboniodd fod ei thad-cu, Bryn Evans, sy'n 87 oed, wedi profi'n negyddol am y feirws ddwywaith, ac wedi cael ei gadw yn ei ystafell yng nghartref gofal Glyn Nest ers 20 Rhagfyr.

Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fod "arweiniad y llywodraeth" yn golygu nad ydyn nhw "yn rhoi brechlynnau mewn cartrefi gofal gydag achosion parhaus o Covid-19".

Ychwanegodd Ms Morgan fod y sefyllfa'n "bryder enfawr".

Ar hyn o bryd mae'r cartref gofal preifat yng Nghastellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin, yn cael ei redeg gan yr awdurdod lleol oherwydd nifer y staff sydd i ffwrdd o'u gwaith oherwydd coronafeirws.

"Yr hyn dydyn ni ddim yn ei ddeall yw na all nawr gael brechlyn, er gwaethaf y ffaith ei fod wedi cael o leiaf dau brawf negyddol," meddai Ms Morgan.

"Ac mae'r un peth yn wir am y staff - ni allan nhw gael y brechlyn chwaith tan fod 28 diwrnod wedi pasio heb un achos positif.

"Fe allen ni gael ein hunain yn mynd rownd a rownd mewn cylchoedd yma. Beth sy'n digwydd os bydd rhywun yn profi'n bositif ar ddiwrnod 27 - mae 28 diwrnod arall wedyn yn gorfod mynd heibio. Nid yw'n gwneud synnwyr i ni fel teulu.

"Dydyn ni, fel llawer o deuluoedd eraill, heb ei weld yn iawn ers mis Mawrth diwethaf. Ac ers 20 Rhagfyr nid yw wedi cael gadael ei ystafell.

"Mae'n byw gyda dementia, sy'n amlwg yn ofnadwy beth bynnag, ond mae'r sefyllfa yn gwneud pethau ganwaith yn waeth, ac yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf rydym wedi gweld dirywiad yn ei iechyd."

Disgrifiad,

'Annheg' bod tad-cu ddim yn cael derbyn y brechlyn

Dywedodd Ms Morgan fod ei mam wedi holi'r cyngor am y brechlyn ond fe ddywedwyd wrthi fod "rheolau'r bwrdd iechyd yn dweud na ddylai fod unrhyw achosion cadarnhaol yn y cartref am 28 diwrnod".

Dywedodd Jill Paterson, cyfarwyddwr gofal sylfaenol, gofal cymunedol a thymor hir ar gyfer Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Rydyn ni'n gwybod y bydd llawer o'n preswylwyr cartrefi gofal yn awyddus i gael gafael ar y brechlyn cyn gynted â phosib.

"Nawr bod brechlyn Oxford-AstraZeneca wedi'i gymeradwyo, rydym yn cyflwyno ein rhaglen frechlyn i bobl dros eu 80au yn y gymuned a thrigolion cartrefi gofal, ond bydd hyn yn cymryd peth amser oherwydd y gwaith o ddosbarthu'r brechlyn a'r ffaith ein bod yng nghefn gwlad.

"Rydym yn dilyn canllawiau cyfredol y llywodraeth ynghylch brechu mewn lleoliadau cartrefi gofal sy'n cynnwys peidio â rhoi brechlynnau mewn cartrefi gofal gydag achosion parhaus o Covid-19."

Ffynhonnell y llun, Elen Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Bryn Evans a'i wyres Elen

Wrth siarad ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru, dywedodd Ms Morgan nad yw'r teulu "yn gallu deall" y rheswm dros beidio darparu'r brechlyn.

"Os bydd yn rhaid i'r cyngor sir bellach fod yn gyfrifol am y cartref oherwydd diffyg staff yna oni fyddai'n gwneud synnwyr i'r staff hynny sydd wedi profi'n negyddol gael y brechlyn a'r preswylwyr hefyd sydd wedi profi'n negyddol?

"Meddygon, nyrsys, maen nhw i gyd yn mynd i mewn i'r cartref i ofalu am y rhai sydd wedi cael prawf positif. Felly pam felly na all y rhai sydd wedi cael prawf negyddol gael eu brechu hefyd?

"Dydyn ni ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd. Mae gen i fab nawr sy'n saith wythnos oed, felly dyw fy nhad-cu ddim hyd yn oed wedi cwrdd â'i or-ŵyr.

"Mae e mewn ystafell, ar ei ben ei hun, ac mae ei iechyd meddwl yn dirywio. Mae'n sefyllfa gwbl anobeithiol."

Pynciau cysylltiedig